English

Llogi Beiciau

TEITHIAU RHENTU A REIDIO GYDAG ARWEINYDD

Mwynhewch y golygfeydd lleol ar daith dan arweiniad Tim Davies, arweinydd seiclo cymwys.

Byddwn yn trefnu teithiau dros fisoedd yr haf, felly os hoffech gael ragor o wybodaeth cysylltwch â'r ganolfan.

Mae'r prisiau'n cynnwys beic os oes angen, ond rhaid cadw lle, felly ffoniwch y ganolfan i drefnu.

RHENTU A REIDIO BEICIAU

Mae hyd yn oed yn haws i chi logi beiciau yn Llandrindod.

Gall Ganolfan Chwaraeon Llandrindod gynnig y profiad seiclo i bawb;  profiad pleserus heb gar.

Mae gennym faes parcio mawr i gwsmeriaid, lle gallwch adael y car a llogi beic o'r ansawdd gorau.  Cewch helmed, cloeon, bagiau cefn a mapiau am ddim, fel y gallwch stopio a mwynhau'r golygfeydd ar y ffordd.  P'un ai'n daith esmwyth ar noson hyfryd o haf, neu thaith fer ar gefn beic cyn ymlacio yn ein pwll nofio, mae gennym y beic ar eich cyfer chi.  Mae gennym 15 o feiciau hybrid o'r ansawdd orau i ddynion, merched a phlant, yn cynnwys seddi i blant, yn ogystal â helmedau arbenigol i bawb o bob oed.  Mae ein staff cyfeillgar yma i'ch helpu chi, ac mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i fwynhau taith arbennig ar gefn beic!!

SEICLO I IECHYD DA

I'r rhai ohonoch sy'n credu bod seiclo'n golygu 30 milltir o daith yn gwisgo lycra melyn llachar, yna meddyliwch eto.  I rywun sy'n ail-gychwyn seiclo, mae hyd yn oed mynd am ychydig ar gefn beic yn gallu gostwng eich risg o farw o drawiad ar y galon neu strôc o 22%.  Mae pob dim yn help.  Beth am logi beic cyn gêm o fadminton, i fynd i weld ffrind, mynd â'r wyron am daith fer neu ymuno ag un o'n teithiau rheolaidd gydag arweinydd.  Ar ôl pythefnos ar gefn eich beic, fe sylwch nad ydych mor fyr o anadl, bydd gennych lwyth o egni ac yn teimlo'n bositif am fywyd.  Gallwch hyd yn oed golli hyd at 11 pwys o frasder y flwyddyn trwy seiclo'n unig!!

Prisiau 

 

 

Yr awr

4-8 awr

Diwrnod

Wythnos

Ychwanegol

Oedolyn

£1.25

£4.50

£6.00

£20.00

 

Plant*

£1.00

£3.50

£4.50

£12.00

 

Sedd Plentyn*

 

 

 

 

£1.00

Rac Car

 

 

 

 

£3.00

Cloeon

 

 

 

 

Am ddim

Goleuadau

 

 

 

 

Am ddim

Bagiau cefn

 

 

 

 

Am ddim

Helmedau

 

 

 

 

Am ddim

* dim ond trwy logi beic i Oedolyn.

Archebu

Cysylltwch â'r ganolfan gyda'ch anghenion.  Bydd angen rhyw fath o ddiogelwch wrth gasglu'r beiciau (allweddi'r car os ydych yn gadael y car) neu dystiolaeth ID.

Gyda chymorth grant Cronfa Byw'n Weithgar - menter Llywodraeth Cynulliad Cymru, a sefydlwyd i helpu i greu cyfleoedd newydd am weithgareddau corfforol.  Trwy hyn, bydd nifer fawr o bobl yn gallu cymryd rhan.

 

 

Lloci beiciau