A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Materion Ewropeaidd a Chyllid Allanol

Caiff Materion Ewropeaidd a Rhaglenni Nawdd Allanol eu rheoli gan Uned Cyllid Ewropeaidd ac Allanol y Gwasanaeth Adfywio a Datblygu.

Mae'r Uned yn darparu gwasanaethau gwybodaeth a chymorth i'r Cyngor yn ogystal â rhanddeiliaid a mudiadau ym Mhowys am gronfeydd Ewropeaidd, y Loteri a chronfeydd domestig.  Mae'r Uned hefyd yn monitro polisiau Ewropeaidd perthnasol ac yn rhoi gwybodaeth a gwasanaethau lobio i'r Cyngor.

Mae'r Uned yn rhan o'r Timoedd Ewropeaidd Arbenigol (SETs).  Mae'r SETs yn rhoi arweiniad a gwybodaeth am Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, gan gynnwys sut i wneud cais, datblygu prosiectau ac ôl-ofal.   Am ragor o wybodaeth am SETs, cliciwch yma.

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi gwybodaeth am waith yr Uned, rhai o'r prosiectau sydd ar waith ar hyn o bryd, yn ogystal â rhai cyfleoedd am nawdd sydd ar gael.  Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol. 

Newyddion Diweddaraf!

Galw am Gynigion Arloesedd-Eco CIP Newydd

Heddiw, agorwyd y ffenestr ar gyfer cynigion Arloesedd-Eco CIP; y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno'r cynigion yw 5 Medi 2013.

“Mae'r fenter Arloesedd-Eco ar gyfer sefydliadau sydd wedi datblygu cynnyrch, gwasanaeth, arferion rheoli neu broses amgylcheddol sydd wedi ei brofi ond sydd heb gael ei farchnata'n llawn eto oherwydd risgiau dros ben.  Bydd y cynllun yn helpu cyfranogwyr i orchfygu'r rhwystrau ac i farchnata'n helaeth i droi'r cynnyrch a'r prosesau hyn yn llwyddiant eco-arloesedd y dyfodol yn Ewrop.”

Gallwch weld y manylion llawn a rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cynnig ar wefan Eco-arloesedd.

 

Galwad LIFE+

Cyhoeddwyd y chweched galwad LIFE+ am gynigion yn y Cylchgrawn Swyddogol (2012/C 74/08) ar 13 Mawrth 2012.  Rhaglen swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer yr Amgylchedd yw LIFE+ ac mae'n ariannu prosiectau sy'n datblygu, gweithredu neu'n arddangos atebion newydd i broblemau amgylcheddol. 

I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac eitemau newyddion eraill, ewch i'n  Tudalen Newyddion

Dolenni Defnyddiol:

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO):

Gwefan WEFO

Arian Loteri a Domestig:

Arian Loteri Cymru

Y Gronfa Loteri Fawr

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Cyngor Chwaraeon Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

Partneriaeth Adfywio Powys 

Gwefan y WCVA

Undeb Ewropeaidd:

Gwefan yr Undeb Ewropeaidd

Grantiau'r Undeb Ewropeaidd

Manylion cyswllt

 Uned Cyllid Ewropeaidd ac Allanol

Cyngor Sir Powys 
Neuadd y Sir
Llandrindod 
Powys
LD1 5LG

Rhif ffôn: 01597 826766

Ffacs: 01597 826546

E-bost: funding@powys.gov.uk

RSS