A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ydych chi’n gymwys ar gyfer gwasanaethau

Taflen - Allwch chi gael help?
Cliciwch y llun i lawrlwytho'r Daflen Cymhwyster

Pwy sy'n Gallu Cael Help oddi wrth y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion? (Meini Prawf Cymhwyster)

Ni all cynghorau fforddio diwallu anghenion pawb, ac nid yw Powys yn wahanol i unrhyw gyngor arall yn hyn o beth. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni fod yn eglur ynglyn â phwy y gallwn neu na allwn fforddio darparu ar ei gyfer.

Er mwyn bod yn gyson ar gyfer pawb yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru'n rhoi "meini prawf cymhwyster" i ni - pa anghenion beunyddiol allwn ni eu diwallu, a pha rai allwn ni ddim (Mynediad Teg at Wasanaethau) ac mae'n rhaid i bob Cyngor ddilyn meini prawf hyn.

Pan fyddwn ni wedi dod i'ch adnabod chi a gwybod am eich amgylchiadau (eich Asesu), byddwn yn trafod eich anghenion â chi, a hefyd yn ystyried pa risg allech chi fod yn ei wynebu os na chewch y gwasanaethau, ac os nad oes unrhyw un arall all eich helpu.  (Byddwn yn anwybyddu unrhyw gymorth a gewch oddi wrth unrhyw un arall).

Byddwn yn ystyried:

  • a allwch chi wneud penderfyniadau a dewisiadau
  • a ydych yn ddiogel rhag niwed gennych chi eich hun neu gan eraill
  • a allwch chi gadw trefn hanfodol; a allwch chi ofalu amdanoch eich hun (eich hylendid, coginio, bwyta, symud o amgylch, ac ati) a'ch gallu i reoli'r ty
  • a oes angen help arnoch i gael bywyd cymdeithasol, gyda'r teulu neu yn y gymuned.


Yna bydd yn rhaid i ni ofyn beth yw'r risg sy'n eich wynebu os na chewch unrhyw help o gwbl, a phenderfynu a yw lefel eich risg yn "argyfyngus", yn "sylweddol", yn "gymedrol" neu'n "isel".

Mae'n bosibl fod yr esboniad yn ymddangos yn "swyddogol" neu'n "fiwrocrataidd" iawn. Mae hynny'n wir, ond dyna'r rheolau y mae'n rhaid i ni eu dilyn.

Neu, o'i roi mewn ffordd arall, rydym yn pryderu:

  • Os na allwch chi ymdopi â phethau hanfodol pob dydd i'ch cadw eich hun yn annibynnol
  • Os ydych yn cael anhawster i ymdopi, ond rydych chi neu ofalwr yn wynebu risg difrifol o gael anaf neu fod eich trefniadau gartref yn chwalu
  • Y gallech fod wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, neu y gallai hyn ddigwydd yn y dyfodol
  • Mae risg i'ch bywyd mewn rhyw ffordd.


Mewn argyfwng byddwn bob amser yn gweithredu ar frys i ddiwallu'ch anghenion uniongyrchol pan fydd hi'n briodol i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol wneud hynny, neu byddwn yn eich cynorthwyo i gael yr help uniongyrchol sydd ei angen arnoch oddi wrth wasanaethau eraill (Gwasanaethau Cwsmer a Gwasanaeth y tu allan i Oriau Arferol).

Byddwn yn ystyried pob un o'ch anghenion ar wahân, felly hyd yn oed os yw un ohonynt yn golygu y dylech fod yn gymwys i dderbyn help, nid yw'n golygu o angenrheidrwydd y byddwch yn cael help gyda'r materion eriall - dim ond gyda'r rheiny sy'n "gymwys".

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Powys yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl gyda lefelau risg  "argyfyngus", "sylweddol", neu "gymedrol" . Dim ond ar gyfer y rheiny gyda risg "argyfyngus" neu "sylweddol" y bydd y rhan fwyaf o Gynghorau yng Nghymru yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer.

Gallai hyn newid ym Mhowys yn y dyfodol, a byddwn yn diweddaru'r wefan pan fydd hynny'n digwydd.

Dylai'r sawl sy'n dod i'ch adnabod chi a'ch amgylchiadau esbonio a thrafod eich asesiad a'ch cymhwyster a'u cytuno â chi. Os ydych yn "gymwys", bydd gwasanaethau'n cael eu trefnu.

Os nad ydych yn "gymwys" i dderbyn help, ond eich anghenion yn newid yn ddiweddarach, dylech ofyn am "Asesiad" arall.

