A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cludiant a Strydoedd

Croeso i dudalen gwe Trafnidiaeth a Strydoedd Cyngor Sir Powys.

Yn y tudalennau hyn fe welwch bopeth sydd angen i chi wybod ar sut i deithio o gwmpas Powys - o amserlenni bysiau i newyddion am waith ffordd, gwybodaeth am gerdded a seiclo a diogelwch ar y ffyrdd.

Yr hyn rydym ni'n ei wneud

Cyngor Sir Powys yw'r awdurdod priffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus i sir weinyddol Powys.   Mae ein dyletswyddau o ran priffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys:

  • Rheoli a chynnal a chadw rhwydwaith priffyrdd y Sir (gan gynnwys ffyrdd, troedffyrdd, arwyddion, pontydd, ceuffosydd a goleuadau stryd);
  • Cynnal a chadw yn ystod y gaeaf (graeanu) a glanhau strydoedd;
  • Hybu dulliau trafnidiaeth sy'n iach ac yn amgylcheddol gynaladwy  (megis cerdded a seiclo) a chynnig cyngor ar gynllunio teithiau;
  • Rheoli traffig yn effeithiol - o Gerbydau Nwyddau Trwm a chroesfannau i gerddwyr, i fesurau arafu traffig a chynlluniau eraill ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
  • Trefnu addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd;
  • Darparu cymorth refeniw a chaffael gwasanaeth bws lleol sy'n 'angenrheidiol yn gymdeithasol', a gweinyddu'r cynllun teithio'n rhatach;
  • Rheoli datblygu priffyrdd - gan gynnwys sicrhau cyfraniadau gan ddatblygwyr ar gyfer seilwaith a gwasanaethau newydd;
  • Darparu a rheoli meysydd parcio oddi ar y stryd, a mannau parcio ar y stryd;
  • Trwyddedu tacsis (cerbydau hacni a cherbydau llogi preifat)

Hefyd, mae'r Cyngor Sir yn gweithio'n glos â nifer o bartneriaid allweddol i sicrhau gwelliannau ar gefnffyrdd Powys, gwella gwasanaethau a chyfleusterau rheilffordd a darparu trafnidiaeth gymunedol.  Fel yr Awdurdod Addysg Lleol, mae'r Cyngor Sir yn trefnu trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol.

System integredig a chynaladwy yw ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth a theithio ym Mhowys.  Rhaid cael system sy'n ddiogel, yn effeithiol, yn hawdd i'w defnyddio, ar gael i bawb yn y gymdeithas ac yn cefnogi gweithgareddau economaidd, cymunedol a diwylliannol trigolion Powys, a'r rheiny sy'n teithio trwy Bowys i fannau eraill.

Sut rydym yn gwneud hynny

Mae strategaeth y Cyngor Sir ar gyfer cyflwyno ei system trafnidiaeth integredig i'w gweld yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol.  Cynllun statudol yw hwn (o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000) a bydd mewn grym am gyfnod o 5 mlynedd.

Mae Cyngor Sir Powys yn aelod o Trafnidiaeth Canolbath Cymru (TraCC) - y consortiwm trafnidiaeth yng Nghanolbarth Cymru.

Dylech gofio bod rhai o ffyrdd prysuraf Powys (megis yr A470, A489, A483, A40 a rhan o'r A44) yn gefnffyrdd sy'n cael eu rheoli a'u cynnal a chadw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Penodwyd Partneriaeth rhwng Cynghorau Sir Powys a Cheredigion fel Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth

Dolenni Defnyddiol

Gwaith ffordd a gynlluniwyd

Ffyrdd ar gau

 

 

Stryd
RSS