A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cyfarfodydd a Digwyddiadau

[ Cliciwch yma am fersiwn PDF ar gyfer ei argraffu ]

Agenda ar gyfer cyfarfod y Cyngor Sir Powys meeting a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2011

1. GWEDDI CC31-2011
Caplan y Cadeirydd i arwain y Cyngor mewn gweddi.
2. YMDDIHEURIADAU CC32-2011
I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
3. DATGANIADAU DIDDORDEB CC33-2011
Derbyn unrhyw ddatganiadau diddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau sydd i'w hystyried ar yr agenda.
4. COFNODION CC34-2011
Awdurdodi'r Cadeirydd i arwyddo cofnodion cyfarfod(ydd) diwethaf y Pwyllgor a gynhaliwyd ar y dyddiad(au) canlynol fel cofnod / cofnodion cywir.
[ Amgaead CC34a-2011 ] (Cyngor Sir Powys 2 Mawrth 2011) (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
5. CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. CC35-2011
5.1 I DDERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN GADEIRYDD Y CYNGOR, CADEIRYDD Y BWRDD NEU'R PRIF WEITHREDWR.  
5.2 I DDERBYN DEISEB GAN PHOEBE BETTS, DISGYBL O YSGOL GYNRADD CEGIDFA, YN GALW AR Y CYNGOR I DDARPARU LLWYBR TROED YN YR YSGOL.  
6. NEWID Y STRWYTHUR RHEOLI GWLEIDYDDOL CC36-2011
I ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Strategol - Y Gyfraith a Llywodraethu.
[ Amgaead CC36a-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
7. CYNIGION I'W YSTYRIED. CC37-2011
7.1 TREFNIADAU GWEITHREDOL  
Bod y Cyngor yn derbyn y cynigion canlynol ar ôl derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol o dan Reoliad 7(2) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen)(Cymru) 2004: 1. O dan Adran 29 Deddf Llywodraeth Leol 2000, bod y Cyngor yn penderfynu'n ffurfiol i weithredu Trefniadau Gweithrediaeth o'r Cyfarfod Blynyddol ar 12 Mai 2001 ar ffurf Arweinydd a Chabinet Gweithredol yn unol â'r cynigion a fabwysiadodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2010. 2. Bod y Cyngor yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Strategol - Y Gyfraith a Llywodraethu, i wneud y trefniadau angenrheidiol o dan Reoliad 10(2) Rheoliadau 2004 i gyhoeddi rhybudd mewn un neu ragor o bapurau newydd lleol yn ardal y Cyngor sy'n cydymffurfio â darpariaethau Paragraff (3) y Rheoliadau. I'w gynnig gan y Cynghorydd E. Michael John a'i eilio gan y Cynghorydd Leslie G. Davies.
8. CYFANSODDIAD DIWYGIEDIG. CC38-2011
I ystyried argymhellion y Prif Bwyllgor Craffu a Throsedd ac Anhrefn.
[ Amgaead CC38a-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
9. CYNLLUN LWFANSAU'R AELODAU 2011-12 CC39-2011
I ystyried Cynllun Lwfansau'r Aelodau ar gyfer 2011-12
[ Amgaead CC39a-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
[ Amgaead CC39b-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
[ Amgaead CC39c-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
10. ADOLYGU TREFNIADAU ETHOLIADOL - SIR POWYS. CC40-2011
I ystyried y cynigion terfynol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar gyfer Cyngor Sir Powys, ynghyd ag unrhyw adborth gan arweinwyr y grwp. Anfonwyd yr adolygiad i Aelodau ym mis Mawrth.
[ Amgaead CC40a-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
11. TRWYDDEDU LLEFYDD ADLONIANT RHYW CC41-2011
I ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Strategol - Y Gyfraith a Llywodraethu.
