A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cerbydau sydd wedi'u Gadael

Mae Deddf Cael Gwared â Gwastraff (Mwynderau) 1978 yn rhoi'r pwer i'r Cyngor symud a chael gwared â cherbydau sydd wedi'u gadael.

Beth rydym ni'n ei wneud

Diffinnir cerbyd sydd wedi'i adael fel cerbyd sy'n ymddangos fel pe bai wedi cael ei adael ar unrhyw dir yn yr awyr agored neu unrhyw dir sy'n ffurfio rhan o briffordd cyhoeddus ac nad oes gan y perchennog neu geidwad cofrestredig diwethaf y cerbyd unrhyw fwriad o ddychwelyd. Fe all cerbydau sydd wedi'u gadael gynnwys trelars, carafanau a rhannau o gerbydau modur.

Os caiff cerbyd  ei adael ar dir preifat, yna bydd angen caniatâd gan berchennog y tir cyn ymchwilio i hyn.

Os yw'r cerbyd mewn cyflwr peryglus (e.e wedi'i losgi, wedi'i ddifrodi neu berygl o gael ei losgi), caiff ei symud o fewn 24 awr.

Sut rydym yn gwneud hyn.

Ar gyfer cerbydau eraill, byddwn yn rhoi 7 diwrnod o rybudd symud ar y cerbyd, ac yn ystod y 7 diwrnod hwnnw, byddwn yn ceisio dod o hyd i'r ceidwad cofrestredig diwethaf neu berchennog presennol y cerbyd. Os na allwn ddod o hyd i'r ceidwad neu'r perchennog a / neu nid yw ef yn symud y cerbyd, yna bydd yr Awdurdod yn symud y cerbyd a'i holl gynnwys ar ddiwedd y 7 diwrnod, a byddwn yn cael gwared ag ef bythefnos ar ôl hynny. Bydd yr Awdurdod yn gwneud ei orau i adfer y costau gan y ceidwad diwethaf neu'r perchennog. £379.53 yw'r gost ar hyn o bryd.

Beth allwn ni ddim ei wneud

Ni ddylid adrodd fod cerbyd wedi'i adael dim ond oherwydd nad oes treth arno, oherwydd ei fod yn cymryd lle parcio gwerthfawr neu oherwydd ei fod mewn cyflwr gwael.

Os yw cerbyd yn achosi rhwystr ar y briffordd, os credir ei fod wedi'i ddwyn neu os credir ei fod wedi bod yn rhan o drosedd, dylid dweud wrth yr Heddlu.

Rwyf am roi gwybod am gerbyd sydd wedi'i adael.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'n Desg Gymorth ar 0845 607 6060;
Neu, anfonwch e-bost at highways.and.waste@powys.gov.uk neu ffacs at 01597 826 380.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol

Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk

Teleffon: 0845 602 7035

Ffacs: 01597 827276

Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma

Cerbyd wedi'i Adael
RSS