A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Â
Mae Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru yn datgan y dylai pobl ifanc Cymru gael cyfleoedd sy'n Addysgiadol, Cyfranogol, Grymusol, Mynegiannol a Chynhwysol. Cyflwynir y cwricwlwm ym Mhowys mewn amrywiaeth o leoliadau, gan ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau i helpu i ddenu pobl ifanc ar wahanol lefelau.
Mae Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc i'w galluogi nhw i ddeall a gweithredu ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Trwy weithio gyda'i gilydd, maen nhw'n cyflwyno delwedd bositif o bobl ifanc i eraill trwy broses sy'n annog hunan benderfyniad a hynny mewn ffordd sy'n cynnig her ac yn hwyl.
Galluogi pobl ifanc i gael sgiliau, gwybodaeth ac agweddau sydd eu hangen i ddynodi, hyrwyddo a dilyn eu hawliau a'u cyfrifoldebau fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau a chymunedau, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Annog a chefnogi pobl ifanc i fod yn bartneriaid a rhannu cyfrifoldebau am y cyfleoedd, prosesau dysgu a'r strwythurau gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a'u hamgylcheddau nhw a phobl eraill.
Annog a galluogi pobl ifanc i ddeall ac ymarfer eu hawliau gan gynnwys:
cydnabod bod gan unigolion ifanc hawliau a bod hyn yn awgrymu parchu hawliau eraill;
• cefnogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion ac aelodau cyfrifol o'u cymunedau;
• annog pobl ifanc i weithredu ar y materion personol, cymdeithasol a gwleidyddol sy'n effeithio ar eu bywydau nhw a bywydau eraill ac i ddatblygu rhinweddau sy'n gwneud arweinydd da.
Annog a galluogi pobl ifanc i fynegi eu deallwriaeth a gwybodaeth a'u syniadau, barn, emosiynau a dyheadau trwy ystod eang o gyfleoedd creadigol ac yn aml heriol.
Â
Galluogi pobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac agweddau ac ymddygiad positif tuag at:
• amrywiaeth hiliol, cymdeithasol ac hunaniaeth ddiwylliannol;
• treftadaeth;
• iaith a gwerth iaith eu hunain;
• dinasyddiaeth;
• parch tuag at ddewisiadau pobl eraill.
Â