[ Amgaead CC41a-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
12. CWESTIYNAU YN UNOL á'R CYFANSODDIAD. CC42-2011
12.1 CWESTIYNAU I'R CYNGHORYDD G.G. HOPKINS, AELOD PORTFFOLIO PRIFFYRDD, AMGYLCHEDD LLEOL A GWASANAETHAU GAN Y CYNGHORYDD G.W. RATCLIFFE.  
Yn dilyn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am orfodi mesurau parcio o Heddlu Dyfed Powys i Gyngor Sir Powys, cafwyd pryderon am ddiffyg mannau parcio i drigolion. Gall yr Aelod Portffolio gadarnhau 1. Pryd bydd y polisi parcio i drigolion yn cael ei basio? 2. Beth y gall trigolion Y Gelli Gandryll ei wneud i geisio symud y mater parcio i drigolion ymlaen? 3. A fydd adolygiad llawn o fesurau parcio ac arafu traffig yn Y Gelli, a phryd? 4. A fyddai'n bosibl cael mesurau parcio dros dro i drigolion dros y cyfnod sy'n arwain at gyflwyno gynllun trwydded i drigolion?
12.2 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD A.G. THOMAS, AELOD PORTFFOLIO CYLLID GAN Y CYNGHORWYR G.W. RATCLIFFE A M.D. HODGES.  
Gall yr Aelod Portffolio gadarnhau sut y daeth i'r ffigwr y bydd aelodau'r Cabinet newydd yn cael cynnydd o £3,900 a phwy wnaeth argymell y ffigwr hwn iddo? A yw'r ffigwr hwn yn statudol neu a yw'r Cyngor llawn yn gallu ei newid?
12.3 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD G.G. HOPKINS, AELOD PORTFFOLION PRIFFYRDD, AMGYLCHEDD LLEOL A GWASANAETHAU GAN Y CYNGHORYDD M.D. HODGES.  
Gall yr Aelod Portffolio roi dealltwriaeth byr o'r gwaith y bydd disgwyl i'r staff Priffyrdd ei wneud ar y Sul?
12.4 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD E.M. JONES, CADEIRYDD Y BWRDD GAN Y CYNGHORYDD G.W. RATCLIFFE.  
Gall y Cadeirydd gadarnhau'r protocol ar ymateb i ohebiaeth?
12.5 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD W.T. JONES, AELOD PORTFFOLIO ADFYWIO A DATBLYGU GAN Y CYNGHORYDD A.W. DAVIES.  
O ran adroddiad terfynol y Gweithgor ar Adolygu Gwasanaethau Cynllunio, a yw'r Aelod Portffolio wedi cwrdd â Phennaeth y Gwasanaeth i drafod sut orau i roi Argymhelliad 5 yr adroddiad ar waith, ac yn arbennig "y dylid rhoi pob cymorth posibl i fenter y sector preifat."?
12.6 CWESTIYNAU I'R CYNGHORYDD R.G. BROWN, AELOD PORTFFOLIO TAI A GWARCHOD Y CYHOEDD GAN Y CYNGHORYDD W.D. POWELL.  
O fewn maes Tai'r Sector Preifat, pa gynnydd a welwyd o ran adfer cartrefi gwag i'w rhentu ar draws y Sir yn 2010/2011? Yn benodol, faint o waith sydd wedi'i ariannu gan Gyngor Sir Powys - ac ar ba sail? Pa lefel o nawdd sydd wedi'i ysgogi o ffynonellau eraill a beth yw canlyniadau'r gwaith hwn o ran tai? Beth yw'r blaenoriaethau allweddol yn 2011/12?
[ Amgaead CC42.6a-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
12.7 CWESTIYNAU I'R CYNGHORYDD G.G. HOPKINS, AELOD PORTFFOLIO PRIFFYRDD, AMGYLCHEDD LLEOL A GWASANAETHAU GAN Y CYNGHORYDD W.D. POWELL.  
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Pan fydd patrymau ac ymddygiad parcio'n setlo lawr .... bydd y Cyngor Sir yn cynnal arolwg o gyfyngiadau parcio a mesurau rheoli traffig ar draws y Sir gyfan." O gofio canllawiau penodol LlCC ar gynnwys cymunedau a chyfathrebu cyn cyflwyno mesurau gorfodi parcio sifil, oni fyddai'n fwy rhesymol - ac i gydymffurfio â'r canllawiau hynny - i gynnal yr arolwg cyn 1af Ebrill 2011? Yn benodol, beth oedd y gost i Gyngor Sir Powys o logi RTA Associates i helpu i gyflwyno'r