Yn Samurai Red Dragon rydym yn ymarfer karate Shukokai traddodiadol. Wedi'i arwain gan Jun Shidoin Sensei Jim Whittington ( 4ydd Dan ) a Sensei Jon Whittington ( 3ydd Dan ).
Nos LunÂ
Nos Wener
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Jim Whittington ar - 07816 926988 neu galwch heibio i'n gweld yng Nghanolfan Hamdden y Flash.
Wedi'i sefydlu ers 1995 gyda'r Uwch Hyfforddwr Sharon Price sash du 3ydd gradd mewn Kung Fu a 3ydd 'dan' mewn Cic-baffio.
Dosbarthiadau ar gael i ddynion, merched a phlant 5 oed a hyn. Dysgwch gelfyddyd draddodiadol LAU GAR KUNG FU.
Dewch i dderbyn hyfforddiant gyda'r uwch hyfforddwr Sharon, sy'n bencampwraig y byd ac sy'n â thros 25 o flynyddoedd o brofiad a'r is-hyfforddwr Evan Andrews sydd â thros 9 mlynedd o brofiad.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Sharon Price ar - 07970611040 neu galwch heibio i'n gweld yng Nghanolfan Hamdden y Flash.

Croeso i glwb nofio'r SIARCOD.
Rydym yn glwb cystadleuol a'n nod yw datblygu sgiliau ein holl nofwyr mewn amgylchedd diogel llawn hwyl.
Nos Lun
Nos Fercher
Dydd Gwener
Dydd Sul
Mae ffurflen gais i ymuno â Siarcod Y Trallwng ar ein hysbysfwrdd, llenwch y ffurflen a'i phostio ym mlwch postio'r clwb ger yr hysbysfwrdd, bydd eich cais yn cael ei ychwanegu at ein rhestr aros.
Gwirfoddolwyr sy'n rhedeg ein clwb, mae pawb, gan gynnwys ein hyfforddwyr, yn rhoi o'u hamser yn rhad ac am ddim.
Am ragor o wybodaeth galwch heibio i'n gweld yng Nghanolfan Hamdden y Flash.

Camp Olympaidd yw Judo ac mae'n gofyn am ddewrder a chryfder meddwl. Mae'r technegau taflu ar lefel Olympaidd yn gofyn am gyfuniad o gyflymdra, coethder, hyblygrwydd a phwer.
Mae Clwb Judo a Reslo Aj yn cael ei redeg gan yr hyfforddwyr Alan Jones ( 7fed Dan ) sydd â thros 30 o flynyddoedd o brofiad dysgu - o ddechreuwyr i chwaraewyr o'r radd flaenaf. Mae Alan yw'r uchaf ond un ei safle yng Nghymru. Yr ail hyfforddwr yw Sue Crofts (2il Dan) sydd â 18 mlynedd o brofiad hyfforddi o glybiau i gystadleuaethau rhyngwladol o'r radd flaenaf. Sue yw chwaraewyr rhif 1 yng Nghymru yn ei phwysau.
Bob nos Iau
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Alan Jones ar 01691 648728 neu galwch heibio i'n gweld yng Nghanolfan Hamdden y Flash.
