A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Beth yw gordaliad budd-dal tai neu fudd-dal treth y cyngor? Beth i'w wneud os cawsoch ordaliad a'ch bod yn anghytuno â'r penderfyniad? Sut allwch chi ad-dalu gordaliad os mai chi sy'n hawlio budd-dal neu'n landlord.
1. Beth yw gordaliad Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor?
Gordaliad yw pan fyddwch yn derbyn mwy na sydd gennych hawl i'w gael. Bydd hyn fel arfer yn digwydd pan fydd eich amgylchiadau'n newid, ac nad yw'r swyddfa Fudd-daliadau'n ymwybodol o hynny.
2. Beth i'w wneud os na fyddai'n cytuno â'r gordaliad?
Pan fyddwn yn canfod ein bod wedi talu gormod o fudd-dal, byddwn yn ysgrifennu atoch yn esbonio beth sydd wedi digwydd, a nodi swm y gordaliad. Byddwch yn cael cyfle i ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto.
3. A ellir gostwng y gordaliad?
Gall fod yn bosibl gostwng y gordaliad yn ôl y swm y byddech yn gymwys i'w gael pe byddech wedi gwneud cais mewn pryd. Enw hyn yw tâl gwaelodol. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael budd-dal tai neu fudd-dal treth y cyngor newydd. Rhaid i chi lenwi ffurflen gais newydd i hawlio budd-dal o'r newydd.
4. Sut i ad-dalu gordaliad?
Os na allwch fforddio talu'r gordaliad mewn un swm, gallwch gysylltu â'r uned Gwasanaethau Cwsmer i drafod ad-dalu mewn rhannau. Gweler y rhif ffôn cyswllt.
Gellir adfer gordaliad Budd-dal Tai o'r taliadau Budd-dal Tai rydych yn parhau i'w derbyn, neu o fudd-daliadau eraill, megis Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceiswyr Swyddi.
Os nad ydych yn derbyn budd-daliadau eraill y gallwn dynnu'r gordaliadau ohonynt, byddwn yn anfon anfoneb atoch. Yna, gallwch drefnu i dalu trwy un o'r dulliau canlynol:
Bydd angen i chi nodi rhif yr anfoneb wrth dalu trwy unrhyw un o'r dulliau uchod.
Bydd gordaliad Budd-dal Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif Treth y Cyngor. Byddwch yn derbyn bil newydd sy'n cynnwys y gordaliad.
5. Rwy'n landlord sydd wedi derbyn gordaliad Budd-dal Tai ar ran fy nhenantiaid.
Ym Mhowys, dim ond lle bydd disgwyl i'r landlord wybod ei fod wedi derbyn gordaliad y byddwn yn adfer Budd-dal Tai. Pan fydd tenant wedi gadael fydd hyn yn digwydd fel arfer.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud eich bod wedi derbyn gormod o arian ac y byddwn yn adfer yr arian hwnnw oddi wrthych. Byddwch yn cael cyfle i ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto.
Ewch i '4. Sut i ad-dalu gordaliad?'Â i weld sut i ad-dau gordaliad. Gellir adfer gordaliad hefyd o daliadau Budd-dal Tai rydych yn eu derbyn ar gyfer tenantiaid eraill. Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych os bydd hyn yn digwydd.
6. Rwy'n landlord ac rydych yn adfer gordaliadau Budd-dal Tai fy nhenant o'r taliadau rwy'n derbyn ar ran fy nhenant
Os yw eich tenant eisoes wedi bod yn derbyn gormod o fudd-dal Tai, gallwn fod yn adfer gordaliad o'u hawl parhaol am fudd-dal, y byddwn yn ei dalu i chi ar eu rhan. Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych os bydd hyn yn digwydd. Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud hyn. Rhaid i chi ofyn i'ch tenant dalu'r gwahaniaeth rhwng y rhent rydych yn ei godi a swm y Budd-dal Tai rydych yn derbyn ar eu rhan.
7. Allwch chi fynd â fi i'r llys am beidio ad-dalu gordaliad?
Os na fyddwch yn ad-dalu gordaliad trwy ddefnyddio un o'r dulliau uchod, gallwn fynd â chi i'r llys. Mae'r llys yn caniatáu i ni:
Os bydd angen i ni ddefnyddio'r llys, bydd y costau'n cael eu hychwanegu at y ddyled sy'n bodoli. Bydd yn rhaid i chi dalu'r costau a'r gordaliad gwreiddiol.
8. Cysylltu â ni
Ymholiadau:
Cysylltwch â ni ar y rhifau ffôn a ddarparwyd i drafod ad-dalu gordaliad, neu os ydych chi'n credu fod y gordaliad yn anghywir, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gordaliad.
Â
Cyfeiriad E-bost: revenues@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 827462
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Refeniw
Sir Faesyfed
BLWCH SP 71
Llandrindod
Powys
LD1 9AQ
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma