A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Rydym yn hapus i dderbyn dogfennau i'w cadw'n ddiogel yn Archifau Powys, os ydynt o fewn cylch gwaith ein polisi casglu. Cysylltwch ag Archifau a bydd staff yn hapus i drafod hyn gyda chi.
Mae modd trosglwyddo cofnodion i ni un ai fel rhodd, neu ar fenthyciad tymor hir. Bydd y perchennog yn derbyn derbynneb a chopi o'r catalog cyn gynted ag y bydd wedi'i orffen. Cliciwch ar y dolenni ar y dde i weld ein polisi casglu ac amodau adneuo.
Bydd y dogfennau'n cael eu cadw'n ddiogel mewn amgylchedd rheoledig er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n barhaol. Byddant ar gael i'r cyhoedd o dan oruchwyliaeth ofalus.Â