Eich stop cyntaf ar gyfer gwybodaeth am Bowys, ei phobl a'i lleoedd

Ystadegol

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is Powys

Powys_LSOA_cy.pdf

284 K

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol Powys

Powys_MSOA_Map_cy.pdf

83 K

Daearyddiaeth newydd a ddatblygwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw'r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (SOA) i wella'r adrodd ar ddata mewn ardaloedd bychain. . Lluniwyd yr SOA i fod â phoblogaeth debyg o ran maint, ac felly i roi gwell cymhariaeth rhwng ardaloedd a'i gilydd. Nid yw'r SOA yn destun newid ffiniau cyson, felly maent yn fwy addas ar gyfer cymharu tueddiadau dros gyfnod o amser.    

Mae dwy haen i SOA yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd, (sef yr Haen Is a'r Haen Ganol), a haen ychwanegol Uwch yng Nghymru yn unig, sy'n cynnwys ardaloedd y mae eu maint rhwng yr Ardaloedd Cynnyrch (OA) a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2001 ac awdurdodau lleol, ac mae pob haen y tu mewn i'r haen sydd uwch na hi.

  • Ardal Cynnyrch - OA (oddeutu 400 o bobl);
  • Cynnyrch Ardal Ehangach Haen Is - LSOA (oddeutu 1,500 o bobl);
  • Cynnyrch Ardal Ehangach Haen Ganol - MSOA (oddeutu 7,500 o bobl);
  • Cynnyrch Ardal Ehangach Haen Uwch - USOA (oddeutu 25,000 o bobl).

Mae hyn yn cynnig dewis o raddfa ar gyfer casglu a chyhoeddi data, ac yn caniatáu i'r data lleol (a allai fod yn amwys pe byddent yn cael eu cyhoeddi ar gyfer OA), gael eu rhyddhau .

Mae gan Bowys 4 USOA, 19 MSOA a 80 LSOA.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan daearyddiaeth yr ONS a gwefan Uned Ddata Cymru.