A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

I Blant

Cliciwch ar rannau o Ddrysfa'r Llyfrgell i ddarganfod rhagor am eich llyfrgell

Derbynfa Cryno Ddisgiau a DVD Cyfrifiaduron a Gwasanaethau Ar-lein Papurau Newydd a Chylchgronau Llyfrau Ffeithiol Ffuglen

Croeso!

Mae rhywbeth i bawb yn llyfrgelloedd plant Powys!

  • Llyfrau stori i bob oedran - babanod i bobl ifanc yn eu harddegau
  • Llyfrau gwybodaeth am ddiddordebau neu waith cartref
  • Cyfrifiaduron i'w defnyddio yn y llyfrgell
  • Fideos a thapiau storiau mewn llyfrgelloedd mwy o faint
  • Cystadlaethau, adrodd storiau a phethau eraill i’w gwneud.

Pori Drwy Stori

logo Pori Drwy Stori

Mae Pori Drwy Stori yn rhaglen ddwyieithog newydd a chyffrous wedi'i hanelu at gefnogi llythrennedd plant wrth iddynt ddechrau yn y dosbarth Derbyn ymhob ysgol a gynhelir yng Nghymru. (Bydd pob plentyn 4- i 5- yn cymryd rhan.) Mae'r rhaglen yn darparu adnoddau i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a gartref gan anog rhieni i barhau â'u rôl fel partneriaid wrth ddysgu eu plant. Mae 3 elfen i'r rhaglen -

  • Mae'r Sialens Rhigymau yn cynnwys dysgu ac adrodd rhigymau a barddoniaeth
  • Mae Amser Llyfr yn darparu pecyn llyfr am ddim, sy'n cynnwys dau lyfr lluniau i'w mwynhau gyda'ch gilydd gartref
  • Mae Fy Llyfr yn rhoi cyfle i bob plentyn greu eu llyfr eu hunain i'w gadw.

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn bartner gweithredol yn y rhaglen, sy'n ei helpu trwy ddarparu adnoddau a gweithgareddau mewn llyfrgelloedd lleol.  Caiff rhaglen Pori Drwy Stori ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

To top

Ask Cymru

Oes gennych chi gwestiwn? Ask Cymru yw Llyfrgell Gyfeiriadol Electronig Cymru.
Mae Ask Cymru yn barod i geisio ateb eich cwestiynau ac i anfon e-bost yn ôl atoch o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Mae Llyfrgellwyr led led Cymru - gan gynnwys Powys - yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth Ask Cymru.

Cliciwch yma i gyrraedd gwefan Ask Cymru

Dolen i Ask Cymru

Enillwyr Gwobr Doniol Roald Dahl wedi'u Cyhoeddi

llun o Wobr Doniol Roald Dahl

Mae enillwyr y rhestr fer am Wobr Doniol Roald Dahl cyntaf erioed wedi'u cyhoeddi gan yr elusen ddarllen Booktrust.

Mae'r wobr yn cydnabod llyfrau sy'n addas ar gyfer plant ac sydd hefyd yn ddoniol. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Wobr Ddoniol Roald Dahl.

RSS