A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Gwasanaeth Ymchwil Astudiaethau Lleol Llyfrgelloedd

Ymchwil

Mae croeso i chi ymweld â Llyfrgelloedd Aberhonddu neu'r Drenewydd i ddefnyddio'r deunydd sydd wedi'i argraffu, catalogau, darllenwyr meicroffilm, neu'r cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim. Rhaid bwcio'r darllenwyr meicroffilm a'r cyfrifiaduron. Os na allwch ddod eich hun, gallwn wneud y gwaith ymchwil ar eich rhan.

Am ymchwil ar:

Sir Frycheiniog, llenwch  ffurflen ar-lein Llyfrgell Aberhonddu - neu argraffwch ffurflen a'i hanfon yn y post i'r cyfeiriad hwn

Sir Drefaldwyn llenwch ffurflen ar-lein Llyfrgell Y Drenewydd   - neu argraffwch ffurflen a'i hanfon yn post i'r cyfeiriad hwn

Sir Faesyfed trwy Wasanaeth Ymchwil Archifau Powys

Os nad ydych chi'n siwr lle i'w anfon, anfonwch eich cais ar un o'r ddau lyfrgell a bydd yn cael ei anfon ymlaen fel sy'n briodol.

Darllenwch y wybodaeth isod am ein Gwasanaeth Ymchwil:

Pa ffynonellau astudiaethau lleol sydd gan y llyfrgelloedd?

Mae gan lyfrgelloedd gopiau o gyfeirlyfrau masnach, papurau newydd, cyfnodolion a chyhoeddiadau hanes lleol.  Ceir manylion pellach yma, gyda deunydd wedi'u rhestru yn ffynonellau ychwanegol Archifau Powys.   Mae cyhoeddiadau astudiaethau lleol hefyd wedi'u rhestru yng nghatalog y llyfrgell.

Beth fydd y gost?

Gallwn wneud chwiliad byr (chwilio am UN cofnod mewn cyfrifiad penodol) o fewn hanner awr am £12.50 (yn cynnwys TAW).  Byddwn yn codi £25 am awr a £50 am ddwy awr (eto yn cynnwys TAW) am chwiliad mwy manwl.  Nodwch y bydd rhaid talu'r ffi  os na fydd yr ymchwil yn dod o hyd i ganlyniadau positif.  Os byddwch eisiau ymchwil pellach ar ôl yr adroddiad cyntaf, gallwch wneud cais yn yr un ffordd.

Ydi'r wybodaeth am ein daliadau am ddim?

Ydi. Mae ceisiadau trwy'r post neu dros y ffôn am ein y cofnodion a ffynonellau eraill sydd gennym a sut y gellir eu defnyddio am ddim.

Pa fath o ymchwil allwn ni ei wneud?

Byddai ymchwil penodol, e.e. edrych trwy gofnodion y cyfrifiad yn chwiliad digon syml. Byddai chwiliad mwy, e.e. yn ymwneud â digwyddiad neu le penodol, neu chwilio trwy bapurau newydd, heyd yn bosibl, ond yn cymryd rhagor o amser wrth gwrs. Ni ellir mynd i'r afael â cheisiadau cyffredinol, e.e. twf a datblygiad tref. Mae'r Llyfrgellydd Cangen yn cadw'r hawl i wrthod chwiliad, neu i roi cyfyngiad ar faint o amser y gellir treulio arno.

Pa mor hir fydd y gwaith yn ei gymryd?

Ar ôl i ni dderbyn eich cais, rydym yn ceisio ateb pob ymholiad o fewn pedair wythnos, ond ambell waith, os bydd llawer o geisiadau, gall fod oedi.

Sut i wneud cais?

Rhowch fanylion eich gofynion ymchwil ar  ffurflen gais. Gallwch anfon y ffurflen ar-lein a fydd yn creu neges e-bost i lyfrgell Aberhonddu / Y Drenewydd, neu llenwch ffurflen ar gopi caled a'i hanfon yn y post.    Ni ellir gwneud gwaith ymchwil oni bai ein bod wedi derbyn ffurflen chwilio wedi'i hawdurdodi (un ai ar-lein neu fel copi caled).

Sut i dalu?

Bydd y ffi i'w dalu ar ôl i'r gwaith gael ei wneud, ac rydym yn derbyn gorchmynion post neu sieciau mewn sterling yn unig, yn daladwy i Gyngor Sir Powys ac wedi'i dalu o fanc yn y DG. Neu gallwch dalu ar-lein, trwy gerdyn debyd neu visa, yn defnyddio Cyfleuster Talu Ar-lein Cyngor Sir Powys. Peidiwch â thalu tan ar ôl i'r ymchwil gael ei wneud.

Sut fydda i'n derbyn y wybodaeth?

Ar ôl gorffen chwilio, byddwn yn anfon adroddiad ar e-bost neu yn y post yn rhoi manylion llawn y ffynonellau yr edrychwyd ynddynt a'r wybodaeth a gafwyd. Byddwn hefyd yn nodi'r ffi sydd i'w dalu am yr ymchwil sydd wedi cael ei wneud.  

To top

Ffurflenni cais ar-lein

I wneud cais, defnyddiwch y ffurflenni ar-lein:

Llyfrgell Aberhonddu

Llyfrgell Y Drenewydd

Ffurflen i'w hargraffu

Ymchwil Sir Faesyfed

I wneud cais am ymchwil o gasgliadau Sir Faesyfed yn llyfrgell Llandrindod, defnyddiwch y ddolen hon  Archifau Powys

Archifau Powys

Mae manylion Gwasanaeth Ymchwil Archifau Powys yma.

RSS