A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Rhyddid Gwybodaeth

Beth yw'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?

Mae'r Cyngor Sir bob amser yn onest ac yn agored ym mhopeth mae'n ei wneud ac o ran unrhyw wybodaeth sydd ganddo.  Mae deddfwriaethau blaenorol megis Deddf Diogelu Data 1998 yn gosod fframwaith reoleiddio ar ba wybodaeth y gallwn ei rhoi, ac i bwy.  Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 sy'n rhoi hawl cyffredinol statuol i gael gweld pob math o wybodaeth sydd gan awdurdodau cyhoeddus ar gof a chadw.

Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys eithriadau o'r hawl cyffredinol hwnnw, gan osod nifer o oblygiadau ar awdurdodau cyhoeddus.  Mae'r Ddeddf yn gymwys i sawl awdurdod cyhoeddus, yn cynnwys awdurdodau lleol, a daeth i rym yn llwyr ar 1 Ionawr 2005.  Bydd rhaid i awdurdodau lleol:

  • gynhyrchu cynllun cyhoeddi sydd i'w gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth.  Canllaw yw hwn ar ba wybodaeth sydd ganddynt sydd ar gael i'r cyhoedd.
  • delio â cheisiadau unigol am wybodaeth.  Mae Deddf Diogelu Data yn dal i ymdrin â cheisiadau i weld gwybodaeth bersonol, ac mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn ymdrin â cheisiadau i weld gwybodaeth nad yw'n bersonol a gwybodaeth trydydd parti.

Cynllun Cyhoeddi

Un o amcanion y Deddf yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn glir ac yn rhagweithiol o ran y wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.  I'r perwyl hwn, mae dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i lunio cynllun cyhoeddi a'i fod yn cael ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth.   Rhaid i'r cynllun cyhoeddi gynnwys manylion y mathau o wybodaeth sy'n cael ei gyhoeddi gan yr awdurdod, neu mae'n bwriadu ei gyhoeddi, ar ba ffurf y bydd yn cael ei gyhoeddi, a'r pris (os oes pris).  Dylai'r cynllun cyhoeddi hefyd gynnwys sut y gall y cyhoedd ddod o hyd i'r wybodaeth.

I fynd i gynllun cyhoeddi Cyngor Sir Powys, cliciwch ar y ddolen: PCynllun Cyhoeddi

Datgeliadau o Dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Efallai bydd rhywfaint o'r wybodaeth sy'n cael ei ryddhau drwy gais Rhyddid Gwybodaeth o ddiddordeb i'r cyhoedd yn gyffredinol.  Mewn achosion o'r fath bydd Cyngor Sir Powys yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael drwy'r Cynllun Cyhoeddiadau.

 

Angladdau Cyhoeddus

Mae Cyngor Sir Powys, ynghyd â sawl awdurdod lleol arall wedi gweld cynnydd mawr mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth oddi wrth gwmnïau sy'n dod i hyd i berthynas agosqaf y bobl sy'n cael eu claddu dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1948. Mewn ymateb i'r llu o geisiadau FOI ar y pwnc yma, mae'r Cyngor wedi creu tudalen i gyhoeddi'r holl achosion y bydd yn eu hatgyfeirio i Gyfreithiwr y Trysorlys. Trwy wneud hyn, mae'r Cyngor wedi cyflawni ei ymrwymiadau dan adran 22 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (ceisiadau yn y dyfodol) ac o hyn allan bydd gwrthod yr holl gyfryw geisiadau a ddaw i law, gan atgyfeirio'r ymgeiswyr i'r dudalen we hon ar gyfer Angladdau Cyhoeddus.

Edrychwch ar y cynllun cyhoeddiadau cyn gwneud cais am wybodaeth sydd eisoes ar gael.

Gofyn am wybodaeth

Wrth wneud cais i'r Cyngor am wybodaeth (onibai fod y wybodaeth yn dod o dan un o'r eithriadau penodol yn y Ddeddf) mae gennych hawl i:

  1. gael clywed yn ysgrifenedig gan y Cyngor os oes ganddo'r wybodaeth o'r fath a nodwyd yn y cais; a
  2. os yw hynny'n berthnasol, i chi gael derbyn y wybodaeth honno.

Mae nifer o eithriadau o dan y Ddeddf.  Y brif eithriad yw os yw'r wybodaeth eisoes o fewn Cynllun Cyhoeddi'r Cyngor, yna fe wnawn roi gwybod i chi fod y wybodaeth eisoes ar gael.

