A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Atgyweiriadau a Gwelliannau

Cyfrifoldebau atgyweirio'r Cyngor

Mae'r rhain hefyd wedi'u cynnwys ar dudalen 10 o'ch cytundeb tenantiaeth.  Os oes yn rhaid i'r Cyngor gwneud gwaith atgyweirio oherwydd esgeulustra neu ddifrod bwriadol, ac nid oherwydd traul arferol, bydd tâl yn cael ei godi arnoch am y gwaith.

Bydd y Cyngor yn cadw strwythur, tu allan yr eiddo a mannau cyffredin yr eiddo mewn cyflwr da, ynghyd ag unrhyw osodiadau a ddarparwyd gan y Cyngor er mwyn gwresogi ardal, gwresogydd dwr a thoiledau, ac ar gyfer cyflenwi nwy, dwr a thrydan yn cynnwys: 

  • toeon, waliau a lloriau
  • grisiau, lifftiau, coridorau, llithren sbwriel a mannau cyffredin eraill, ffenestri a drysau allanol (yn cynnwys fframiau, trothwyon, colfachau, ystlysbyst, linteli a bocsys llythyrau)
  • cafnau, pipellau glaw, pibellau gwastraff a draeniau (ond nid yw'n cynnwys glanhau draeniau wedi'u blocio)
  • simneiau a ffliwiau yn cynnwys glanhau simneiau
  • waliau mewnol, fframiau drysau, lloriau a nenfydau (heb gynnwys paentio ac addurno mewnol)
  • gwaith plastro mewnol (heb gynnwys craciau bychain a namau)
  • systemau a chyfarpar gwresogi sydd wedi'u gosod gan y Cyngor
  • systemau a chyfarpar gwresogi sydd wedi'u gosod gan y tenant lle oedd y Cyngor wedi cytuno i wneud y gwaith cynnal a chandw.
  • canfodydd mwg
  • canfodydd carbon monocsid
  • pibellau nwy a weiars trydan
  • sinciau, basnau, baddonau a thoiledau
  • addurno allanol
  • canllawiau grisiau a rheiliau llaw
  • llwybrau, grisiau a ffens terfyn
  • garejys

To top

Cyfrifoldebau atgyweirio'r tenant

Mae manylion y rhain hefyd wedi'u cynnwys ar dudalen 4 o'ch cytundeb tenantiaeth.  Chi sy'n gyfrifol am wneud yr atgyweiriadau canlynol yn brydlon ac am dalu amdanynt:

  • gosod handlenni drysau newydd, cliciedau drws, bocsys llythyrau a chnocwyr os ydynt wedi torri 
  • gosod cloeon newydd a chael allweddi newydd os yw'r cloeon wedi torri neu allweddi ar goll
  • gosod cloeon a cholfachau newydd os yw'r hen rai wedi torri (yn cynnwys adeiladau allanol)
  • clirio pibellau gwastraff sinciau, baddonau a thoiledau, a glanhau gwteri, lle mae'r rhwystr wedi'i achosi gan wastraff o'r cartref
  • ailosod gwydr mewn ffenestri a drysau a gafodd ei ddifrodi neu ei dorri gan rywun heblaw'r Cyngor neu ei gontractwyr
  • gosod drysau mewnol newydd os cafwyd eu difrodi'n fwriadol
  • naddu drysau fel eu bod yn osgoi goruchuddion llawr
  • plygiau a chadwynnau ar faddonau, sinciau a basnau
  • seddi a gorchuddion toiledau
  • gosod teils newydd yn lle rhai sydd wedi cracio a thorri
  • ffiwsys trydannol, bylbiau, tiwbiau a thopiau plygiau
  • silffoedd, bachau cotiau ac ati.
  • pelmetau a gosodiadau llenni
  • addurno mewnol
  • gosod basgedi tanau, cribellau, bariau, briciau tân a stripiau gwydr ar theclynnau gwresogi newydd lle pan mae'n llai na ddwy flwydd oed
  • ffensio rhwng eiddo
  • tiwbiau nwy hyblyg ar gyfer poptai
  • llwybrau (ac eithrio prif lwybrau sy'n arwain at ddrysau ffrynt a chefn)
  • biniau sbwriel a chyfleusterau sychu dillad

To top

Blaenioraethau atgyweiriadau

Mae gan y Cyngor yr amseroedd ymateb canlynol ar gyfer atgyweiriadau :

ATGYWEIRIADAU ARGYFWNG - O FEWN 24 AWR

Atgyweiriadau sy'n angenrheidiol i osgoi perygl i breswylwyr neu ddifrod difrifol i'r eiddo yw'r rhain.  Mae enghreifftiau'n cynnwys gollyngiadau mawr o brif bibellau, methiant pwer llwyr, diffygion difrifol yn y to, mellt, difrod wedi'i achosi gan storm neu lifogydd, toiledau wedi'u blocio neu wedi torri, pibellau carthion wedi torri, diffygion difrifol yn y to.

ATGYWEIRIADAU BRYS - O FEWN 7 DIWRNOD GWAITH

Mae'r atgyweiriadau hyn yn angenrheidiol er mwyn atal difrod pellach i eiddo.  Mae enghreifftiau'n cynnwys gosod ffitiadau newydd ar doiledau neu eu hatgyweirio;  gosod handlenni a chaeadau newydd ar ddrysau a ffenestri; gwaith ar y to a gosod llechi.

