A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnal nifer o weithgareddau cynnal a chadw amgylcheddol i ymylon priffyrdd i sicrhau fod defnyddwyr y ffordd yn medru teithio'n ddiogel, tra hefyd yn cadw'n ymwybodol o'i gyfrifoldebau fel ceidwad yr amrywiaeth eang o fioamrywiaeth sydd yn yr ymylon ffyrdd hynny. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys:-
Bydd y rhan o ymyl y ffordd gaiff ei dorri yn cael ei gyfyngu fel arfer i un lled y torrwr (1.2m) i ganiatau lle diogel i gerddwyr a rhoi lle i ddwr wyneb lifo'n rhwydd yn y sianeli. Bydd rhagor yn cael ei dorri ar gorneli a chyffyrdd i gwrdd â gofynion diogelwch o ran gweld ac i sicrhau fod arwyddion yn cael eu gweld. Cyn i'r gwaith torri ddechrau, bydd sbwriel yn cael ei godi oddi ar ymylon y ffyrdd er mwyn gwella eu hymddangosiad wedyn. Bydd rhagor o waith codi sbwriel ar ymylon ffyrdd yn digwydd trwy'r flwyddyn fel sydd angen. Bydd ymylon yr holl ffyrdd gwledig yn cael eu torri unwaith y flwyddyn fel arfer, gyda'r amseriad yn dibynnu ar dyfiant yn ystod y tymor.
Bydd ymylon cyfan priffyrdd mewn ardaloedd trefol fel rheol yn cael eu torri o leiaf 4 gwaith y flwyddyn i wella eu gwerth o ran mwynder, yn hytrach nag yn gyfan gwbwl oherwydd diogelwch ar y ffyrdd.
Nid cyfrifoldeb yr Awdurdod yw cynnal a chadw mwyafrif y gwrychoedd wrth ymyl ymylon ffyrdd mewn mannau gwledig a threfol, gan eu bod mewn perchnogaeth breifat. Mae deddfwriaeth yn rhoi rhwymedigaeth statudol ar berchnogion/deiliaid i gynnal eu ffiniau (y tu allan i dymor nythu adar) i sicrhau nad yw'r gwrychoedd yn peri rhwystr. Dylai unrhyw falurion o ganlyniad i waith torri gwrychoedd gael eu symud oddi ar wyneb y briffordd.
Caiff chwyn eu chwistrellu ar holl rannau'r ffyrdd sydd â chyrbiau mewn ardaloedd gwledig i atal difrod i strwythur y ffyrdd ac atal rhwystrau i'r system ddraenio. Caiff hyn ei wneud hyd at ddwywaith y flwyddyn yn defnyddio chwistrell glyffosad eco-gyfeillgar ac sydd wedi'i gymeradwyo. Bydd gwaith chwistrellu hefyd yn digwydd o amgylch rhwystrau damweiniau a physt. O dan Ddeddf Chwyn Gwynwynig 1959 bydd rhai chwyn gwenwynig, megis Llysiau'r Gingroen a Chanclwm Japan yn cael eu symud â llaw neu eu chwistrellu.
Bydd llai o chwistrellu chwyn mewn ardaloedd trefol, gan y dylai ysgubo rheolaidd helpu i leihau'r chwyn.
Mae holl bolisiau cynnal a chadw amgylcheddol Cyngor Sir Powys wedi'u cyfarwyddo i gadw bioamrywiaeth ymylon ffyrdd gan beidio ag amharu ar ddiogelwch ar y ffyrdd hynny. Ar y cyd ag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt lleol, mae'r Awdurdod yn rheoli tua 90 gwarchodfa natur ymyl ffyrdd sydd â threfn gynnal a chadw sy'n addas ar gyfer y bioamrywiaeth benodol a ddynodwyd yn yr ymyl ffordd. Mae'r safleoedd hyn wedi'u marcio ar y priffyrdd a gellir cael rhagor o wybodaeth gan yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt priodol.
Trwy raglen barhaol o waith cynnal a chadw, caiff amrywiaeth o waith draenio eu cynnal ar ymylon ffyrdd i helpu i leihau difrod i'r ffordd. Mae'r gwaith yn cynnwys glanhau ffosydd, seidins a thresi.
Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk
Teleffon: 0845 602 7035
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA