A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cwn ar Grwydr

Beth yw ci ar grwydr?

Unrhyw gi sy'n cael ei ganfod mewn lle cyhoeddus neu breifat lle na ddylai fod, sy'n ymddangos fel nad ydyw gyda'i berchennog neu heb fod dan reolaeth ei berchennog na rhywun yn eu cynrychioli.

To top

Deddfwriaeth

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gasglu a chadw cwn ar grwydr.

To top

Beth sy'n digwydd pan fydd ci ar grwydr yn cael ei gadw gan y Cyngor?

Bydd y cyngor yn dal cwn sy'n cael eu canfod yn crwydro'r strydoedd heb golar a thag neu ficrosglodyn a byddant yn cael eu gosod yn un o gynelau cwn strae y Cyngor. Bydd y cwn yn cael eu cadw yn y cynelau am gyfnod o saith diwrnod er mwyn i'w perchnogion allu eu hawlio.

Codir ar berchnogion am gael eu cwn yn ôl er mwyn darparu ar gyfer costau cael gafael ar y cwn a'r gost o'u cadw yn y cynel. Os na fydd y cwn wedi cael eu hawlio ar ôl saith diwrnod, bydd y cwn yn cael eu hailgartrefu naill ai gan y cynelau neu asiantaeth ailgartrefu cwn.

To top

Beth ydw i'n ei wneud os byddaf yn dod o hyd i gi ar grwydr?

Cysylltwch â'r Cyngor - mae'r cysylltiadau angenrheidiol a ffurflen roi gwybod ar-lein ar ochr y dudalen yma - a byddwn yn trefnu i'r ci gael ei gasglu.

To top

Beth ydw i'n ei wneud os byddaf yn colli fy nghi?

Cysylltwch â'r Cyngor - mae'r manylion cysylltu angenrheidiol a ffurflen rhoi gwybod ar-lein - a byddwn yn cofrestru eich manylion a manylion eich ci. Byddwn yn croesgyfeirio'r manylion hyn gyda'r cwn yr ydym yn eu cadw eisoes ac yn eich cynghori os bydd gennym gi sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad o'ch ci chi yn ein cynelau.

To top

RSS