A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Lesddaliwr yw unigolyn sydd â les hir ar fflat neu fflat deulawr, sydd wedi'i osod gan y Cyngor. Mae hyn yn golygu mai nhw yw perchennog cyfreithiol y fflat (am gyfnod y les). Y Cyngor sy'n parhau i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyffredinol a chynnal a chadw tu allan i'r bloc a mannau cyffredinol.
O dan dermau pob les, y cyngor sy'n gyfrifol am yswirio strwythur yr adeilad ym mhob bloc (mae hyn yn sicrhau bod y blociau wedi'u hyswirio'n llawn). Ni fydd angen i chi drefnu yswiriant adeiladau ychwanegol trwy eich Banc neu fenthycwyr morgais eraill.
Os ydych yn dioddef unrhyw ddifrod i'ch eiddo, dylech gysylltu â'r cymhwysydd colled (Claims Connexion 01446 771 722). Yr yswiriwr yw Ocaso a rhif y polisi yw 131024.
Noder! Yswiriant ar gyfer yr adeilad yn unig yw polisi'r Cyngor - bydd angen i chi drefnu yswiriant eich hunan ar gyfer cynnwys yr eiddo.
Gellir cael copiau o ddogfen y polisi yswiriant o'r Adran Dai.
Os oes gennych unrhyw gwestiynnau am yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y polisi cysylltwch â'r Adran Yswiriant yng Nghyngor Sir Powys - 01597 82 6333 neu drwy gysylltu â Chyngor Sir Powys.
Costau Gweinydddol
Mae'r costau gweinyddol yn cynnwys amser staff yn paratoi cyfrifon am gostau gwasanaeth, delio ag ymholiadau lesddalwyr, bilio a thaliadau gwasanaeth am gasglu rhent a rhent safle.
Goleuadau Cyffredinol
Mewn blociau lle mae yna fannau cyffredinol wedi'u goleuo, mae pris y trydan yn cael ei ddangos yn erbyn y pennawd hwn.  Bydd atgyweiriadau i'r goleuadau cyffredinol yn ymddangos o dan atgyweiriadau.
Cynnal a Chadw Tiroedd Cyffredinol
Mewn blociau sydd â gerddi a mannau gwyrdd eraill sydd er budd y bobl sy'n byw yn y bloc yn unig, mae'r gost o gynnal a chadw'r tiroedd hyn wedi'i ddangos o dan y pennawd ar gyfer y gost hon.
Cynnal a Chadw Drws Mynediad
Mewn bloc lle mae drysau mynediad, mae gan y Cyngor cytundeb rheolaidd i gynnal a chadw'r drws ac mae'r gost wedi'i ddangos o dan y pennawd hwn, lle bydd angen atgyweirio'r drws y tu allan i'r cyfnod gwasanaeth, bydd cost yr atgyweiriadau yn ymddangos o dan y pennawd atgyweiriadau.
Mae'n rhaid i'r Cyngor atgyweirio y tu allan i'r bloc a'i mannau cyffredinol, gall y costau o dan y pennawd hwn amrywio'n fawr o flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar y gwaith sy'n cael ei wneud.
Ymrwymiad i ymgynghori
Lle mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud gwaith atgyweirio ac mae'r gost a amcangyfrifiwyd yn fwy na £250 yr eiddo bydd y Cyngor yn ymgynghori â'r lesddalwyr cyn dechrau'r gwaith. Pe bai'r Cyngor yn methu â gwneud hyn ac nid yw o ganlyniad i amgylchiadau brys, bydd ond yn gallu gofyn am £250 yn ôl o bob lesddaliwr hyd yn oed os yw cost y gwaith ar gyfer pob eiddo yn fwy.
Rhywbryd yn y dyfodol efallai byddwch am symud ymlaen a gwerthu eich eiddo. Rydym yn argymhell eich bod yn gofyn i Gyfreithiwr i weithredu ar eich rhan gyda'r Gwerthiant.
I helpu darpar brynwyr bydd y Cyngor yn rhoi manylion perthnasol o Gostau Gwasanaethau a gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol ond bydd tâl yn cael ei godi am hyn.
Mae'n bwysig iawn bod eich Cyfreithiwr yn anfon rhybudd ffurfiol i gadarnhau bod y Gwerthiant wedi digwydd. Heb hyn byddwn yn parhau i godi Costau Gwasanaethau arnoch.