A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Teithio'n Rhatach

Cynllun Teithio'n Rhatach Cymru Gyfan

Mae Cynllun Teithio'n Rhatach Cymru Gyfan, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Awdurdodau Lleol, yn rhoi hawl i bobl dros 60 a phobl sydd â rhai anableddau sy'n byw yng Nghymru i deithio am ddim ar wasanaethau bws lleol ledled Cymru.

Mae Lywodraeth Cynulliad Cymru a'ch Awdurdod Lleol yn cyflwyno pas newydd yn lle eich Tocyn Teithio'n Rhatach.  Nid yw'r pas newydd yn effeithio ar eich hawl i deithio. 

Defnyddio eich tocyn teithio wrth fynd ar daith

Mae eich Tocyn Teithio'n Rhatach newydd yn 'Smartcard'.  Mae ganddo sglodyn electronig fydd yn cael ei ddefnyddio i weld eich hawl i deithio'n rhatach.  Bydd hefyd yn helpu i wneud yn siwr fod y cwmni bws yn cael ei dalu am eich taith.

Dylech gadw'r tocyn mewn lle diogel, lle na ellir ei blygu neu ei ddifrodi

Os na fydd eich tocyn yn gweithio, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmer Cyngor Sir Powys (0845 602 7035) i gael cymorth.  Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd rhaid i chi dalu'r pris llawn am y daith, fydd ddim yn cael ei dalu'n ôl.

Mae pedwar cam hawdd i helpu'r gyrrwr wrth deithio ar fws

(1) Ewch ar y bws.

(2) Daliwch eich tocyn teithio wrth ymyl y peiriant tocynnau gyda'r llun i fyny.  Bydd hyn yn darllen y tocyn yn electronig ac yn cadarnhau ei fod yn ddilys.

(3) Bydd y peiriant tocynnau'n cydnabod fod y tocyn wedi cael ei ddarllen, ac yn ymateb gyda blîp, golau gwyrdd, ac efallai y bydd yn rhoi tocyn.

(4) Eisteddwch i lawr.

Defnyddio tocyn teithio

  • NI ELLIR TROSGLWYDDO Tocynnau Teithio'n Rhatach, ac maent yn cael eu rhoi i ganiatau i'r deilydd yn unig deithio am ddim.  Lle bo tocyn ar gyfer cyd-deithiwr wedi'i roi, bydd y cyd-deithiwr yn cael teithio am ddim ar yr un amser ac ar yr un daith a deilydd y tocyn yn unig.
  • Gall caniatau i rywun arall ei ddefnyddio olygu ei fod yn cael ei ganslo a/neu wrthod ei adnewyddu.
  • Os byddwch yn colli eich tocyn, bydd tâl yn cael ei godi am un newydd.

Amodau Eraill

  • Bydd rhaid i chi ddilyn rheoliadau ac amodau arferol y cwmniau bws dan sylw.
  • Rhaid dangos y tocyn pa bryd bynnag y bydd arolygwr neu gyrrwr yn gofyn am ei weld.
  • Nud yw eich tocyn yn rhoi unrhyw hawliau gwahanol i'r rhai sydd gan deithwyr sy'n talu am eu taith, ac nid yw'n rhoi blaenoriaeth i chi gael mynd daith ar draul teithwyr eraill.
  • Ni all yr Awdurdod Lleol dderbyn cyfrifoldeb am fethiant cwmni bysiau i gynnal unrhyw wasanaeth neu dderbyn tocyn teithio'n rhatach.

Newd cyfeiriad neu amgylchiadau

Os byddwch yn newid eich cyfeiriad neu unrhyw fanylion eraill, rhaid i chi roi gwybod i Wasanaethau Cwmser Cyngor Sir Powys ar 0845 602 7035 cyn gynted ag sy'n bosibl.

Cyd-deithwyr

Os ydych yn gymwys i gael Cyd-deithiwr i fynd gyda chi ar y daith, bydd eich tocyn newydd yn caniatau i'r trefniant hwn barhau.

Os ydych angen help i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, gellir rhoi consesiwn ychwanegol ar gyfer cyd-deithiwr angenrheidiol. Mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, neu weithiwr iechyd gadarnhau eich bod yn gymwys ar eich ffurflen gofrestru.

Ydw i'n gymwys?

Cymhwyster yn ôl Oedran  (Yn amodol ar Reoliadau Cenedlaethol)

  • Tocyn Bws rhad ac am ddim

Bydd holl drigolion Powys sydd wedi cael eu pen-blwydd yn 60 mlwydd oed yn gymwys.