Os nad yw lefel eich risg yn golygu bod y bygythiad i'ch annibyniaeth yn "argyfyngus", yn "sylweddol" neu'n "gymedrol", ni fyddwn yn gallu darparu unrhyw gymorth neu gefnogaeth ymarferol tymor hirach i chi. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cyngor neu wybodaeth i chi am ffyrdd eraill o ddiwallu eich anghenion. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau y mae adrannau eraill y Cyngor, neu wasanaethau'r sector preifat neu wirfoddol yn eu darparu yn eich cymuned. 

 

Beth Os Na Allwn Eich Helpu - Dydych chi ddim yn “Gymwys" i Dderbyn y Gwasanaeth?

Oes oes gennych angen, a ninnau'n methu â'ch helpu, byddwn yn ceisio rhoi mwy o wybodaeth i chi am wasanaethau yr hoffech chi eu defnyddio. Mae yna lawer o wasanaethau lleol a allai eich helpu (gan ddibynnu ar le rydych yn byw), er enghraifft Gwasanaethau Cymorth Cymunedol CMGP/PAVO a Powys InfoEngine).

Mae'n bosibl y bydd angen i chi benderfynu a ydych chi am dalu cost lawn gwasanaeth busnes preifat (er enghraifft, glanhau, siopa, cynnal a chadw'r ty, cyfarpar, rhywfaint o ofal personol) ai peidio.

Bydd tâl yn cael ei godi am wasanaethau gwirfoddol, os ydynt ar gael yn eich ardal i ddiwallu eich anghenion, ond mae'n bosibl y bydd modd cael cymhorthdal tuag at y gost.

Er ein bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Iechyd Powys, Gwasanaethau eraill Cyngor Sir Powys, Gwasanaethau'r Llywodraeth Ganolog, y Gwasanaeth Budd-daliadau a gwasanaethau gwirfoddol a phreifat, mae pob un o'r rhain yn wasanaethau ar wahân ac nid Gwasanaethau Gofal Oedolion Powys sy'n gyfrifol amdanynt.

 
Beth os ydw i'n Anghytuno gyda Phenderfyniad i'm Helpu neu i Beidio â'm Helpu?

Os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniadau a wnaed ynglyn â'ch anghenion neu'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig neu ddim yn cael eu cynnig, esboniwch hynny i'r sawl sy'n cynnal eich asesiad.

Os na allwch gytuno, gofynnwch am enw eu Rheolwr a gofynnwch am gael siarad ag ef/hi.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, cofnodwch eich cwyn.

Mae'n rhaid i chi gael copi o'ch Asesiad a'ch Cynllun Gofal.

 

Pwy all gael cymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion? (Meini Prawf Cymhwyso)

Ni all Cynghorau fforddio cwrdd ag anghenion pawb ac nid yw Powys ddim gwahanol. Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn inni nodi’n glir pwy allwn fforddio eu helpu – a phwy na allwn eu helpu.

Gallwn helpu pobl sydd â thrafferthion ac anghenion sy'n effeithio ar eu bywydau pob dydd, fel pobl:

Er mwyn bod yn gyson gyda phawb yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru’n rhoi ‘meini prawf cymhwyso’ inni - sef pa bryderon pob dydd y gallwn ac na allwn eu cwrdd (Mynediad Teg at Wasanaethau) a rhaid i bob Cyngor ddilyn y rhain.

Ar ôl cael gwybod mwy amdanoch chi a’ch amgylchiadau (Asesiad), byddwn yn siarad gyda chi am eich anghenion ond hefyd i ystyried y risg i chi os na fyddwch yn cael y gwasanaethau ac nid oes neb arall i'ch helpu. (Byddwn yn anwybyddu unrhyw gymorth a gewch gan rywun arall yn barod).

Byddwn yn ystyried:

  • os gallwch wneud penderfyniadau a dewisiadau 
  • a ydych yn ddiogel rhag niweidio eich hun neu rhag niwed gan eraill 
  • a allwch ymdopi â hanfodion beunyddiol; a allwch ofalu amdanoch eich hun (ymolchi, coginio, bwyta, symud o gwmpas, ayb) a rhedeg eich cartref 
  • a oes angen help arnoch i gael bywyd cymdeithasol, teuluol a chymunedol.

Byddwn yna’n barnu beth yw'r risg i chi heb gymorth o gwbl ac yn penderfynu a fyddai'r risg yn "ddifrifol", yn "sylweddol", yn "gymedrol" neu'n "isel".

Efallai fod yr eglurhad hwn yn ymddangos yn “swyddogol” neu’n “fiwrocrataidd” iawn, ond dyma’r rheolau y mae’n rhaid inni eu dilyn.

