A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae Cyngor Sir Powys yn awdurdod unedol sy’n gwasanaethu poblogaeth o oddeutu 129,600, mewn ardal o tua 519,700 hectar, sef bron i chwarter Cymru. Mae’n cyflogi dros 8000 o staff ac mae ei bencadlys yn Llandrindod a Swyddfeydd Rhanbarthol yn Y Trallwng ac Aberhonddu.
Yn amlwg gyda gwariant allanol o oddeutu £141m y flwyddyn mae gennym gyfrifoldeb i wneud y mwyaf o’n hadnoddau prin mewn modd sy’n cyflawni amcanion y Cyngor ac sy’n rhoi’r gwerth gorau i drigolion Powys.
Bydd Strategaeth Gomisiynu a Chaffael y Cyngor yn llywio’r defnydd effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau hyn o fewn fframwaith llywodraethu cadarn.
Gellir lawrlwytho copi o’r Strategaeth isod, a phan y’i hystyrir a’i defnyddio ar y cyd â’r canllawiau ysgrifenedig ychwanegol a’r arbenigedd sydd ar gael, gallwn gydweithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn cymryd rôl weithgar yn y gwaith o gomisiynu a chaffael er budd poblogaeth Powys.
|
|
3.3 M |
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
P'un a ydych yn ei alw’n gaffael, comisiynu, pwrcasu, cytundebu, tendro neu brynu, byddwn yn gwario tua £141 miliwn y flwyddyn ar sicrhau amrywiaeth eang o gyflenwadau, gwaith a gwasanaethau gan y farchnad allanol.
Yn naturiol, bydd llawer o fudiadau am werthu eu gwasanaethau a’u nwyddau i’r Cyngor, felly rydym wedi llunio’r canllaw hwn i helpu’r mudiadau hynny syn awyddus i gyflenwi Cyngor Sir Powys trwy:
• Amlinellu’r rheolau y mae’n rhaid i Gyngor Sir Powys eu dilyn
• Esbonio lle i gael manylion cyfleoedd i gyflenwi’r Cyngor
• Esbonio sut i dendro am fusnes y Cyngor
• Esbonio beth fyddwn yn disgwyl gennych pan fyddwch yn gwneud gwaith arÂ
  ein rhan
Gellir lawrlwytho'r canllaw Gwerthu i Gyngor Sir Powys yma :
|
|
101 K |
Os hoffech wneud ymholiadau am dendro i'r Cyngor, mae croeso i chi gysylltu â ni yn y cyfeiriad canlynol.
Uned Caffael Corfforaethol
Cyngor Sir PowysÂ
Neuadd Sir Powys
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Ffon : 01597 826378
Ffacs : 01597 826290
E-bost : Purchasing@powys.gov.uk