A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

"Cyfrifoldeb pob oedolyn ... yw gwneud yn siwr fod plant yn clywed yr hyn rydym ni wedi'i ddysgu o wersi bywyd, a chlywed drosodd a throsodd ein bod yn eu caru ac nad ydynt ar eu pen eu hunain."
-- Marian Wright Edelman
Â
"Cadwch draw oddi wrth bobl sy'n ceisio bychanu eich uchelgeisiau. Bydd pobl fach yn gwneud hynny bob amser, ond gall y mawrion wneud i chi feddwl y gallwch chi, hefyd, ddod yn un o'r mawrion."
-- Mark Twain
Â
"Mae plentyn disglair i'w gael y tu mewn i bob myfyriwr."
-- Marva Collins
Â
"Mae gwreiddiau addysg yn chwerw, ond mae'r ffrwyth yn felys."
-- Aristoteles
Â
"Rwy'n clywed, ac rwy'n anghofio. Rwy'n gweld, ac rwy'n cofio. Rwy'n gwneud, ac rwy'n deall."
-- Dihareb Tsieneaidd
Â
"Dyna beth yw dysgu. Yn sydyn, rydych yn deall rhywbeth rydych wedi'i ddeall trwy gydol eich bywyd, ond mewn ffordd newydd."
-- Doris Lessing
Â
"Rydym angen rhywun sy'n ein hysbrydoli i wneud yn well na'r ydym yn gwybod sut."
-- Anhysbys
Â
"Athro yw rhywun sy'n gwneud ei hun yn gynyddol ddiangen."
-- Thomas Carruthers
Â
"Ni all Athro wneud gwell enw iddo'i hun yn ei waith na thrwy annog disgybl disglair, gan fod y gwir ddarganfyddwyr yn eu plith, fel comedau ymhlith y ser."
-- Linnaeus
Â
"Mae plant angen modelau, nid beirniaid."
-- Joseph Joubert
Â
"Prif grefft yr athro yw dihuno llawennydd mewn mynegiant creadigol a gwybodaeth."
-- Albert Einstein
Â
"Mae addysg yn fwy na llenwi plentyn â ffeithiau. Mae'n dechrau â gofyn cwestiynau."
-- D.T. Max
Â
"Nid fod pob plentyn yn cael ei ddysgu yw'r peth pwysig, ond y dylai pob plentyn gael y dymuniad i ddysgu."
-- John Lubbock
Â
"Yr hyn rydym am ei weld yw'r plentyn yn chwilio am ddysg, ac nid dysg yn chwilio am y plentyn."
-- George Bernard Shaw
Â
"Y peth pwysig yw peidio stopio cwestiynu."
--Albert Einstein
Â
"Yr hyn sy'n bwysig yw cadw i ddysgu, mwynhau her, a goddef amwyster. Yn y diwedd, does dim atebion pendant."
-- Martina Horner
Â
"Addysg yw'r ddarpariaeth orau ar gyfer henaint."
-- Aristoteles
Â
"Dylech fyw fel petaech am farw yfory. Dysgu fel petaech am fyw am byth."
-- Gandhi
Â
"Addysg sy'n goroesi wedi i'r hyn sydd wedi'i ddysgu gael ei anghofio."
-- B. F. Skinner
Â
"Yr arwydd o feddwl addysgiedig yw medru ystyried rhywbeth heb ei dderbyn."
-- Aristoteles
Â
"Mae'n bosibl i'r meddwl fod yn llawn miliynau o ffeithiau ond i barhau'n gwbl annysgiedig."
-- Alec Bourne
Â
"Nid yw talent pawb yn gyfartal, ond dylai pawb gael cyfle cyfartal i ddatblygu ein talent."
-- John F. Kennedy
Â
"Os mai morthwyl yw'r unig arf sydd gennych, rydych yn tueddu i weld pob problem fel hoelen."
-- Abraham MaslowÂ
Â
Os oes gennych unrhyw ddyfyniadau sydd wedi'ch ysbrydoli ar hyd eich llwybr dysgu, a fedrech eu hanfon atom, ynghyd ag enw'r sawl a'u dywedodd, i ni fedru eu hychwanegu at y rhestr.
Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-
Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.