A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Y Prosiect Cadwraeth Creadigol

Does dim man cyhoeddus mor bwysig i amrywiaeth mor eang o bobl ag yw parc cyhoeddus; dylai'r parc sy'n cynnig y blas cyntaf ar ryddid i'r plentyn bach hefyd fod yn lle croesawgar i bobl hyn ddod i gymdeithasu. Honnir bod oddeutu 2.5 biliwn o ymweliadau i barciau cyhoeddus bob blwyddyn. Eto, dim ond rhan fechan o'r tapestri o fannau gwyrdd sydd yng ngwead ein trefi yw'r lleoedd gwerthfawr yma. Mae caeau hamdden, llwybrau ar lan yr afon, mannau chwarae, mynwentydd a rhandiroedd oll yn rhan o'r brethyn cyfoethog yma.

Gyda ond ychydig o amser i baratoi cais i'r Loteri, cytunwyd yn unfrydol ar bump prosiect. Ganwyd y "Prosiect Cadwraeth Creadigol", ac yn 2004, dyfarnwyd £106,849  i Gyngor Sir Powys (fel partneriaid arweiniol).

 

Rock Park, Llandrindod Wells

Yn anffodus, nid yw llawer o'n parciau a'n mannau gwyrdd y dyddiiau hyn yn lleoedd croesawgar iawn. Gwelsom leihad sylweddol yn yr adnoddau sy'n cael eu neilltuo i gynnal a chadw lleoedd o'r fath a dirywiad yn eu hansawdd.

Yr her i wleidyddion, cynllunwyr a rheolwyr yw nid yn unig cildroi tuedd y deng mlynedd ar hugain diwethaf, ond i ailfywiogi ein parciau a'n mannau gwyrdd. Bydd cyfuno nodweddion a chyfleusterau gyda gweithgareddau a chefnogaeth gymunedol yn eu gosod ar ganol y dadeni trefol, yn ogystal ag ar yng nghanol bywyd ein cymunedau. Nid yw'n bosibl gwneud hyn heb gynllun.

Daeth rhaglen 'Transforming Your Space' Y Gronfa Cyfleoedd Newydd â chynllun o'r fath i'r fei. Roedd yn gyfle rhagorol i Gyngor Sir Powys, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Grwp Llywio Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ymgynghori ag amrywiaeth eang o bartneriaethau ym Mhowys i ofyn pa fathau o brosiectau hoffai pobl eu gweld yn yr ardaloedd.  Nid yn unig roedd y syniad y tu ôl i'r rhaglen yn trawsffurfio ardaloedd trefol yn ardaloedd cyfoethog eu bioamrywiaeth at ddefnydd cymunedol a mwynhad, ond hefyd yn gwella'r ardaloee hyn a oedd fel arall wedi'u hesgeuluso a'u hanghofio.

Creative Conservation Project partnership
Cynrychiolwyr Ymddiriedolwyr Bywyd Gwyllt Powys, Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Sir Powys yng nghyfarfod lansio'r Prosiect Cadwraeth Creadigol.

Mynegodd y Cynghorydd John Thompson bwysigrwydd y bartneriaeth, a arweiniodd at y cais llwyddiannus :

“Cafodd yr arian ei hun ei ddyfarnu i'r Cyngor Sir fel prif bartneri, ond yr hyn sy'n hanfodol yw mai pobl leol sydd wedi' datblygu'r prosiect. Gwobrwywyd eu gweledigaeth gyda'r datblygiad hyfryd yma. Bydd y flwyddyn yma yn amser cyffrous i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth ym Mhowys. Bydd yn gyfle heb ei ail i bobl leol a chymunedau ymwneud â'r hyn sydd o'u cwmpas.”

 

Mae llawer o aelodau o staff a gwirfoddolwyr ymroddgar wedi cydweithio dros y pedair blynedd diwethaf i droi'r weledigaeth yma yn realiti. Mae pob Prosiect wedi bod â'i anawsterau yn rhywle, ond gyda phenderfyniad y rhai sy'n cymryd rhan, ac ychydig o lwc dda, mae ffrwyth yr holl waith wedi esgor ar stori lwyddiannus y gallwn oll fod yn falch ohono 

Mae'r Prosiect Cadwraeth Creadigol yn dyst o'r hyn y gellir ei wneud gydag ychydig o arian, llawer iawn o waith caled, cyfathrebu da a chyfraniad ymarferol y gymuned. Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am y gwaith ym mhob maes prosiect.

  • Dolydd Cwm Elan, Rhaeadr Gwy
  • Pwll Severn Farm, Y Trallwng
  • Parc Diamond, Ystradgynlais
  • Parc y Llyn a'r Coetir, Llandrindod
  • Parc y Creigiau, Llandrindod 

 

Yn ogystal â Chronfa'r Loteri fawr, mae'r sefydliadau canlynol wedi bod yn rhan o'r Prosiect Cadwraeth Creadigol: Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Bannau Brycheiniog, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cymunedau'n Gyntaf - Ystradgynlais, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Comisiwn coedwigaeth Cymru, Cyngor Tref Llandrindod, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, Cyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir faesyfed, Cyngor Tref Ystradgynlais.

To top

Big Lottery Fund logo
RSS