ATGYWEIRIADAU CYFFREDINOL - O FEWN 28 DIWRNOD GWAITH

Atgyweiriadau nad ydynt yn frys yw'r rhain, ac mae'n cynnwys gwaith coed mewnol; pwyntio a gwaith brics; gwneud gwaith i wneud yn siwr bod drysau a ffenestri'n cau ac yn agor yn hawdd.

To top

Gwaith cynnal a chadw cylchol ac wedi'i gynllunio

Yn ogystal ag atgyweiriadau o ddydd i ddydd, mae'r Cyngor yn gweithredu'r rhaglenni cynnal a chadw canlynol :

Gwaith Cynnal a Chadw Cylchol

Mae'r Cyngor yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar ei systemau gwres canolog nwy a thanwydd solet bob 12 mis, ac yn paentio drysau a ffenestri allanol bob pum mlynedd.

Gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio

Mae hwn yn cynnwys gwaith mawr megis ail-doi ac ailweirio trydannol.  Ni fydd y gwaith hwn yn golygu y byddwn yn gofyn i chi dalu rhagor o rent.

Moderneiddio a Gwelliannau 

Mae gan y Cyngor rhaglen wedi'i chynllunio am waith moderneiddio a gwelliannau.  Rhaglen dros ddeg mlynedd yw hon a byddwn yn gadael i chi wybod mewn da bryd os bydd eich cartref yn cael ei effeithio.

To top

Sut i ofyn am atgyweiriadau

Gallwch ofyn am atgyweiriadau ar-lein, dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu'n bersonol yn y swyddfa dai ardal leol neu'n ganolog yn y swyddfeydd rhanbarthol yn Neuadd Maldwyn neu Neuadd Brycheiniog.  Bydd aelod o staff yn cofnodi eich cais ac yn ei anfon ymlaen at Swyddog Cynnal a Chadw er mwyn iddo ef / iddi hi drefnu i archwilio'r atgyweiriadau neu drefnu gorchymyn gwaith i'w anfon ymlaen at Wasanaethau Cynnal a Chadw Tai.  Bydd yr unigolyn sy'n  derbyn eich cais yn anfon ceisiadau brys yn uniongyrchol at Wasanaethau Cynnal a Chadw Tai.

Pan fyddwch yn gofyn am atgyweiriadau, bydd angen i'r Cyngor wybod :

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn (os oes un gennych)
  • beth sydd angen ei atgyweirio neu adnewyddu
  • beth yw'r broblem
  • beth achosodd y broblem (os ydych chi'n gwybod)
  • lle mae'r broblem: y tu fewn neu du allan, i fyny'r grisiau neu i lawr y grisiau 
  • a allwch chi ddisgrifio'r eitem (maint, siap, deunydd yr eitem)?
  • a yw'n achosi unrhyw broblemau neu ddifrod arall ?
  • pryd fyddai'n gyfleus i rywun alw un ai i archwilio neu i wneud y gwaith atgyweirio .

Trwy roi'r wybodaeth hon i'r Cyngor bydd gennym syniad da o'r hyn sydd angen ei wneud a pha ddeunyddiau fydd eu hangen.  Bydd yn ein helpu i ymateb yn gyflym i'ch problem.

Os nad ydych yn fodlon â'r dull y mae eich cais am atgyweiriadau yn cael ei drin dylech ddilyn y Drefn Gwyno.

To top

Eich hawl i gael atgyweiriadau

Gallwch gael rhai atgyweiriadau brys, bychain wedi'u gwneud (hyd at £250) os ydynt yn debygol o effeithio ar eich iechyd neu ddiogelwch.  Adwaenir y rhain fel "atgyweiriadau sy'n gymwys".

Os yw'r atgyweiriadau yr ydych wedi gofyn amdanynt yn "atgyweiriadau cymwys", bydd y Cyngor yn trefnu bod y gwaith yn cael ei wneud o fewn amser penodol, a bydd y Cyngor yn anfon copi o'r rhybudd atgyweirio y bydd yn anfon at y contractwr.  Os na fydd y Cyngor yn gwneud y gwaith mewn pryd, gallwch fynnu bod contractwr arall yn gwneud y gwaith.  Os fydd yr atgyweiriad yn parhau heb gael ei wneud mewn pryd, bydd y Cyngor yn talu iawndal o hyd at £50 yr atgyweiriad.

Bydd “atgyweiriadau cymwys” yn cynnwys:

  • socedi pwer neu oleuadau neu osodiadau trydannol anniogel
  • ffliw tân agored neu foeler wedi blocio 
  • to sy'n gollwng
  • toiledau nad ydynt yn fflysio (os nad oes unrhyw doiled arall)
  • dwr yn gollwng o bibellau gwresogi, tanciau neu sisternau
  • canllawiau grisiau neu reiliau llaw sy'n rhydd neu wedi torri

To top

Cyswllt Gwasanaeth

Desg Gymorth Tai

Teleffon: 0845 602 7034

Cyfeiriad:
Desg Gymorth Tai
Neuadd Brycheiniog
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HR

RSS