A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Croeso i "Dweud eich Dweud". Nod y tudalennau hyn yw rhoi cyfle i chi roi eich barn ar waith a pholisiau'r Cyngor.
Gallwch weld ein prosiectau ymgynghori diweddaraf yn y fan yma. Gallwch hefyd ddarganfod pam a sut rydym yn ymgynghori - ac efallai ystyried ymuno â'n Panel Dinasyddion - a llawer mwy trwy'r botymau llwyd ar ochr chwith y sgrin.
Os ydych yn dymuno, gallwch roi eich sylwadau ar geisiadau cynllunio hefyd, trwy'r ddolen hon.
Rydym eisiau cael adborth, p'un ai os yw hynny'n bositif neu negatif. Os nad ydych yn hapus gyda'r Cyngor mae'n bwysig ein bod yn clywed gennych cyn gynted â phosibl.
Ein nod yw datrys problem cyn gynted â mor effeithiol â phosibl. Mae'n well delio â chwynion yn syth. Lle'n bosibl, trafodwch eich cwyn gyda'r swyddog lleol yr ydych yn delio â hwy. Yn y mwyafrif o achosion gellir datrys y broblem yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, os na ellir datrys y broblem yn anffurfiol, gofynnwch i gael sgwrs gyda Swyddog Cwynion y gwasanaeth perthnasol, neu llenwch ein Ffurflen Gwynion, Sylwadau a Chanmoliaeth
Pan fydd eich cwyn yn dod i law, bydd y Swyddog Cwynion yn cydlynu ymchwiliad i'ch cwyn ar y cyd ag Uwch Swyddog neu Grwp Gyfarwyddwr. Bydd ymateb yn cael ei anfon o fewn deg diwrnod gwaith. Os oes angen ymateb mwy manwl byddwn yn cydnabod eich cyfathrebiad o fewn 5 diwrnod gwaith o'i dderbyn a'n nod fydd i anfon ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith. (Gweler isod ar gyfer Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ysgolion.) Â
Mae gan rai gwasanaethau gweithdrefnau gwahanol ar gyfer delio â chwynion. Bydd rhai o'r gweithdrefnau hyn wedi'u sefydlu gan y Llywodraeth Ganolog :
Os oes gennych unrhyw gwynion, sylwadau neu ganmoliaeth ynglyn ag unrhyw fater yn ymwneud â chydraddoldeb (cefndir ethnig, hil, rhyw, oed, anabledd, crefydd / cred, cyfeiriadedd rhywiol neu iaith) Defnyddiwch ein Ffurflen Gwynion, Sylwadau a Chanmoliaeth, ond gadewch i ni wybod bod y gwyn yn ymwneud â chydraddoldeb.
O dan y Ddeddf Addysg 2002, mae gofyn i gyrff llywodraethol sefydlu a chyhoeddi gweithdrefnau cwynion. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ynglyn ag ysgol, dylech ofyn am gopi o weithdrefn gwynion y cyrff llywodraethol. Dylid gwneud unrhyw gwynion yn unol â'r gweithdrefnau hynny.
Bydd cwynion ynglyn â'r gwasanaethau hyn yn cael eu trin o dan drefniadau statudol arbennig, ond gellir cychwyn y broes trwy lenwi ein Ffurflen Gwynion, Sylwadau a Chanmoliaeth neu drwy gysylltu â'r Gwasanaethau CwsmerGwasanaethau Cwsmer.
Gallwch lenwi'r Ffurflen Gwynion, Sylwadau a Chanmoliaeth, neu gallwch ei hargraffu o'r fan yma a'i dychwelyd at yr Uned Gwasanaethau Cwsmer.