A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Pentref ar ffin Sir Amwythig yw Llansanffraid-ym-Mechain sydd tua 8 milltir i'r gogledd o'r Trallwng. Un o nifer o bentrefi o'r enw Llansanffraid a sefydlwyd gan Sant Ffraid a ddaeth drosodd i Gymru i bregethu. 'Eglwys Sant Ffraid ar dir yr afon Cain' yw'r cyfieithiad llythrennol. Mae stori sy'n esbonio pam mae'r eglwys yn sefyll lle y mae heddiw. Yn wreiddiol, dewisodd y trigolion Fryn y Foel gan eu bod yn credu ei fod yn agosach at Dduw oherwydd ei uchder. Fodd bynnag, cyn gynted ag y dechreuodd y gwaith adeiladu, gwelsant fod y cerrig wedi cael eu symud i fryn ar ochr arall y ffordd. Fe wnaethant symud y cerrig yn ôl i Fryn y Foel, ond cawsant eu symud unwaith eto. Cafodd hyn ei ystyried fel 'ewyllys Duw' gan y pentrefwyr ac adeiladwyd yr eglwys ar yr ail safle.
Mae'r plwyf yn cael ei amgylchynu bron yn llwyr gan afonydd Efyrnwy, y Cain, Y Tanant a'u llednentydd.
Roedd tîm pêl-droed Llansanffraid yn cael ei adnabod yn flaenorol fel Clwb Pêl-droed Total Network Solutions, gan ennill cynghrair pêl-droed Cymru yn nhymor 2004-2005 sef y teitl cyntaf ers newid yr enw o Lansanffraid. Yn dilyn newid ei noddwyr, ailenwyd y tîm yn Glwb Pêl-droed The New Saints ar gyfer tymor 2006-2007 ac maent erbyn hyn yn rownd derfynol Cwpan Cymru.