A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Canolfannau Addysg Awyr Agored

Dringwr Ifanc

Mae'r gwasanaeth yn gyfrifol am ddwy ganolfan gweithgareddau awyr agored. Mae  un ohonynt o fewn y sir ym Mhenffordd-las ger Llanidloes a'r llall ger Y Friog yng Ngwynedd.

Mae'r brif ganolfan yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Penffordd-las yn gyfle i ddianc rhag ardaloedd twristaidd Eryri a'r Bannau Brycheiniog, ond eto'n rhoi cyfle i droi llaw at antur awyr agored mewn sawl lle.

Rydym yn defnyddio Cronfa ddwr Clywedog lle mae gennym fflyd o gychod hwylio sy'n addas i'r dechreuwr neu'r mwyaf profiadol.  Rydym hefyd yn defnyddio'r llyn ar gyfer y caiacs a'r canwod, a'r rafftiau ar gyfer eu hadeiladu.

Os mai canwio neu gaiaco dwr gwyn yw eich diddordeb chi, yna mae'r ganolfan mewn lle delfrydol yng nghalon Dwr Gwyn Cymru.  Mae Afon Hafren ryw 15 munud i ffwrdd ac Afon Gwy yn 25 munud.

I feicwyr mynydd, mae cyfleoedd di-ri i feicio yng Nghoedwig Hafren.

Yn olaf mae Mynyddoedd Pumlumon a'r Cambrian ar garreg y drws i gerddwyr, sy'n cynnig diffeithwch prin sy'n wahanol i lwybrau cerdded treuliedig Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr.

Mae'r llety ei hun yn adeilad modern, eang gyda lle i 50 mewn ystafelloedd gwely ar gyfer rhwng 2 a 6 o bobl.  Mae yna lolfa gyfforddus gyda thân bren, ystafell sychu, ystafell fwyta a chegin bwrpasol.

Mae'r ganolfan yn trefnu gwahanol fathau o gyrsiau addysg yn yr awyr agored yn bennaf i ysgolion a grwpiau ieuenctid Powys, sy'n cynnig antur, hyfforddiant Dug Caeredin, yr amgylchedd a hyfforddiant datblygu ieuenctid ac oedolion.

Mae gennym hefyd gyfleusterau cynadledda a llety ar steil 'byncws'.

Gallwch logi'r cyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd tîm a diwrnodau i ffwrdd.  Mae'r ystafelloedd cyfarfod, y cymhorthion dysgu a chynadledda ac amgylchedd heb ffôn symudol yn golygu mai dim ond y golygfeydd fydd yn tynnu eich sylw.

 

Arlwyo: O hunan-arlwyo i brydau llawn.

Cegin: Cyfleusterau cegin fasnachol llawn.

Ystafell fwyta: Seddi hyblyg ar gyfer hyd at 40 - neu 50 os ydyn nhw'n ffrindiau da!

Ystafell fyw: Lolfa fawr a chyfforddus gyda thân bren a golygfeydd dros Goedwig Hafren a chronfa ddwr Clywedog

Cyfleusterau Cynadledda: Taflunydd, byrddau gwyn, fflipsiartiau, dvd.

Gwresogi/Tanau Agored:  Gwres dan y llawr a llosgwr coed.

Ystafelloedd Gwely: 6 gwely'n  bennaf gyda 3 bync yr un.  Mae ystafelloedd yr arweinwyr yn cynnwys gwelyau sengl gyda basn ymolchi.  Mae dwy ystafell yn hyblyg ac yn hwylus i gadeiriau olwyn.

Dillad gwely: Ar gael am bris bychan ychwanegol.

Ystafelloedd ymolchi:  Dim en-suite ond mae ystafelloedd yr arweinwyr yn cynnwys cawodydd gyda'r toiledau drws nesaf.  Ystafelloedd cawodydd a thoiledau ar wahân

Cyfleusterau i'r Anabl:  Mae 2 ystafell i fyny'r grisiau sy'n hwylus i gadeiriau olwyn, gyda'u cyfleusterau eu hunain. 

Cyfleusterau i Blant:  Mae croeso i blant

Cyfleusterau awyr agored:  Llwybrau cerdded a thiroedd o gwmpas y ganolfan.  Cwrs saethyddiaeth a rhaffau ar y safle.

Pwll nofio:  Na

Parcio:  Oddi ar y stryd yn ein maes parcio ein hunain.

Cyfleusterau Telathrebu:  Ffôn talu - dim cyswllt ffôn symudol

Ysmygu:  Na

Anifeiliaid Anwes:  Rhai sy'n ymddwyn yn dda

Ystafell Gemau:  Pêl-droed bwrdd, pwl, tennis bwrdd a gemau

 

 

Cyswllt:

Canolfan Awyr Agored Penffordd-las
Llanbrynmair
Powys, SY19 7DS.

Rhif ffôn: 01686 430630

staylittle.outdoor.centre@powys.gov.uk

 

To top

Cyswllt Gwasanaeth

Canolfannau Gweithgareddau Awyr Agored

Cyfeiriad E-bost: staylittle.outdoor.centre@powys.gov.uk

Teleffon: 01686 430630

Cyfeiriad:
Canolfannau Gweithgareddau Awyr Agored
Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Penffordd-las
Penffordd-las
Llanbrynmair
Powys
SY19 7BU

RSS