A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Teithiau Cerdded

Rhaid cadw lle o flaen llaw ar gyfer yr holl ddigwyddiadau trwy ffonio 01597 827567

Oriel Ffotograffau Teithiau Cerdded Tywysedig

Mynnwch olwg ar rai o'r profiadau hwyliog ar rai o'r teithiau cerdded tywysiedig y llynedd trwy glicio ar y ddolen canlynol: Oriel ffotograffau

Croeso i Deithiau i'ch Denu 2013

 

Dewch i ymuno â'n tywyswyr cyfeillgar, gwybodus ar y detholiad hwn o deithiau tywys a fydd yn eich arwain trwy gefn gwlad hardd Powys.  Mae'r teithiau cerdded yn amrywio o 1¼  i 7 milltir, mae un yn hawdd, mae un yn egnïol, ac mae'r rhan fwyaf yn ganolig.  Tro gyda'r nos, gwneud collage i blant yn y bryniau, cael eich cyflwyno i rannau o rai o'n llwybrau pellter hirach eiconig, teithiau cerdded ger neu at gestyll hynafol a thro rhwydd a hamddenol ar hyd y gamlas .......... fe ddylai fod yna rywbeth i'ch temtio chi!

Mae angen rhoi eich enw ymlaen llaw ar gyfer yr holl ddigwyddiadau.

Darllenwch yr wybodaeth isod cyn archebu lle ar unrhyw daith.

 

 


BETH SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD CYN DOD:

Rydym am i chi fwynhau'r daith y byddwch yn ei dewis felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ddigon ffit.  Rydym wedi graddio'r teithiau cerdded fel y dangosir isod.

 

GRADDIO:

 

Hawdd - addas ar gyfer y rhan fwyaf o lefelau ffitrwydd, bydd y daith hon yn cael ei gwneud ar gyflymder hamddenol.  Cofiwch y gallai'r ddaear fod yn wlyb a mwdlyd felly gwisgwch esgidiau cerdded cyfforddus / esgidiau gyda gafael ar y gwadnau.

 

Canolig - mae angen lefel gymedrol o ffitrwydd gan y gallai rhai adrannau fod yn serth.  Mae angen esgidiau cryf neu rai gyda gafael da, ac argymhellir gwisgo esgidiau a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cerdded.

 

Egnïol - dringo adrannau hir, caled dros dir garw - mae angen lefel dda o ffitrwydd.  Mae esgidiau cerdded yn hanfodol.

 

Rhoddir graddau i'r teithiau cerdded fel canllaw cyffredinol yn unig.  Os oes gennych unrhyw amheuaeth am eich ffitrwydd ar gyfer taith benodol, cysylltwch â'r Swyddog Llwybrau Hamdden, Cyngor Sir Powys ar 01597 827567 e-bost: ginny.cooke @ powys.gov.uk .. ginny.cooke@powys.gov.uk. Cofiwch hefyd am bellter y daith, yr amodau amrywiol dan draed a'r posibilrwydd o dywydd gwael, a allai wneud y daith yn fwy anodd na'r disgwyl.  Os ydych chi'n ansicr o'ch lefel ffitrwydd, rhowch gynnig ar daith fer a hawdd yn gyntaf: mae'n llawer gwell dod o hyd i dro sydd ychydig yn rhy araf a hawdd na gwneud eich hun yn ddiflas ac yn flinedig. Gallai arweinwyr wrthod derbyn cerddwyr sydd, yn eu barn nhw, wedi eu paratoi annigonol neu'n anaddas.

 

GOFALWCH AMDANOCH EICH HUN:  Nid yw Cyngor Sir Powys yn gallu derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf neu golled a ddioddefir gan unrhyw berson, o ganlyniad i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.  Dylai unrhyw berson sy'n ystyried cymryd rhan mewn unrhyw un o'r teithiau cerdded hyn, fod yn fodlon fod y daith hon yn addas ar eu cyfer.

 

BETH I DDOD GYDA CHI:  Dillad glaw, esgidiau cerdded / esgidiau gyda gafael cyfforddus, eli haul, diod a byrbryd neu becyn cinio.

 

Oed

Rhaid i bobl ifanc dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.

 

CÅ´N

Mae croeso i gŵn ar rai o'r teithiau.  Lle nad oes croeso i gŵn dangosir hynny yn glir. 

Os ydych yn dod â'ch ci, rhaid ei gadw dan reolaeth bob amser a dim ond gadael iddo fod oddi ar ei dennyn gyda chaniatâd yr arweinydd.  Gall yr arweinydd wrthod derbyn cŵn ar y daith os nad ydynt o dan reolaeth.  Os oes camfeydd ar y daith gerdded a fydd eich ci yn gallu ymdopi â'r rhain?

 

BETH SY'N DIGWYDD AR DAITH DYWYS?