Mesurau Parcio Sifil? Pam na chafodd yr hen foratoriwm ar Orchmynion Traffig ei ohirio er mwyn cyflawni'r broses hon yn amserol, cyn cyflwyno'r Mesurau Parcio Sifil? O fewn Cyngor Sir Benfro, gwrthodwyd llogi ymgynghorwyr o blaid defnyddio arbenigwyr mewnol a gwybodaeth leol. Cafwyd nifer fawr o orchmynion traffig dros ddwy flynedd er mwyn hwyluso'r gwaith o gyflwyno'r cynllun ac i hyrwyddo'r peth ymhlith y cyhoedd. Onid oes perygl y bydd credadwyaeth y cynllun ym Mhowys yn cael ei danseilio gan y ffordd y cafodd ei gyflwyno - ac y bydd modd herio'r Cyngor Sir am y rheswm hyn?
12.8 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD W.T. JONES, AELOD PORTFFOLIO ADFYWIO A DATBLYGU GAN Y CYNGHORYDD R.I. GEORGE  
O ran adroddiad terfynol y Gweithgor ar adolygu Gwasanaethau Cynllunio, a yw'r Aelod Portffolio'n derbyn Argymhelliad 8 yr Adroddiad a pha gamau 'grymus' y mae'n eu cymryd i ddelio â swyddogion yn yr Adran Gynllunio "nad ydynt yn perfformio i'r safonau proffesiynol angenrheidiol"?
12.9 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD A.G. THOMAS, AELOD PORTFFOLIO CYLLID GAN Y CYNGHORYDD G.D. PRICE.  
A yw'n iawn bod Cyngor Sir Powys yn penodi Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau newydd, o gofio bod y swydd wedi bod yn wag ers dros 6 mis wrth i'r swyddog oedd yn y swydd gymryd cyfrifoldebau dros dro fel Pennaeth yr Uned Gynllunio Busnes. Hefyd, rhagwelir na fydd y Tîm Twyll yn gweithio o'r Awdurdod Lleol o 2013 gan ddychwelyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau, ac y daw'r Credyd Cynhwysol i rym gyda'r ceisiadau newydd yn mynd i'r Adran Gwaith a Phensiynau o 2013? Bydd hyn yn gostwng maes gwasanaeth yr Adran Refeniw a Budd-daliadau'n sylweddol gyda dim ond Treth y Cyngor yn weddill ar ôl 2017.
12.10 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD D.R. JONES, AELOD PORTFFOLIO YSGOLION A CHYNHWYSIANT GAN Y CYNGHORYDD G.D. PRICE.  
Beth yw'r gwariant fesul disgybl yn Ysgolion uwchradd Cyngor Sir Powys, gan gynnwys ac eithio costau cludiant? Beth fyddai safle gyffredinol Ysgolion Uwchradd Cyngor Sir Powys yn nhabl diweddaraf PISA o'i gymharu â chyfartaledd Cymru?
[ Amgaead CC42.10a-2011 ] (Mae'r ddogfen hon yn Saesneg am nad yw ar gael yn y Gymraeg.)
12.11 CWESTIWN I'R CYNGHORYDD S.M. HAYES, AELOD PORTFFOLIO LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL AC EIDDO CORFFORAETHOL GAN Y CYNGHORYDD G.D. PRICE.  
Faint sydd wedi'i wario ar arlwyaeth i aelodau dros y flwyddyn ariannol 2010/11?
13. GOHEBIAETH CC43-2011
I ystyried unrhyw eitemau o ohebiaeth sydd ym marn y Cadeirydd yn ddigon o frys i haeddu ystyriaeth.

Yn ôl i dudalen dogfennau'r cyfarfod

Mae rhai dogfennau ar y safle yma mewn fformat PDF. I edrych ar y dogfennau yma, fe fydd angen darllenydd dogfennau PDF arnoch. Gallwch islwytho copi o Ddarllennydd PDF Adobe® drwy glicio yma.

Dyddiadur y Cyngor

Gweld dyddiadur o gyfarfodydd y Cyngor.

Pwyllgorau ar goll?

Ydych chi'n chwilio am y Pwyllgor Cynllunio neu'r Pwyllgor Trwyddedau? Y Pwyllgor Rheoleiddio sydd bellach yn delio â materion cynllunio, hawliau tramwy a thrwyddedu.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Gwasanaethau Democratig

Teleffon: 0845 602 7030

Cyfeiriad:
Gwasanaethau Democratig
Neuadd y Sir
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

RSS