A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Ym Mhowys, rydym am harmoneiddio darpariaeth er mwyn i ddysgwyr unigol ei chael yn hawdd i gael pa bynnag gymorth personol a dysgu maent ei angen er mwyn dilyn eu llwybr dysgu eu hunain. Mae gennym Weithgor Cefnogi sy'n ystyried canllawiau Llwybrau Dysgu a'r ddeddfwriaeth sydd ar ddod, yn cynnwys tair thema hyfforddi dysgu, cefnogaeth bersonol a chyngor ac arweiniad gyrfaoedd di-duedd.
Â
Mae cynrychiolwyr o'r holl bartneriaid darparwyr dysgu – ysgolion uwchradd ac arbennig ynghyd ag Addysg Gyflenwol, Gyrfa Cymru, Coleg Powys, y Gwasanaeth Ieuenctid, darparwyr hyfforddiant a PAVO yn eistedd ar y Grwp Cefnogi sy'n dynodi darpariaeth sydd ei angen ar gyfer rhai 14-19 oed ym Mhowys.
Â
Mae'r grwp yn cyfarfod tua 3 gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd, gan fonitro cynigion/prosiectau ac yn gwneud argymhellion ar gyfer ymestyn gwaith ar y cyd rhwng darparwyr dysg a darparwyr cefnogaeth arall i bobl ifanc i sicrhau cyswllt teg i gefnogi anghenion. Mae'r grwp hefyd wedi datblygu strategaeth hyfforddwr dysgu i Bowys ynghyd â pholisi Hyfforddi Dysgu.
Â
Caiff argymhellion eu gwneud ar ddiwedd tymor yr Hydref ar gyfer prosiectau sydd i'w hariannu trwy Gynllun Datblygu Rhwydwaith Flynyddol y flwyddyn ganlynol, sy'n rhedeg o 1 Ebrill tan 31 Mawrth, a byddant yn cael eu cyflwyno i grwp y Strategaeth er mwyn iddynt gael eu cyflwyno yn eu tro i LlCC ar ddiwedd mis Ionawr.
Â

Â
Â
Cliciwch yma i gael rhagor o eiriau o ysbrydoliaeth
Â