A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cynigion ac Apeliadau

Gall y swyddog prisio newid y gwerth trethiannol os yw amgylchiadau'r eiddo wedi newid. Dan rai amgylchiadau, gall y trethdalwr ac eraill sydd â budd o'r eiddo gynnig y dylai newid ei werth trethiannol.

Os nad yw'r swyddog prisio a'r rhai sydd â budd yn yr eiddo yn cytuno ar y prisiad cyn pen 3 mis o wneud y cynnig, bydd y mater yn cael ei ddwyn fel apêl gerbron tribiwnlys prisio.

 

Cynigion yn erbyn Rhestr 2010

Dim ond ar ôl 1 Ebrill 2010 y gellir gwneud cynigion am werth trethadwy 2010.

 

Cyn gwneud cynnig, gallwch gysylltu â'ch swyddfa brisio leol i drafod eich gwerth trethadwy a pham na allwch apelio yn ei erbyn. Efallai y byddant yn gallu datrys y mater heb yr angen i ddilyn trefn ffurfiol.

 

Gallwch wneud cynnig naill ai ar-lein neu trwy lawrlwytho ffurflen gynigion yn www.voa.gov.uk

Bydd angen i chi ddarparu'r rhesymau pan yr ydych yn gwneud cynnig. Dylech sôn am y rhesymau dros y cynnig, gan gynnwys cyfeiriad a chod post unrhyw eiddo arall yr ydych yn ei gymharu gyda'ch eiddo chi.

Unwaith y bydd y Swyddfa Brisio yn derbyn eich cynnig, byddant yn ei gydnabod o fewn deng diwrnod gwaith ac yn gwirio'r cynnig i weld os yw'n ddilys.

Os yw'r cynnig yn ddilys, byddant yn cysylltu â chi i'w drafod. Efallai y byddant yn gofyn i drefnu ymweliad â'r eiddo i weld a yw'r manylion yn gywir.

Os byddant yn derbyn fod y gwerth trethadwy yn anghywir, byddant yn cytuno i gywiro'r gwerth trethadwy gyda chi.

Os byddwch yn derbyn fod y gwerth trethadwy yn gywir, byddant yn gofyn i chi dynnu'r cynnig yn ôl.

Os na ellir dod i gytundeb, byddwch yn cael y cyfle i Dribiwnlys Prisio Annibynnol glywed eich apel.

 

RSS