A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ynglyn â Chyngor Sir Powys

Cyngor Sir Powys - yn Creu Sir Well

Awdurdod Unedol Cymreig yw Cyngor Sir Powys gyda 73 o Gynghorwyr etholedig. Mae'r awdurdod yn weddol ifanc. Cafodd ei greu fel Cyngor Sir yn 1974, yna'i gyfuno â'i gynghorau rhanbarthol cyfansoddol i ddod yn Awdurdod Unedol yn 1996. Fodd bynnag, mae ei wreiddiau yn ddwfn, ac mae'r tair rhanbarth sy'n rhan o'r awdurdod - Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed - yn ymestyn yn ôl ganrifoedd.

Fel Awdurdod Unedol, mae'r Cyngor yn gyfrifol am holl wasanaethau llywodraeth leol y sir, yn cynnwys addysg, gwasanaethau gofal cymdeithasol, ffyrdd a phontydd, gwasanaethau hamdden, twristiaeth a chynllunio.

Mae'r Cyngor yn cyflogi tua 8,000 o staff mewn nifer o leoliadau ar draws y sir mewn amrywiaeth o rolau, o gasglwyr sbwriel i weithwyr cymdeithasol, o athrawon i beirianyddion priffyrdd.

Mae'r Cyngor yn effeithio'n sylweddol ar yr economi leol, trwy fod yn gyflogwr mwyaf y sir a thrwy wario dros hanner o'i drosiant o £300 miliwn o fewn ffiniau'r sir.

Cynghorwyr, cofnodion cyfarfodydd ac ati

Mae gwybodaeth am Gynghorwyr, hen gofnodion cyfarfodydd, strwythurau pwyllgorau a gwybodaeth berthnasol eraill ar gael ar wefan Gwasanaethau Democrataidd.   Rydym wrthi'n trosglwyddo'r wybodaeth hyn i'n system gwefan newydd, ond yn y cyfamser, cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol:

Ynglyn â Gwasanaethau Democrataidd

Mae'r adran Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i holl aelodau'r Cyngor ynghyd â darparu a goruchwylio:

  • manylion cyfarfodydd y Cyngor a'i bwyllgorau;
  • cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a'i bwyllgorau.

http://demserv.powys.gov.uk/welsh/default.htm

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Gwasanaethau Democratig

Teleffon: 0845 602 7030

Cyfeiriad:
Gwasanaethau Democratig
Neuadd y Sir
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

RSS