A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cynaliadwyedd / Dinasyddiaeth Fyd Eang

Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang

delwedd o'r Ddaear

Ni ddylid cyfyngu Addysg o Ansawdd ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang i'r dosbarth nac i un athro.  Dylid ei gynnwys o fewn y cwricwlwm cyfan, mewn gwaith rheoli, llywodraethwyr ac addysgwyr yr ysgol, ac nid fel pwnc 'ychwanegol' yn unig.  Mae'n cynnwys partneriaethau mae'r ysgol yn ei chreu â mudiadau a'r gymuned leol.  Mae ei wreiddiau wedi'u plannu mewn addysg amgylcheddol ac addysg ddatblygu.

O ganlyniad, mae llawer o'r blociau adeiladu ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd eang eisoes ar gael ym mhob ysgol.

Beth yw ADCDF

Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy
Galluogi pobl i ddatblygu'r wybodaeth, gwerthoedd a sgiliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau am y ffordd rydym yn gwneud pethau'n unigol ac ar y cyd, yn lleol ac yn fyd eang, a fydd yn gwella ansawdd ein bywyd nawr heb ddifrodi'r blaned ar gyfer y dyfodol.

Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang
Galluogi pobl i ddeall y grymoedd byd eang sy'n llunio eu bywydau ac i gael y gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, ar lefel lleol a byd-eang, sy'n hybu byd mwy cyfartal a chynaliadwy.  

Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang am :

delwedd pili pala
  • Y cysylltiadau rhwng cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd a rhwng ein bywydau ein hunain a bywydau pobl led led y byd 
  • Anghenion a hawliau'r cenhedlaethau presennol a'r dyfodol
  • Y berthynas rhwng pwer, adnoddau a hawliau dynol 
  • Goblygiadau lleol a byd eang yr holl bethau rydym yn eu gwneud a'r gweithredoedd y gall unigolion a sefydliadau eu gwneud mewn ymateb i broblemau lleol a byd eang.
delwedd merch mewn marchnad

 

Nid yw'n:

  • bwnc ar wahân;
  • yn gyfres o gysyniadau neu bynciau;
  • wedi'i gyfyngu i'r dosbarth;
  • yn gyfrifoldeb un unigolyn;
  • trosglwyddo cyfres o atebion i'r myfyrwyr .

Cwestiynau y gall ysgolion eu gofyn :

  • Oes gennym bolisi ADCDF?
  • Oes gennym gydlynydd ADCDF?
  • A ydym wedi cwblhau archwiliad yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy?
  • A yw ein darpariaeth ABCh yn rhoi digon o sylw i ADCDF?
  • A ydym yn adolygu'r posibilrwydd o newid ein proses caffael bwyd?
  • A ydym yn gwneud ein gorau i gynyddu bioamrywiaeth ar diroedd yr ysgol?
  • A ydym yn defnyddio bwydydd a diodydd iachus a chynaliadwy?
  • Oes gennym bolisi Masnach Deg fel sefydliad ?
  • A yw ein hysgol yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau ADCDF cymunedol ?
  • Oes gennym gysylltiadau â mudiadau allanol i gefnogi ADCDF:  ymweliadau tu allan i'r ysgol ?
  • Oes gan ein hysgol gyswllt addysgiadol cynaliadwy ag ysgol mewn ardal / gwlad arall, yn cynnwys gwledydd sy'n datblygu ? 
  • A ydym yn cymryd rhan mewn mentrau Ysgolion Eco ac Ysgolion Iach ?
  • A yw ADCDF yn cael ei gynnwys mewn meysydd pwnc ?
  • A ydym yn creu cysylltiadau â'r Cwricwlwm Cymreig ac yn gwneud ADCDF yn berthnasol i fywyd bob dydd yng Nghymru ?
  • A ydym yn annog pobl ifanc i ofyn cwestiynau am ein byd a'r hyn y gallwn ni ei wneud i'w newid neu ei ddylanwadu?

Cyswllt Gwasanaeth

Gwasanaeth Gwella Ysgolion

Cyfeiriad E-bost: school.improvement@powys.gov.uk

Teleffon: 01597 826117

Cyfeiriad:
Gwasanaeth Gwella Ysgolion
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Dolenni Defnyddiol :

Beth mae Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADC&DF) yn ei olygu?

Dogfennau a Chyflwyniadau

Dyfyniadau Diddorol

Arferion Da

Ysgolion Eco

Galluogi Cefnogaeth Effeithiol

Masnach Deg

Lleihau Gwastraff ar gyfer Ysgolion

 

Calendr o Weithgareddau

Dogfennau Cyfanfyd

logo cyfanfyd

Dolenni Allanol :

association for science education
actionaid.org.uk/schools
bangor.ac.uk/addysgbyd/
eng/itetstudents.htm

bbc story of africa
bbc saving planet earth
breconbeacons.org
cafod.org.uk
cafeproject
careerswales.com
cat.org.uk
cewc-cymru.org.uk
childcom.org.uk
christianaid.org.uk
cyfanfyd.org.uk
dea.org.uk/youth
dfid.gov.uk
direct.gov.uk
dolencymru.com
dwrcymru.co.uk
www.eco-schoolswales.org
educationuk.org
efseurope.co.uk/toes
epa.gov/recyclecity
esd-wales.org.uk
esdgc2006.co.uk
fairtrade.org.uk
fairtradewales.com
foresteducation forest schools
forestry.gov.uk
forestschools.com
funkydragon.org
geographyphotos.com

globalconnections.org.uk
global-cool.com
globaldimension.org.uk
globalgang.org.uk

globalgateway.org.uk
global-mindshift.org
healtheschool.org.uk
imaging-famine.org
jusbiz.org
keepwalestidy.org
lonelyplanetimages.com
majorityworld.com
midwales food and land trust
museumwales.ac.uk
nya.org.uk/globalyouth
oneworldweek.org
oxfam.org.uk/coolplanet

pedec.org.uk
primrosetrust.org.uk
recycle-more.co.uk
recyclezone.org.uk
Redcross.org.uk
rspb.org.uk
savethechildren.org.uk/eyetoeye
scintillate.org.uk
sewalesesdgc.org.uk
sheltercymru.org.uk
tidec.org
unicef.org.uk
vitalgraphics.net
walesfairtradeforum.org.uk
wasteconnect.co.uk
wastewatch.org.uk
wateraid.org.uk
wwflearning.org.uk

 

 

RSS