Dewch i'r man cyfarfod ychydig cyn yr amser dechrau lle bydd yr arweinydd yn eich cyfarfod.  Bydd yr arweinydd yn dweud wrthych am y daith ac yn gofalu bod gan bawb y dillad a'r esgidiau iawn.  Yn ystod y daith bydd pawb yn aros gyda'i gilydd ar gyflymder addas, ni fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.  Bydd yr arweinydd yn dweud wrthych am fannau o ddiddordeb ar hyd y llwybr.   Ar ddiwedd y daith, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen adborth i roi gwybod i ni beth oedd eich barn am y digwyddiad.

 

Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod ar un o'r Teithiau i'ch Denu eleni!

 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog y Llwybrau Hamdden, Cyngor Sir Powys Ffôn: 01597 827567 E-bost: ginnyc@powys.gov.uk 01597 827567     E-bost:  ginnyc@powys.gov.uk

 

 

 


TEITHIAU I'CH DENU 2013 - Teithiau Cerdded Tywysedig am ddim


Nos Fercher 29 Mai "Noson o Haf ar y Comin", Dolanog, Gogledd Powys

Noson o haf ar y Comin

Crwydro hamddenol ar Gomin Dolanog, dysgu am y bywyd gwyllt, yr hanes a'r defnydd a wneir o'r lle unigryw hwn heddiw.  Golygfeydd gwych ar noson glir!  Dringo graddol yn bennaf gydag un ddringfa serth, fer, dim camfeydd.

Cwrdd am 7pm ym maes parcio pentref Dolanog ger y Trallwng SJ 065 128

Hyd - Tua 2.5 milltir (4km) Amser - 2 awr

Graddedig - Canolig

Dewch â diod a byrbryd

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn dydd Mawrth 28 Mai

 

 


Dydd Gwener 31 Mai 'Taith Gelfyddydol i'r Bryniau' Canolfan Grefft Erwyd, ger Erwyd

Taith Gelfyddydol i'r Bryniau

Dewch i grwydro'r bryniau uwchben Canolfan Grefft Erwyd a chreu eich collage tirlun eich hun!   Taith gerdded fer i blant rhwng 7-12 oed.  Mae'n rhaid iddynt fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ar lwybrau glaswelltog heb wyneb caled sy'n golygu dringo i fyny'r bryn (ond byddwn yn gwneud hynny'n araf).  Dim grisiau na chamfeydd.

 

Cwrdd am 11am y tu allan i Ganolfan Crefft Erwyd, y mae arwydd oddi ar yr A470 ychydig i'r gogledd o Erwyd yn eich cyfeirio ati.  SO 089 439 

Hyd - 1.25 milltir (2km)

Amser - 2 awr

Graddedig - Canolig                        

Dewch â diod, byrbryd ac eli haul, argymhellir gwisgo trowsus hir.

Dim cŵn

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn dydd Iau 30 Mai

 


Dydd Sadwrn 15 Mehefin 'Bryniau, Dŵr ac Olion Rhufeinig', Dylife, ger Machynlleth

'Bryniau, Dŵr ac Olion Rhufeinig'
© Crown copyright (2013) Visit Wales

Ymunwch â ni ar y darn trawiadol hwn o Lwybr Glyndŵr a mwynhau golygfeydd gwych o Foel Fadian.

Byddwn yn dechrau gyda thaith fer ar y bws cyn dringo'n egnïol i fyny Foel Fadian. Yna wrth ddisgyn yn serth at Glaslyn cawn ddilyn Llwybr Glyndŵr at Geunant Clywedog ac yna bydd tynnu i fyny cyson yn dod â ni at weddillion y gaer fechan ar y Ffordd Rufeinig cyn mynd i lawr yr allt i'r dyffryn.

Cwrdd am 10am yn y gilfan gyferbyn â'r Star Inn, Dylife SN 862 939

Hyd - 5.6 milltir (9km) Amser - 3.5 awr

Graddedig - Egnïol

Dewch â phecyn bwyd

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn dydd Gwener 14 Mehefin

 

 


Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 'Golygfeydd o'r Castell ar Offa' Trefaldwyn

Golygfeydd o'r Castell ar Offa

Dewch i grwydro'r cefn gwlad hyfryd o gwmpas tref hanesyddol Trefaldwyn.  Bydd y daith hon yn eich tywys trwy olion y ffermio cefnen a rhych  o'r Oesoedd Canol, i fyny at Lwybr Clawdd Offa a thrwy Ystâd Parc Lymore.  Mae 5 camfa ar y llwybr a llethr graddol i fyny at Glawdd Offa. Rhowch ddigon o amser wedyn i edrych o gwmpas y castell a'r dref a rhoi cynnig ar y caffis neu'r tafarndai lleol.

