A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus

Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005

 

Mae'r Rheoliadau yn gweithredu cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd sy'n annog ailddefnyddio gwybodaeth gyhoeddus at ddibenion eraill heblaw am ei diben wreiddiol. Y nod yw symbylu'r diwydiant gwybodaeth Ewropeaidd a galluogi cwmniau i ddefnyddio gwybodaeth o'r fath ar gyfer dibenion masnachol.

Crynodeb o'r Rheoliadau

Yn unol â'r Rheoliadau, nid oes gofyn i gyrff cyhoeddus sicrhau fod eu gwybodaeth ar gael i'w ailddefnyddio ac nid oes gofyn arnynt greu, addasu neu barhau i gynhyrchu rhai dogfennau y gall eraill eu hailddefnyddio.

Fodd bynnag, maent yn nodi'r rheolau canlynol y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu dilyn os byddant yn caniatau i wybodaeth gael ei hailddefnyddio.

  1. cyhoeddi rhestr o'r wybodaeth y gellir eu hailddefnyddio (cynllun cyhoeddiadau)
  2. cyhoeddi unrhyw amodau safonol sy'n ymwneud ag ailddefnyddio (amodau trwyddedauAilddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus)
  3. cyhoeddi unrhyw daliadau safonol sy'n ymwneud ag ailddefnyddio (taliadau)
  4. rhoi gweithdrefn gwneud cais ar waith (sut i wneud cais)
  5. rhoi gweithdrefn ar waith (gweithdrefn gwyno Rhyddid Gwybodaeth/Deddf Gwarchod Data)

Mae'r Rheoliadau yn berthnasol i unrhyw wybodaeth sydd wedi'i gofnodi, gan gynnwys dogfennau cyfan neu rannau o ddogfennau.

Mae rhai eithriadau i'r rheoliadau, e.e. sefydliadau addysgol neu ddiwylliannol; eiddo deallusol sy'n ymwneud â thrydydd parti; gwybodaeth sy'n cael ei heithrio dan Ryddid Gwybodaeth, Dopgelu Data a deddfwriaeth arall.

Rhestr o'r Prif Ddogfennau

Cyfeiriwch at Gynllun Cyhoeddiadau'r Cyngor.

Trwydded Safonol

Mae'r Drwydded yn rhestru'r amodau safonol ar gyfer ailddefnyddio. Noder fod amodau a thelerau'r drwydded yn gallu amrywio lle bo gwerth masnachol i'r wybodaeth y gwneir cais amdano. Cysylltwch â'r Uned Rheoli Gwybodaeth am gopi o'r drwydded.

Taliadau

Ni fydd unrhyw daliadau a wneir yn fwy na chost casglu, cynhyrchu, llungopio a rhannu'r wybodaeth ac enillion rhesymol posibl wedi buddsoddi.

Bydd unrhyw dâl a godir dan ddeddfwriaeth mynediad (megis Rhyddid Gwybodaeth) yn cael ei osod yn erbyn unrhyw daliadau am ailddefnyddio.

 

Sut i wneud cais

Gellir cael ffurfen gais gan yr Uned Rheoli Gwybodaeth.

Rhaid i geisiadau:

  • fod yn ysgrifenedig
  • nodi eu henw
  • gynnwys cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth
  • nodi'r ddogfen/gwybodaeth y maent am eu hailddefnyddio
  • nodi'r diben dros ailddefnyddio'r ddogfen

Ym mhob achos, dylid anfon ceisiadau i:-

Cyngor Sir Powys

Rheoli Gwybodaeth

Uned 29 Parc Menter Ffordd Ddole

Llandrindod

LD1 6DF

E-bost: foi.queries@powys.gov.uk

Cwynion/Apeliadau

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y cafodd eich cais ei drin, gallwch gwyno drwy ddefnyddio Trefn Gwyno'r Cyngor.

  

To top

Rheoli Gwybodaeth

E-bost: foi.queries@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 825013

Ffacs: 01597 825663

Cyfeiriad:

Rheoli Gwybodaeth,

Uned 29 Ffordd Ddole,

Llandrindod,

Powys,

LD1 6DF

RSS