A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Gwasanaethau Cwsmer

Rydym yma i helpu

Mae staff canolfannau cyswllt wedi'u lleoli ledled y sir

Bydd Gwasanaeth i'r cwsmer yn cael ei ddarparu  trwy sawl cyfrwng;

  • Llogi Ystafell yn Antur Gwy

  • Mannau Gwasanaethau Cwsmer yn rhai o'n trefi, lle gallwch gerdded i mewn a chael y gwasanaeth sydd ei angen arnoch;
  • Bydd cyfleusterau Llyfrgell+ yn cael eu darparu fesul un mewn trefi ar hyd a lled y sir yn ystod haf 2011. Yn ogystal â defnyddio gwasanaethau traddodiadol y llyfrgell, gallwch gyrraedd nifer o wasanaethau eraill y llyfrgell (er enghraifft, talu'ch bil gyda cherdyn credyd neu ddebyd) yn yr un adeilad.
  • Rydym wedi sefydlu tîm canolfan gyswllt corfforaethol mewn trefi ledled Powys. Gallwch eu ffonio i gael y gwasanaethau rydych eu hangen dros y ffôn.
  • Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i'r oriau agor a lleoliad pob un o'r cyfleusterau.

Safleoedd Llyfrgell+

Anfon e-bost at y tîm Gwasanaethau Cwsmer

Drwy yrru'r ffurflen hon 'rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen ac yn derbyn y datganiad preifatrwydd isod

Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-

  1. Defnyddir yr wybodaeth am y rheswm a gytunwyd ac edrychir ar ei hôl yn ddiogel
  2. Cedwir yr wybodaeth am gyhyd ag sy’n angenrheidiol yn unig neu i gydymffurfio â gofynion statudol ac yna bydd yn cael ei dinistrio yn ddiogel.
  3. Os oes angen rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau eraill bydd yr adran neu’r gwasanaeth dan sylw yn gofyn am ganiatâd penodol (wedi ei arwyddo) cyn gynted â phosibl oni bai ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y ddeddf ddatgelu’r wybodaeth.

Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.

Pasg 2012

Sylwch y bydd ein Mannau Gwasanaethau Cwsmer ar gau Gwener y Groglith a Llun y Pasg. Byddwn yn agor ar yr oriau agor arferol ar wahân i'r ddau ddiwrnod yma.

RSS