A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Gallwch hawlio Budd-dâl Tai am gyfnod sydd wedi mynd heibio - sef ôl-ddyddio.
Rhaid i gais i ôl-ddyddio gael ei wneud yn ysgrifenedig.
Uchafswm y cyfnod y gellir ôl-ddyddio hawliad yw tri mis os ydych chi, neu eich partner yn 60 oed neu'n hyn, neu chwe mis os ydych chi, neu eich partner yn iau na 60, o ddyddiad eich cais am fudd-dâl wedi'i ôl-ddyddio.
Er mwyn ôl-ddyddio hawliad, rhaid i ni fod yn fodlon:
Rhaid i chi ddangos rheswm da parhaol am beidio hawlio'n gynt, a rhaid i ni fod yn fodlon fod eich amgylchiadau yn y cyfnod yn ddigonol fel bod unrhyw unigolyn rhesymol o'ch oed a'ch profiad wedi methu hawlio budd-dâl.
Rhaid i chi brofi "rheswm da" ond rhaid i ni ystyried holl ffeithiau eich achos.
Dyma rai enghreifftiau o "reswm da":
Caiff eich cais ei ystyried gan Swyddog Budd-daliadau. Po fwyaf o wybodaeth a thystiolaeth y byddwch yn ei roi i gefnogi eich cais, y cyflymaf caiff penderfyniad ei wneud.
Weithiau, byddwn angen ysgrifennu atoch i gael rhagor o wybodaeth, neu ofyn i chi ddod i mewn am gyfweliad ffurfiol.
Byddwn yn edrych ar eich cais eto, a byddwch yn derbyn llythyr yn dweud beth yw ein penderfyniad.
Os ydym yn penderfynu nad oes gennych "reswm da", ac na allwn ôl-ddyddio eich hawliad, byddwn yn nodi'r rhesymau yn y llythyr.
Yna, bydd gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio ôl-ddyddio hawliad.
Cyfeiriad E-bost: revenues@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 827462
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Refeniw
Sir Faesyfed
BLWCH SP 71
Llandrindod
Powys
LD1 9AQ
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma