A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Masnachol

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am Wasanaethau Gwastraff Busnes a gynigir gan Gyngor Sir Powys.

Pwy sy'n gyfrifol am Wastraff Busnes?

Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob busnes, sefydliad ac elusen i sicrhau bod unrhyw wastraff yn cael ei waredu yn y ffordd gywir.  Mae Cyngor Sir Powys yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau Powys ar gyfer y rhan fwyaf o wastraff busnes, ond nid yw'n gallu casglu na chael gwared ar Wastraff Hylif neu Wastraff Peryglus.

Pwy sy'n gyfrifol am Ailgylchu Gwastraff Busnes?

Mae pob busnes, sefydliad ac elusen yn gyfrifol am ailgylchu peth o'u gwastraff yn ôl Rheoliad Tirlenwi 2002.  Gall Cyngor Sir Powys helpu cwsmeriaid gyda'r cyfrifoldeb hwn.

A yw'r Tâl am Wastraff Busnes wedi'i gynnwys yn y Trethi Busnes?

Nid yw'r gost wedi'i gynnwys yn y trethi busnes, gan fod dewis gennych i ddefnyddio ein gwasanaeth ni neu ddefnyddio'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan gontractwr preifat, awdurdodedig.  Gan fod busnesau'n amrywio mewn maint ac yn gallu cynhyrchu gwahanol feintiau o wastraff byddai'n anheg i osod swm penodedig y byddai'n rhaid i bob busnes ei dalu.

 

.
Mae ein biniau ar olwynion a'n 'Eurobins' yn amrywio o rai 360 litr i rai 1280 litr

Beth sy'n gynwysedig yn y taliadau?

Mae costau darparu'r blychau a'r biniau gofynnol, casglu wythnosol, costau gwaredu ar gyf er trethi gwastraff a threthi tirlenwim, holl waith papur y contract a dogfennaeth ein Dyletswydd Gofal yn gynwysedig yn y taliad.

Yn dilyn ymchwiliad diweddar, mae HMRC wedi datgan nad yw casgliadau gwastraff masnachol Awdurdodau Lleol yn destun TAW. Rwy'n falch cyhoeddi y bydd y Cyngor Sir yn trosglwyddo hyn ymlaenb felly o 1 Ebrill 2011 ymlaen, ni fydd TAW yn berthnasol ar gyfer eich gwastraff masnachol.

Rhagor o wybodaeth

Taflen Gwastraff Masnachol

Taflen Gwastraff Masnachol

415 K

Cyswllt Gwasanaeth

Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol

Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk

Teleffon: 0845 602 7035

Ffacs: 01597 827276

Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma

RSS