Rhaid i unrhyw gais:-

  1. Fod yn ysgrifenedig (yn cynnwys e-bost)
  2. Gynnwys enw'r ymgeisydd a chyfeiriad postio ar gyfer gohebiaeth;
  3. Gynnwys disgrifiad digonol o'r wybodaeth sydd ei hangen.

I'ch helpu chi i wneud cais dilys a fydd yn ateb eich cwestiynau chi'n gywir, fe wnawn gysylltu â chi ar dderbyn cais i drafod pa wybodaeth sydd ar gael.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Chyngor Sir Powys, cysylltwch â'r  Adran Rheoli Gwybodaeth (dde).

Gallwn anfon ceisiadau am wybodaeth yn syth i'r Adran briodol.  Os nad ydych chi'n siwr pa Adran sydd â'r wybodaeth angenrheidiol, gallwch anfon e-bost at yr Adran Rheoli Gwybodaeth foi.queries@powys.gov.uk.  Os nad oes gennych gyfrif e-bost, neu eich bod yn defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus, gallwch ddefnyddio'r ffurflen e-bost isod.  Cofiwch, os ydych am gael ateb gennym, rhaid i chi roi cyfeiriad e-bost neu gyfeirio postio, neu'r ddau.

Eithriadau

Mae sawl categori o wybodaeth a fydd yn cael ei eithrio o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.  Dyma restr o'r math o gategoriau a allai gynnwys gwybodaeth sydd wedi'i eithrio o fewn Cyngor Sir Powys.  Gellir cael rhestr lawn o'r eithriadau, ynghyd ag esboniad a chyngor, ar wefan Swyddfa y Comisiynydd Gwybodaeth.


  • Adran 12 - Cost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol.
  • Adran 21 - Mae'r wybodaeth ar gael trwy ddulliau eraill.
  • Adran 22 - Bydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol.
  • Adran 30 - Ymchwiliadau a thrafodion a gynhaliwyd gan Awdurdodau Cyhoeddus.
  • Adran 31 - Gwybodaeth sy'n ymwneud â Gorfodi'r Gyfraith.
  • Adran 38 - Iechyd a Diogelwch
  • Adran 39 - Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
  • Adran 40(1) - Gwybodaeth Bersonol
  • Adran 40(2) - Gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â thrydydd parti.
  • Adran 41 - Gwybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol.
  • Adran 42 - Braint Proffesiynol Cyfreithiol.
  • Section 43 - Buddiannau Masnachol
  • Section 44 - Gwahardd datgelu

Prisiau

Gall awdurdodau cyhoeddus godi tâl am roi'r wybodaeth.  Gellir codi tâl am y gost o ddod o hyd i'r wybodaeth a chostau gwneud copiau.  Bydd uchafswm o £450 ar y gost.  Hynny yw, ni fydd ceisiadau a fydd yn costio mwy na £450 i'w cyflawni yn cael eu gwneud.

Canllawiau Pellach

Gallwch ddod o hyd i gyngor am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Cynllun Cyhoeddiadau ar wefan Swyddfa y Comisiynydd Gwybodaeth.  Mae hwn yn rhoi canllawiau clir ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan gorff cyhoeddus, a'r eithriadau sy'n berthnasol o dan y Ddeddf.

Drwy yrru'r ffurflen hon 'rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen ac yn derbyn y datganiad preifatrwydd isod

Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-

  1. Defnyddir yr wybodaeth am y rheswm a gytunwyd ac edrychir ar ei hôl yn ddiogel
  2. Cedwir yr wybodaeth am gyhyd ag sy’n angenrheidiol yn unig neu i gydymffurfio â gofynion statudol ac yna bydd yn cael ei dinistrio yn ddiogel.
  3. Os oes angen rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau eraill bydd yr adran neu’r gwasanaeth dan sylw yn gofyn am ganiatâd penodol (wedi ei arwyddo) cyn gynted â phosibl oni bai ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y ddeddf ddatgelu’r wybodaeth.

Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.

To top

Arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid

A fyddech gystal â chymryd munud neu ddwy i lenwi'r holiadur a gadael i ni wybod am eich profiadau.

Arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid

To top

Cyswllt Gwasanaeth

Rheoli Gwybodaeth

Cyfeiriad E-bost: foi.queries@powys.gov.uk

Teleffon: 01597 827512

Ffacs: 01597 825663

Cyfeiriad:
Rheoli Gwybodaeth
Uned 29 Parc Menter Parc-y-Ddol
Ddole Road
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma

RSS