A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ynglyn â Rhanbarth Etholiadol Bugeildy

Ynglyn â Bugeildy

Bugeildy

Ward Bugeildy yw un o'r wardiau mwyaf yn Sir Faesyfed. Yn y gorllewin, mae'r ffin y tu hwnt i'r afon Ithon, o'r ffin gyda Sir Drefaldwyn yn Esgairdraenllwyn i'r de o Landdewi. Yn y dwyrain, mae'n dilyn yr afon Tefeidiad (Teme) a ffin Sir Amwythig o'r grid gwartheg yng Nghrugynnau bron hyd at Dref-y-clawdd.

Mae tri Chyngor Cymuned ar wahân yn Ward Bugeildy sef Llanbadarn Fynydd a Llanbister yn y gorllewin a Chyngor Cymuned Bugeildy yn y dwyrain. Dyma'r Cyngor Cymuned mwyaf yn dilyn y B4355. Mae'n cynnwys Bugeildy, Felindre, Dutlas, Llwyni a Chnwclas ac yn rhoi ei enw i'r ward.

Yn y dwyrain, mae'r ward yn dilyn Afon Ithon a chefnffordd yr A483 gan gynnwys pentrefi Llanbadarn Fynydd, Llanbister, Llaithddu a Llanbister Road.

Mae llinell rheilffordd Calon Cymru yn mynd trwy'r ward ac mae Cnwclas yn enwog am y draphont rheilffordd.

Mae'r ward yn ardal wledig hardd iawn sy'n cynnwys chwe phrif anheddiad a llawer o ffermydd ac eiddo anghysbell. Nid oes unrhyw waith heblaw am dwristiaeth/lletygarwch a ffermio. Cnwclas yw'r unig ardal lle mae datblygiad tai yn digwydd ac mae felly yn ehangu.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dynodi rhan ogleddol y ward ar gyfer lleoli ffermydd gwynt. Mae ffermydd gwynt o bwys ar fin cael eu hadeiladu yma.

RSS