Cwrdd am 10.30am ym maes parcio cyhoeddus Trefaldwyn ar ochr y B4385 SO 224 963

Hyd - 3 milltir (5km) Amser - tua 3 awr

Graddedig - Canolig

Dewch â diod a byrbryd

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn Dydd Gwener 12 Gorffennaf

 

 


Dydd Sadwrn 17 Awst 'Dilyn y Porthmyn', Halfway, ger Llanymddyfri

Dilyn y Porthmyn

Ymunwch â ni yn y maes parcio yn union oddi ar yr A40 yn Halfway, ac fe fyddwn yn teithio ychydig mewn bws mini hyd at ddechrau'r daith.  Byddwn yn cerdded rhan orllewinol Llwybr Epynt ac yn dychwelyd ar hyd llwybrau coedwigaeth a llwybrau ar lan yr afon.  Byddwn yn dilyn yn ôl troed y Porthmyn yr oedd eu llwybrau yn croesi'r ardal, wrth fwynhau golygfeydd godidog o'r Bannau Brycheiniog gorllewinol, Bannau Sir Gaer.  Tir amrywiol, dim camfeydd, ond rhywfaint o ddringo. 

Cwrdd am 10.30am yn y maes parcio ychydig i'r gogledd o'r A40 yn Halfway (gan ddilyn arwydd Crychan Forest) SN 835 329

Hyd - tua 7 milltir (11km)                      

 Amser - tua 5 awr

Graddedig - Canolig

Dewch â phecyn bwyd               

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn dydd Gwener 16 Awst

 


Dydd Sadwrn 7 Medi 'Taith i'ch denu ar hyd y Gamlas' Y Trallwng

'Taith i'ch denu ar hyd y Gamlas'

Ymunwch â ni ar daith hamddenol ar hyd llwybrau caled ar hyd Camlas Maldwyn ac i ymweld ag Amgueddfa Powysland.  Byddwn yn darganfod mwy am fywyd gwyllt a hanes y gamlas gan staff  Ymddiriedolaeth y Gamlas a'r Afon.

Mae hwn yn daith gerdded Mynediad i Bawb ar lwybrau gwastad gydag wyneb caled gan fwyaf, heb unrhyw gamfeydd na rhwystrau.  Mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Cyfle i gael lluniaeth ar ôl dod yn ôl ym Mwyty Waterside yng Nghanolfan Hamdden y Flash.

 

Cwrdd am 10am ym maes parcio'r Ysgol Uwchradd, ger Canolfan Hamdden y Flash, Y Trallwng SJ 233 081

Hyd - 1-2 milltir (2-3km)                      

Amser - 2-3 awr

Graddedig - Hawdd

Dewch â byrbryd a diod

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn dydd Gwener 6 Medi

 

 


Dydd Sul 22 Medi 'Dyffryn y Deuddwr' Llansanffraid Cwmdeuddwr, ger Rhaeadr Gwy

Dyffryn y Deuddwr

Cwmdeuddwr, ger Rhaeadr Gwy

 

Beth am roi cynnig ar rannau o Lwybr Dyffryn Gwy a Llwybr Cwm Elan ar y daith hon sy'n cynnig golygfeydd gwych, pont siglen gyffrous a chyfle i weld un o safleoedd hardd yr Ymddiriedolaeth Coedlannau.  Un gamfa.

 

Cyfarfod am 2pm wrth y fynedfa i Eglwys St Brides, Llansanffraid Cwmdeuddwr, ychydig i'r gorllewin o Raeadr Gwy.  SN 967 677

Hyd - 4.5 milltir (7.2km) Amser - 3-4 awr

Graddedig - Canolig

Dewch â byrbryd a diod

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn dydd Gwener 20 Medi

 


Dydd Sadwrn 12 Hydref 'Tro at Gastell Dolforwyn', Aber-miwl ger y Drenewydd

'Tro at Gastell Dolforwyn'

Taith gerdded o Aber-miwl hyd at Gastell hanesyddol Dolforwyn, sy'n cynnig golygfeydd gwych o'r safle uchel hwn. Bydd rhan o'r daith ar hyd llwybr Camlas Maldwyn.

O leiaf 4 camfa a 2 gyfnod o ddringo cymedrol

Cwrdd am 10.30am y tu allan i Ysgol Gynradd Aber-miwl SO 162 948

Hyd - 3 milltir (5km)                            

Amser - tua 4 awr

Graddedig - Canolig

Dewch â phecyn bwyd

Rhaid rhoi eich enw drwy ffonio 01597 827567 cyn dydd Gwener 11 Hydref.

 


Am ragor o fanylion ar deithiau cerdded/digwyddiadau eraill dan arweiniad ym Mhowys, cysylltwch â'r canlynol:

Teithiau a Digwyddiadau dan Arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog    Ffôn: 01874 623366      Gwefan: http://www.breconbeacons.org

 

Cyswllt Gwasanaeth

Swyddog Llwybrau Hamdden

Cyfeiriad E-bost: countryside@powys.gov.uk

Teleffon: 01597 827567

Cyfeiriad:
Swyddog Llwybrau Hamdden
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

Oriel

Oriel luniau o deithiau cerdded blaenorol
RSS