A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Pam fod Llywodraethu Corfforaethol yn bwysig?

 

Mae llywodraethu corfforaethol da yn cefnogi gwneud penderfyniadau yn effeithiol. Mae gwneud penderfyniadau'n effeithiol mewn corff sy'n cael ei lywodraethu'n dda yn seiliedig ar:

 

  •        Fframwaith atebolrwydd sydd wedi'i gydbwyso'n dda ac yn seiliedig ar gyfathrebu a dealltwriaeth glir ar draws y corff a dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau ar draws y corff;
  •        Systemau perfformiad, ariannol a rheoli risg a gwybodaeth cadarn;
  •        Safonau ymddygiad uchel.

Mae gan gyrff sydd â llywodraethu corfforaethol da y gallu i gynnal gwasanaethau o ansawdd uchel a chyflwyno gwelliannau. Mae trefniadau llywodraethu gwael yn gosod y fframwaith lle bydd prosesau systemau trefniadol yn methu â rhagweld neu ddod ar draws fethiannau gwasanaeth neu ariannol difrifol.

Mae llywodraethu da mewn cyrff, yn seiliedig ar fod yn agored, ar eglurdeb ac atebolrwydd gonest yn gwella ymddiriedaeth y cyhoedd a'r ffordd mae dinasyddion yn ymgysylltu â'r corff.

RSS