A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Yn dilyn mabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol Powys ar 1 Mawrth 2010, a lle maen nhw'n gyflawn, cadarnhawyd y dogfennau canllaw isod (Canllaw Rheoli Datblygu Interim) fel Canllawiau Cynllunio Atodol gan Fwrdd y Cyngor ar 22 Mehefin 2010.
Dylid ystyried y Canllawiau Cynllunio Atodol fel ystyriaeth berthnasol wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
Â
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy (y gellir ei weld trwy'r ddolen isod). Mae'r Canllaw Cynllunio Atodol hwn yn cynnwys canllawiau cynllunio manwl ar weithredu Polisiau Tai Fforddiadwy yng Nghynllun Datblygu Unedol Powys cyfredol, mabwysiadwyd Mawrth 2010.
Â
|
|
1.2 M |
|
|
118 K |
|
|
422 K |
Mae'r canllaw rheoli datblygu dros dro hwn wedi cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio o 1 Ebrill 2009.
|
|
280 K |
O ystyried Datganiad Polisi Cynllunio Interim Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru 01/2009 – Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaladwy, mae'r Cyngor Sir wedi adolygu Canllaw Rheoli Datblygu Dros Dro ar Ddylunio Datblygiadau Effeithiolrwydd Ynni (DEED) IDCG (2008).
Bydd DEED yn parhau i fod yn bwysig wrth ystyried y mathau hyn o ddatblygiad nad yw MIPPS 01/09 yn berthnasol iddynt:
Newidiadau o 1 Medi 2009
Ni fydd yn bwysig ystyried DEED ar gyfer ceisiadau cynllunio newydd (nid materion a gadwyd yn ôl) a dderbynir ar 1 Medi 2009 neu wedi hynny:
Newidiadau o 1 Medi 2010
Ni fydd yn bwysig ystyried DEED ar gyfer ceisiadau cynllunio newydd (nid materion a gadwyd yn ôl) sy'n cynnig unedau perswl newydd os cânt eu derbyn ar ôl 1 Medi 2010 (datblygiadau DEED mathau A a B).
|
|
226 K |
Mae'r dolenni isod i ddogfennau arfer gorau o wefan yr Ymddiriedolaeth Arbedion Ynni a gyfeirir ati yn y Canllaw Rheoli Datblygu Dros dro (drafft). Nid yw'r Cyngor Sir yn gyfrifol am ddeunydd gwefannau allanol.
http://www.energysavingtrust.org.uk/
Systemau gwresogi dwr solar - canllaw i weithwyr proffesiynol, modelau anuniongyrchol confensiynol.
Taflen ffeithiau 3, ynni adnewyddadwy -Â gwresogi dwr solar.
Cwrdd â'r targed o 10 y cant ar gyfer ynni adnewyddadwy o fewn tai - arweiniad i ddatblygwyr a chynllunwyr. Â
Cynllun stad solar goddefol.
Cyhoeddodd y Cyngor Sir Ganllaw Rheoli Datblygu diwygiedig yn 2008 i ymgynghori â'r cyhoedd, ar yr un pryd â'i awdurdodi i'w ddefnyddio ar gyfer rheoli datblygu.  Dylai'r pwysau sydd ynghlwm â'r Canllaw hwn wrth wneud penderfyniadau, adlewyrchu'r safle hwn.
Mae'r ddogfen hon ar gael i'w lawrlwytho isod.
Os hoffech weld y diwygiadau a bwrw golwg ar yr adroddiadau ar y diwygiadau sy'n mynd law yn llaw â'r canllaw yma, anfonwch e-bost i ldp@powys.gov.uk i ofyn am gopi.
|
|
188 K |
|
|
|
2.0 M |
Mae'r Canllaw Rheoli Datblygu Dros dro wedi cael ei gymeradwyo er defnydd rheoli datblygu. Mae'n nodi pa rannau o ddyraniad tir preswyl B4 HA2 ym Mronllys y dylid eu defnyddio i ateb anghenion tir preswyl y CDU.
|
|
699 K |
Mae'r Cyngor wedi paratoi briff datblygu ar gyfer safle o'r enw Bryn-y-groes, sydd wedi ei glustnodi ar gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Unedol Powys.
Cafodd Briff Datblygu terfynol Bryn-y-groes ei gymeradwyo i'w ddefnyddio i reoli datblygu fel Canllaw Rheoli Datblygu Dros Dro ar ddydd Mawrth 16 Mehefin 2009, ac mae'r ddogfen ar gael i'w gweld trwy'r ddolen isod:
Â
|
|
1.7 M |
Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar Frîff Datblygu Bryn-y-groes drafft rhwng dydd Llun 2 Mawrth 2009 a dydd Mawrth 14 Ebrill 2009.
Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, cafwyd tri sylw ar y Brîff Datblygu drafft. Mae'r sylwadau hyn, ac ymateb y Cyngor iddynt ar gael isod:
|
|
127 K |
I gael rhagor o wybodaeth am statws y brîiff datblygu, ewch at y Cylchlythyr trwy'r ddolen isod:
|
|
176 K |