A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Datblygu Cynaladwy ym Mhowys

Edrych i'r Dyfodol ...

laptop planet

Pa fath o fyd fyddech chi'n hoffi ei adael i'ch plant a'ch wyrion?

Sut fath o fyd fyddech chi'n ei hoffi mewn10, 20, a 50 mlynedd?

Datblygu Cynaliadwy

Seiclo yng Nghwm Elan

Mae Datblygu Cynaliadwy yn ymwneud â byw mewn ffordd sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi'r amgylchedd ac yn cyfoethogi cymunedau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.   Mae Strategaeth Datblygu Cynaliadwy'r Cyngor yn ei ddisgrifio; "ein bod yn gallu symud tuag at fyd lle rydym yn ceisio datblygu nodau a pholisiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar y cyd mewn dulliau sy'n datblygu ac yn cynnal ansawdd da o fywyd i bob yr un ohonom ac yn galluogi cenedlaethau'r dyfodol i wneud yr un peth".  Tra bod Cynllun Newid Powys yn ei ddiffio fel, "Deall, cydnabod ac ymateb i effaith cyflawn ein penderfyniadau ar genedlaethau'r presennol a'r dyfodol." 

Mae Glasu yn fudiad sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Cynllun Datblygu Gwledig gyda'r nod i gefnogi dyfodol cynaliadwy ar gyfer pobl Powys.  Mae Glasu'n gweithio yn y meysydd canlynol  bwyd, carbon isel a deunyddiau adnewyddadwy, diwylliant, treftadaeth, cynnyrch lleol, digwyddiadau a thwristiaeth.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Glasu.

 

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn un o lond llawn o weinyddiaethau yn y byd sydd â dyletswydd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy.  Yn ei Gynllun Datblygu Cynaliadwy, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, mae'n disgrifio datblygu cynaliadwy fel 'egwyddor drefnu ganolog y Cynulliad a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.'

Mae'r Cynulliad wedi cynhyrchu ei Siarter Datblygu Cynaliadwy fel modd o ddangos y dull hwn o weithio, a chydnabod cyrff sydd wedi gwneud yr ymrwymiad i geisio gwneud yr un peth.  Ymrwymodd Cyngor Sir Powys i'r Siarter ym mis Awst 2010.

Cymuned Powys

Er bod llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn digwydd o fewn y Cyngor, mae yna gysylltiadau â chymuned Powys.  Mae Strategaeth Gymunedol Powys wedi ymrwymo i egwyddorion cynaliadwy a'i nod yw gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwell gwasanaethau i Bowys.  Nod Partneriaeth Amgylcheddol Powys, sef un o bum partneriaeth thematig sy'n gweithio o fewn y Strategaeth Gymunedol yw hybu a gwella amgylchedd Powys.  Mae ganddyn nhw hefyd cynllun sy'n darparu grantiau bychan i grwpiau cymunedol i wella eu hamgylchedd lleol.

Mae gan Bowys hefyd nifer o Drefi Trosiannol, ond gallant hefyd fod yn unrhyw gymuned, yn ymchwilio i sut i ymateb i "bwysau newid yn yr hinsawdd, lefelau o danwydd ffossil sy'n gostwng ac yn fwyfwy, y wasgfa economaidd."

Mae yna ddigon o grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol eraill sy'n gwneud gwaith hynod ddiddorol ac arloesol yn y maes hwn.  I gael rhagor o wybodaeth ac i weld os oes grwp yn agos atoch chi ewch i wefan PAVO sy'n fan ddefnyddiol iawn i ddechrau.

Cydlynydd Datblygu Cynaliadwy

Mae gan Gydlynydd Datblygu Cynaliadwy Cyngor Sir Powys gyfrifoldeb dros gydlynu'r gwaith o fewn y Cyngor a sicrhau bod y Cyngor yn gweithio'n gynaliadwy.

Heather Delonnette
Cydlynydd Datblygiad Cynaliadwy
Adfywio a'r Amgylchedd
Cyngor Sir Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG 

Ffôn: 01597 826165

E-bost: heatherd@powys.gov.uk

To top

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Cydlynydd Datblygiad Cynaliadwy

Cyfeiriad E-bost: sd@powys.gov.uk

Teleffon: 01597 826165

Cyfeiriad:
Cydlynydd Datblygiad Cynaliadwy
Neuadd y Sir
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Dolenni Defnyddiol

WAG (Datblygu cynaliadwy)

CAT, Machynlleth

Glasu

Cynnal Cymru

 

RSS