I'w roi mewn ffordd arall, byddwn yn bryderus:

  • Os na allwch ymdopi i wneud pethau hanfodol beunyddiol i aros yn annibynnol 
  • Os ydych yn cael trafferth ymdopi, ond rydych chi neu ofalwr mewn perygl difrifol o frifo neu mae perygl difrifol y bydd trefniadau eich cartref yn torri lawr 
  • Rydych wedi neu mae’n bosibl ichi gael eich cam-drin neu eich esgeuluso
  • Mae eich bywyd, mewn rhyw ffordd, mewn perygl.

Mewn argyfwng, byddwn bob tro’n cymryd camau brys i gwrdd â’ch anghenion taer lle mae’n briodol i’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol wneud hynny, neu yn eich helpu i gael y cymorth taer sydd ei angen arnoch gan wasanaethau eraill (Gwasanaethu Cwsmer a Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau).

Byddwn yn edrych ar bob un o’ch anghenion ar wahân, felly hyd yn oed os oes un yn gymwys am gymorth, nid yw’n golygu y cewch gymorth gyda’r lleill – dim ond y rhai sy’n “gymwys”.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn darparu gwasanaethau i bobl gyda lefelau risg “difrifol”, “sylweddol” a “chymedrol”. Bydd y rhan fwyaf o Gynghorau yng Nghymru ond yn darparu i rai gydag anghenion “difrifol” a "sylweddol”.

Gallai hyn newid ym Mhowys yn y dyfodol a bydd y wefan yn cael ei diweddaru bryd hynny.

Dylai eich asesiad a’ch lefel gymhwyso gael ei egluro, ei drafod a’i gytuno rhyngoch chi a’r person sy’n dod i wybod amdanoch chi a’ch amgylchiadau. Os ydych yn “gymwys”, byddwn yn trefnu gwasanaethau.

Os nad ydych yn “gymwys” am gymorth ond mae eich anghenion yn newid, dylech ofyn am "Asesiad" arall.

Os nad yw lefel y risg ichi’n rhoi eich annibyniaeth mewn perygl “difrifol”, “sylweddol” neu “gymedrol”, ni allwn gynnig unrhyw gefnogaeth na chymorth ymarferol hirdymor ichi.  Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cyngor neu wybodaeth ichi am ffyrdd eraill o gwrdd â’ch anghenion. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau yn eich cymuned a ddarperir gan adrannau eraill o’r Cyngor, neu gan fudiad sector gwirfoddol neu sector preifat. 
 

To top

Beth os Na Allwn Eich Helpu – Nid Ydych yn “Gymwys” am Wasanaeth?

Os oes gennych angen ond ni allwn eich helpu, byddwn yn ceisio rhoi gwybod ichi am wasanaethau eraill y gallech eu defnyddio. Mae amryw o wasanaethau lleol a allai helpu gan ddibynnu lle’r ydych yn byw (Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, PAVO / Powys InfoEngine).

Efallai y bydd angen ichi benderfynu a ydych eisiau talu am gost lawn gwasanaeth gan fusnes preifat neu beidio (er enghraifft am lanhau, siopa, cynnal a chadw tŷ, cyfarpar, rhywfaint o ofal personol).

Bydd gwasanaethau gwirfoddol, os ydynt ar gael yn eich ardal chi i ateb eich angen penodol, yn costio rhywfaint ond efallai y bydd grant ar gael fel bo’n rhatach.

Er y gweithiwn yn agos â Gwasanaethau Iechyd Powys, a gwasanaethau eraill gan Gyngor Sir Powys, Gwasanaethau’r Llywodraeth Ganolog a’r Gwasanaeth Budd-daliadau ynghyd â gwasanaethau gwirfoddol a phreifat, mae’r rhain i gyd yn wasanaethau ar wahân ac nid yn gyfrifoldeb y Gwasanaethau Gofal Oedolion.

Beth os Anghytunaf â Phenderfyniad i fy Helpu Neu Ddim i Fy Helpu?

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad a wnaed ynghylch eich anghenion neu’r gwasanaethau a roddir ichi neu beidio, dylech egluro hyn i’r person sy’n cyflawni’r asesiad gyda chi.

Os na allwch gytuno ar y mater, dylech ofyn am enw eu Rheolwr a gofyn am gael siarad gyda nhw.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, dylech gofrestru cwyn.

Rhaid i gopi o’ch Asesiad a’ch Cynllun Gofal gael ei roi ichi.

 

To top

Dolenni Cyflym

Materion Ariannol

Beth yw Cost y Gwasanaethau?

Cyfarpar

Taflenni Gwybodaeth

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Dolenni cyflym

Materion Ariannol

Beth yw cost gwasanaethau?

Eich Cynllun Gofal

Offer

Taflenni Gwybodaeth

Tai a Llety

Cwestiynau Cyffredin

Geirfa

Hunan atgyfeirio

 

RSS