Cymhwyster yn ôl Anabledd

Dyma'r dewisiadau:

  • Tocyn Bws rhad ac am ddim, neu
  • Docyn Trên i bobl anabl

Pobl sydd wedi'u cofrestru fel un o'r canlynol:

  • Rhywun sy'n ddall, hynny yw mor ddall nad yw'n gallu gwneud unrhyw waith nac astudio lle byddai gallu gweld yn hanfodol, neu'n rannol ddall, hynny yw, gyda'r fath nam ar y golwg fel na fyddai ef / hi yn gallu amcangyfrif yn gywir beth yw maint a chyflymder y traffig;
  • yn fyddar;
  • heb leferydd;
  • Gydag anabledd, neu wedi dioddef anaf sy'n amharu ar y gallu i gerdded, nid yw'n gallu defnyddio'r ddwy fraich, gyda phroblemau iechyd meddwl parhaus.

Rydych yn gymwys os ydych yn derbyn:-

  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • neu Lwfans Gweini
  • neu Lwfans Byw i'r Anabl (gydag elfen symudedd uwch)
  • neu Ategiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • neu 80% o Bensiwn Anabledd Gwasanaeth
  • neu wedi colli / ddim yn gymwys am drwydded yrru am resymau meddygol.

Sut gallaf wneud cais am Docyn Bws am Ddim?

I gael ffurflen: 

  • Gallwch argraffu un o'r ffurflenni o'r fan yma.

Ar gyfer ceisiadau sy'n gymwys ar sail Oedran

42 K

Ar gyfer ymgeiswyr sy'n gymwys ar sail Anabledd

76 K

  • Os byddai'n well gennych weld y ffurflen yn cael ei phostio atoch, ffoniwch ni ar 0845 602 7030.

I gyflwyno'r cais:

Bydd angen i chi wneud cais yn bersonol trwy fynd â'r ffurflen sydd wedi'i llenwi, ynghyd â dogfennau atodol, at Fan Gwasanaethau Cwsmer yn un o'r trefi canlynol:

Aberhonddu - Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, LD3 7HR

Llandrindod - Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, LD1 6AA.

Llanidloes - Mount Street, Llanidloes, SY18 6EY

Machynlleth - Canolfan Hyddgen, Heol y Banc, Machynlleth, SY20 8DP.

Y Drenewydd - Lôn Gefn, Y Drenewydd, SY16 2NH (nesaf at yr orsaf fysiau)

Rhaeadr Gwy - Canolfan Hamdden, Stryd y Gogledd, Rhaeadr Gwy, LD6 5BU.

Y Trallwng - Neuadd Maldwyn, Ffordd Hafren, Y Trallwng, SY21 7AS.

Ystradgynlais – Llyfrgell+, Temperance Street, Ystradgynlais, SA9 1JJ

Bydd ffotograff yn cael ei gymryd yn y Man Gwasanaethau Cwsmer, a bydd eich cerdyn newydd yn cael ei bostio i chi, fel arfer o fewn 7 - 10 diwrnod. Noder nad ydym yn derbyn ceisiadau post.

Mae'r rhestr lawn o ddogfennau atodol sydd eu hangen wedi'u dangos ar y ffurflen gais.

Sut ydw i'n gwneud cais am Gerdyn Trên am ddim i'r Anabl?

Os oes gennych anabledd, gallwch naill ai wneud cais am:

y Tocyn Bws am Ddim
neu'r
Cerdyn Trên am ddim i'r Anabl, sy'n rhoi'r hawl i chi gael gostyngiad o draen oddi ar eich tocyn yn genedlaethol

I wneud cais am Gerdyn Trên am ddim i'r Anabl:

neu

    • Gallwch argraffu un o'r ffurflenni cais isod.

Ffurflen Cerdyn Dren i Bobl Anabl

291 K

I gyflwyno'r ffurflen gais:

Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd, ynghyd â'r dogfennau atodol, at yr:

Uned Cludiant Teithwyr
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Peidiwch ag anfon unrhyw arian. Mae cardiau trên i'r anabl AM DDIM dan y cynllun tocynnau teithio rhad.

Lle i ddefnyddio eich gostyngiad

  • Gellir defnyddio'r Pasys Bws ar y mwyafrif o wasanaethau bws yng Nghymru.
  • Gellir cael traean oddi ar bris tocynnau'n genedlaethol gyda'r Cerdyn Rheilffordd i Bobl Anabl.

Dim ond un o'r dewisiadau uchod y mae gan bobl sy'n hawlio ar sail anabledd hawl i'w cael.

Menter Twyll Genedlaethol – Teithio'n Rhatach

Mae’n rhaid i Gyngor Sir Powys gymryd rhan ym Menter Twyll Cenedlaethol 2012/13.

Bydd unrhyw ddata sydd gan y Cyngor ar deithio’n rhatach yn cael ei drosglwyddo i Swyddfa Archwilio Cymru a Menter Twyll Cenedlaethol.  Bydd yn cael ei ddefnyddio ar draws systemau ac ar draws awdurdodau er mwyn atal a chanfod twyll.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Fenter yn y fan yma

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am rannu data ar deithio’n rhatach, cysylltwch â’r Rheolwr Cludiant Teithwyr, Uned Cludiant Teithwyr, Gwasanaethau Lleol ac Amgylcheddol, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

 

Teithio'n Rhatach
RSS