A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
A oes angen i mi drefnu o flaen llaw i ddod i Archifau Powys?
Oes, mae'n rhaid i chi wneud apwyntiad. Mae gennym ystafell chwilio fechan, ac felly dim ond lle i ychydig ar y tro sydd gennym. Ewch i oriau agor a manylion cyswllt.Â
Os nad wyf yn gallu dod fy hun, ydych chi'n gallu gwneud ymchil ar fy rhan?
Ydym, ewch i Gwasanaeth Ymchwilio. Bydd angen i chi lenwi ffurflen ar-lein, neu argraffu ffurflen oddi ar ein gwefan a'i hanfon atom ni trwy'r post.
Allwch chi roi manylion y cofnodion sydd gennych chi?
Ewch i Ein Cofnodion i weld manylion y cofnodion sydd gennym ni. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys dolenni i ffeiliau pdf o'n catalogau. Ewch hefyd i Ffynonellau Ychwanegol.
Sut alla'i adneuo neu roi cofnodion i Archifau Powys?
Mae staff yn croesawu'r cyfle i drafod derbynion newydd i Archifau Powys. Manylion i'w gweld yma.
Sut alla'i archebu copiau o ddogfennau?
Mae'n rhaid i ni gyfyngu ar faint o waith copio a wnawn oherwydd pwysau ar amser staff, ond fe wnawn ein gorau glas i'ch helpu chi.  Edrychwch ar  gwasanaethau a phrisiau copio.
Pa gofrestrau plwyfi sydd gennych chi?
Ewch i'r Nodiadau Astudiaethau Lleol sy'n rhestru cofrestrau plwyfi sydd gennym ar gyfer siroedd Brycheiniog,Maesyfed a Sir Drefaldwyn.
Allwch chi roi copi o dystysgrif geni, priodi neu farwolaeth?
Na, gallwch gael tystysgrifau gan Wasanaeth Cofrestru Powys  neu'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.
Ga'i ddod â'm gliniadur neu gamera digidol?
Holwch y staff pan fyddwch yn trefnu apwyntiad. Rhaid i chi brynu trwyddedau ffotograffiaeth cyn tynnu lluniau unrhyw ddogfennau yn ein hystafell chwilio. Manylion llawn i'w gweld yma. Mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau ar ddefnyddio gliniaduron, yn dibynnu ar faint o bobl sydd wedi trefnu i ddefnyddio'r ystafell chwilio. Mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau megis hawlfraint ar dynnu lluniau digidol o rai dogfennau.   Gweler Canllawiau'r Ystafell Chwilio am ragor o wybodaeth ar ymweld ag Archifau Powys.
Pa ardal ddaearyddol a wasanaethir gan Archifau Powys?
Mae Archifau Powys yn casglu cofnodion sy'n berthnasol i sir fodern Powys a hen siroedd Brycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Mae ambell i blwyf o gwmpas ffiniau'r sir sy'n aml yn achosi penbleth! Er enghraifft, ar un adeg roedd Brynmawr ym mhlwyf Llanelli yn rhan o Sir Frycheiniog, ond daeth yn rhan o Went yn 1974. Cysylltwch ag Archifau Powys am ragor o fanylion am blwyfi'r ffin, ac fe wnawn ni eich helpu chi ddod o hyd i gofnodion sydd gydag Archifau Powys neu wasanaethau Archifau eraill. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am wasanaethau archifau eraill yng Nghymru.