A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ffuglen i Rai yn eu Harddegau

Yn yr adran hon, rydym yn argymell rhai o'r nofelau diweddar gorau ar gyfer rhai yn eu harddegau
Clawr The Year the Gypsies Came

LINZI GLASS:  The Year the Gypsies Came 
Dyma nofel gyntaf yr awdur Linzi Glass, er ei bod wedi ysgrifennu dramau teledu a straeon byrion ymhlith pethau eraill eisoes. Mae ‘The Year the Gypsies Came’ yn stori chwerw felys, ond yn tueddu mwy tuag at y chwerw. Emily Iris, merch yn ei harddegau, yw'r prif gymeriad, sy'n byw yn un o faestrefi Johannesburg yn 1966, gyda'i chwaer hyn hardd, Sarah, ei mam balch sydd â'i sylw ar bethau eraill a'i thad prysur. Nid yw'n syndod fod Emily'n teimlo'n agosach at Buza, y gwyliwr nos hen a thyner o dras Zulu, nac at ei rhieni ei hun. Yn gefndir i'r stori mae tensiwn hiliol De Affrica yng nghanol yr Apartheid a llofruddiaeth erchyll wrth y llyn lleol. I ganol hyn, daw teulu o deithwyr o Awstralia, a'u dyfodiad hwy sy'n ddechrau'r diwedd i deulu Iris. I Emily, bydd canfyddiadau torcalonnus a thrasiedi fawr yn ysgwyd ei bywyd.

Clawr The Harsh Cry of the Heron

LIAN HEARN: The Harsh Cry of the Heron
Dyma barhad gwych cyfres Tales of the Otori gan Lian Hearn. Mae'r stori hon un mlynedd ar bymtheg yn ddiweddarach, gyda Takeo a Kaede yn rheoli'r Tair Gwlad yn heddychlon a llwyddiannus. Mae ganddynt dair merch. Nid oes gan Shigeko, yr hynaf ac etifedd Takeo, unrhyw sgiliau llwythol, ond mae ganddi synwyr mawr o ddyletswydd a llawer o'r hyn sydd ei angen i wneud arweinydd da. Mae gan y merched iau, yr efeilliaid Maya a Miki lawer o dalentau llwythol, ond diffyg ufudd-dod a pharch Shigeko, ac mae llawer un yn eu hamau. Mae gorffennol Takeo a'r digwyddiadau a'i rhoddodd yno yn dal i fyny ag ef yn gyflym. Ac mae'r broffwydoliaeth rhyfedd yn ymwneud â'i fab, nad yw Kaede yn gwybod dim amdani.
Ynghyd â hyn, mae aflonyddwch o fewn llwyth Muto, mae llwyth Kikuta yn dal eisiau dial, ac mae chwaer yng nghyfraith gyfrwys Takeo, Arai Hana yn cymryd mantais lawn ar y sefyllfa. Rhaid i Takeo ymateb yn gyflym i'r diddordeb yn y Tair Gwlad gan yr Ymeradwdwr a'i arglwydd rhyfel. Yn lwcus i Takeo, mae ganddo lawer o gynghreiriaid, ond a fydd hyn yn ddigon i warchod popeth y bu'n gweithio mor galed i'w creu? Mae ‘The Harsh Cry of the Heron’ yn ddilyniant gwych i'r Tales of the Otori ac yn llyfr gwych i'w ddarllen! Hefyd, mae Heaven’s Net is Wide, sy'n rhagflaenu'r gyfres, yn cael ei gyhoeddi eleni!

Y llyfrau o gyfres Tales of the Otori yw:
> Across the nightingale floor
> Grass for his pillow
> Brilliance of the moon

Cliciwch yma i fynd i wefan Tales of the Otori i glywed rhagor am y byd rhyfeddol hwn.

Clawr A Swift Pure Cry

SIOBHAN DOWD: A Swift Pure Cry
Mae A Swift Pure Cry gan Siobhan Dowd yn nofel wych. Er gwaethaf y pwnc difrifol, cewch eich denu i mewn i'r stori'n ddiymdrech. Mae'n adrodd hanes trist Shell Talent, merch ddi-nod mewn pentref bychan yn yr Iwerddon. Er gwaethaf ei bod yn ddiniwed, mae Shell yn parhau'n gryf trwy bopeth y bydd y byd yn ei daflu ati, gan ddechrau â marwolaeth ei mam yn ifanc. Oherwydd galar dwys ei thad, mae Shell yn ymdrechu i edrych ar ôl ei brawd a'i chwaer iau ar ei phen ei hun. Ond pwy sy'n edrych ar ôl Shell? Mae popeth yn edrych yn dywyll iawn ar Shell, ond mae dyfodiad offeiriad ifanc gofalgar yn newid pethau. Nofel deimladwy sy'n sicr yn werth ei darllen! 

RSS