A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Fel rhan o'r digwyddiad cenedlaethol Y Darlun Mawr yn 2006, bu Theatr Brycheiniog a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn gweithio ar y cyd ar brosiect celf gymunedol. Ar ddiwedd Medi a dechrau Hydref 2006 teithiodd yr artist Pip Woolf gyda Llyfrgell Symudol Sir Frycheiniog a'r llyfrgellydd Russell Hindle am 8 diwrnod gan gwrdd â defnyddwyr y llyfrgell ledled cymunedau gwledig Sir Frycheiniog.
Bu Pip yn gwahodd pawb i dynnu llun ar lyfrau sgets arbennig. Roedd yn gofyn iddynt dynnu ar eu hatgofion am lyfrgelloedd a llyfrau fel ysbrydoliaeth ar gyfer y lluniau. Cafwyd gweithgareddau eraill hefyd ac arddangosfa yn Theatr Brycheiniog o rywfaint o'r gwaith a wnaed.
Trefnwyd y prosiect gan Cathey Morgan, Swyddog Addysg ac Allgymorth , Theatr Brycheiniog gyda gwasanaeth llyfrgelloedd Powys, ac fe'i gefnogwyd gan Gronfa Datblygu Cynaladwyedd Awdurdod Parc Bannau Brycheiniog. O'r 1310 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn genedlaethol fel rhan o ymgyrch Y Darlun Mawr, derbyniodd prosiect Llyfrnodau Powys Wobr Canmoliaeth Uchel.


