Etifeddiaeth Adeiladwyd Powys
Etifeddiaeth Adeiladwyd Powys

Ardaloedd Cadwraeth

Beth yw Ardaloedd Cadwraeth?

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn rannau o drefi, pentrefi a mannau agored cysylltiedig sydd â statws arbennig iawn, ac sy'n cael eu gwarchod. Yn yr ardaloedd hyn, mae angen caniatâd ar gyfer rhai datblygiadau sydd ddim fel arfer angen caniatâd cynllunio, ac hefyd ar gyfer gwaith dymchwel. Mae gan goed hefyd statws arbennig mewn Ardaloedd Cadwraeth.

Pam fod angen Ardaloedd Cadwraeth?

Y Narrows, Tref-y-clawdd

Mae cymeriad arbennig nifer o ardaloedd yn dibynnu ar adeiladau sydd ddim yn deilwng o fod yn adeiladau rhestredig, ond sy'n creu rhan hanfodol o amgylchedd ddymunol drwyddi draw. Os ydym am gadw rhan werthfawr o'n treftadaeth a'n hamgylchedd fyw, mae angen rhoi gwarchodaeth fel 'blanced' dros yr ardaloedd cyfan, ac nid darnau fan hyn a fan draw.

Mae 55 Ardal Gadwraeth  ar hyn o bryd ym Mhowys (y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Nid yw dynodi fel Ardal Gadwraeth wedi'i fwriadu i rwystro datblygu, ond yn hytrach i gynnig trefn ar gyfer rheoli newid i'r amgylchedd ffisgol mewn ffordd gadarnhaol sy'n helpu i warchod ansawdd arbennig ardal ac i hyrwyddo cynllunio a gwella mewn modd cadarnhaol.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i roi sylw arbennig i ba mor ddymunol yw cadw neu wella cymeriad neu ymddangosiad Ardaloedd Cadwraeth wrth benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio oddi mewn iddynt.

Gofynion Cynllunio mewn Ardaloedd Cadwraeth

Bydd Hawl Ardal Gadwraeth (ar gyfer dymchwel) a Chaniatâd Cynllunio (i ddatblygu) yn mynd law yn llaw er mwyn sicrhau bod ceisiadau'n cadw a gwella diddordeb arbennig pob ardal gadwraeth.

Mae'r angen am Hawl Ardal Gadwraeth yn ymwneud â dymchwel adeiladau a rhai strwythurau eraill megis waliau, o fewn ffiniau Ardal Gadwraeth.  Mae'r rheolau'n gymhleth a'r peth gorau yw cysylltu â'r awdurdod lleol yn gyntaf.  Mewn Ardaloedd Cadwraeth, cyfyngir ar hawliau datblygu a ganiateir, fel bod gan yr Awdurdodau Cynllunio fwy o reolaeth dros unrhyw ddatblygu sy'n digwydd o fewn yr ardaloedd hynny.  Yn ogystal, mewn rhai Ardaloedd Cadwraeth, mae'r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer man-newidiadau megis  gosod ffenestri newydd mewn tai annedd, yn cael eu disodli gan Gyfarwyddiadau Erthygl 4, sy'n golygu y bydd angen Caniatâd Cynllunio i wneud y gwaith hwn.

 

Fel rheol, nid yw gwaith mewnol ar adeiladau o fewn ardal Gadwraeth yn cael ei reoli oni bai fod yr adeilad wedi'i restru, tra bo gwaith dymchwel hefyd wedi'i eithrio lle mae'n ymgorffori strwythur dan 115 medr ciwbig mewn cyfaint. Gan siarad yn gyffredinol fodd bynnag, mae angen caniatâd i ddymchwel adeilad o fewn ardal Gadwraeth a bydd bron yn sicr o gael ei wrthod lle na fydd creu bwlch neu rywbeth newydd anaddas yn ei le naill ai'n 'diogelu' na 'gwella'r' ardal.

Mae dynodi ardaloedd cadwraeth hefyd yn caniatau i awdurdodau cynllunio ddiogelu coed sy'n fwy na 3 modfedd mewn diamedr, ac felly mae dynodi wedi cael ei ddefnyddio i ddiogelu'r tirwedd.

Mae'n well cysylltu â gwasanaethau cynllunio cyn dechrau cynnal unrhyw waith.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y Daflen canllaw 'Hawl Ardal Gadwraeth', a luniwyd gan y Tîm Treftadaeth Adeiledig.

Astudiaeth achos ...



Ithondale, Stryd Fawr

Ithondale before and after restoration
Ithondale cyn ac ar ôl y gwaith adnewyddu.
Darllen rhagor