A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Pridiannau Tir Lleol

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 i gadw Cofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae Pridiannau Tir Lleol yn gyfyngiadau neu'n waharddiadau ar ddarnau o dir, sy'n rhwymo perchnogion neu ddeiliaid y darn o dir.  Ni fydd y cyfyngiadau hyn fel rheol i'w gweld ar y gweithredoedd felly bydd Archwiliadau Awdurdod Lleol yn cael eu cynnal fel rhan o'r broses trawsgludo wrth brynu neu ail roi morgais ar eiddo, er mwyn amlinellu'r pridiannau hyn.

Mae'r adran pridiannau tir lleol yn gyfrifol am gadw cofrestr ac am brosesu Archwiliadau Awdurdod Lleol. 

Archwiliad Awdurdod Lleol

Mae'r Archwiliad Awdurdod Lleol yn rhan o'r broses trawsgludo. Y diben yw gwarchod rhai allai fod yn prynu eiddo neu dir, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw faterion sy'n effeithio ar yr eiddo neu dir. 

Mae dwy elfen i'r archwiliad – ffurflen LLC1 a ffurflen CON29.

Ffurflen LLC1 – cais i chwilio trwy'r Gofrestr Pridiannau Tir ac am dystysgrif archwilio swyddogol. 

Mae'r rhan hon o'r archwiliad yn ymwneud â phridiannau y gellir eu cofrestru, er enghraifft Ardaloedd Cadwraeth, Gorchmynion Gwarchod Coed, Adeiladau Rhestredig, Rhybuddion Gorfodi, Amodau sydd ynghlwm wrth Ganiatâd Cynllunio ac ati.

Ffurflen CON29 – rhestr o ymholiadau arferol i Awdurdodau Lleol a rhai ymholiadau dewisol ychwanegol.

Mae'r rhan hon o'r archwiliad yn ymdrin â Statws yn y Cynllun Datblygu, Ffyrdd, Tir Llygredig, Rheoliadau Adeiladu, Hanes Cynllunio Arall ayb.

Nodwch na fydd yr archwiliad yn cynnwys gwybodaeth am eiddo sydd gerllaw. Os oes gennych bryderon am eiddo neu dir sydd gerllaw, gallwch ofyn am ymholiad ychwanegol.

Wrth ofyn am Archwiliad Awdurdod Lleol, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • Ffurflen LLC1
  • Ffurflen CON29
  • Y ffi cywir (gweler y tabl isod) - dylid gwneud sieciau'n daladwy i Gyngor Sir Powys.
  • Rhaid cyflwyno archwiliadau gyda chynllun safonol yr OS, gyda llinell goch o amgylch yr ardal sydd i'w harchwilio. Dylai'r cynllun fod yn un cyfredol ac yn dangos yr ardal archwilio yn glir mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

Y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS)

Menter gan y llywodraeth yw'r NLIS sy'n ceisio cyflwyno gwasanaethau'n electronig.  Mae Powys wedi'i chysylltu â'r NLIS ar lefel 3 ac mae'n gallu derbyn ceisiadau i archwilio yn electronig, a dychwelyd canlyniadau archwilio yn electronig.

Ewch i wefan NLIS i gael rhagor o wybodaeth – www.nlis.org.uk

Ffioedd Archwilio

Chwilio'r Gofrestr Pridiannau Tir Ffi Safonol Ffi NLIS
LLC1 £6.00 £4.00
Chwiliad Personol £0.00 N/A
Parsel Ychwanegol £1.00 £1.00
Ymholiadau angenrheidiol ar Eiddo CON 29 Ffi Safonol Ffi NLIS
CON29R £96.00 £96.00
Parsel Ychwanegol £10.00 £10.00

Ymholiadau Dewisol ar Eiddo|Ffi Safonol|Ffi NLIS

CON29 Ymholiad Dewisol Rhif 5|£20.00|£20.00

CON29 Ymholiad Dewisol Rhif  22|£22.00|£22.00

Pob ymholiad dewisol arall dan CON29|£12.00 yr un|£12.00 yr un

Ymholiadau Drafft|£22.00 yr un|£22.00 yr un

Amseroedd Ymateb ar gyfer Archwiliadau

Mae'r Comisiwn Archwilio yn monitro amseroedd cynnal archwiliadau Awdurdod Lleol ar gyfer archwiliadau safonol.  Y ffigurau sy'n cael eu cofnodi ar hyn o bryd yw canran yr archwiliadau safonol sy'n cael eu cynnal o fewn 10 diwrnod gwaith.

Ar fis Mawrth 2010 - cafodd 99% eu cwblhau o fewn 10 diwrnod gwaith

Cyfartaledd amser ymateb Powys ar hyn o bryd yw 4 diwrnod gwaith.

Ceisiadau am Archwiliadau Personol

Dim ond trwy apwyntiad y bydd modd cynnal archwiliad personol o'r Gofrestr  Pridiannau Tir, a hynny rhwng 10.00 a 11.30 a 2.00 a 4.00.  Archwiliad o'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig yw archwiliad personol.  Nid yw'r archwiliadau'n cael ymateb ysgrifenedig na thystysgrif archwilio swyddogol.  Rhaid creu nodiadau eich hun o wybodaeth sy'n cael ei rhoi ar sgrîn cyfrifiadur.  

Ffoniwch 01938 551049 i drefnu apwyntiad ar gyfer archwiliad personol.

Cysylltu â'r Adran Pridiannau Tir

Gallwch gysylltu â'r Adran Pridiannau Tir Lleol ar: -

Ffôn: -    01938 551111 neu 01938 551237

Ffôn Apwyntiadau Archwiliadau Personol: - 01938 551049

E-bost: - land.charges@powys.gov.uk

Cyferiaid Post:- 
Cyngor Sir Powys
Adran Pridiannau Tir
Neuadd Maldwyn
Ffordd Hafren
Y Trallwng
Powys
SY21 7AS

Cyfeiriad DX:-
Cyngor Sir Powys
Adran Pridiannau Tir
DX 29213
Y Trallwng

Cyswllt Gwasanaeth

Taliadau Tir

Cyfeiriad E-bost: land.charges@powys.gov.uk

Teleffon: 01938 551111

Ffacs: 01938 551233

Cyfeiriad:
Taliadau Tir
Neuadd Maldwyn
Ffordd Hafren
Y Trallwng
Powys
SY21 7AS

Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma

2011 - Gwybodaeth am Fynediad a Ffioedd

2011 - Gwybodaeth am Fynediad a Ffioedd

231 K

2011 - Mynediad at Wybodaeth am Eiddo

2011 - Mynediad at Wybodaeth am Eiddo

53 K

RSS