A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Egwyddorion Gwneud Penderfyniadau

Yr egwyddorion sy'n tanategu proses gwneud penderfyniadau'r Cyngor yw:

  • Cyfranoliaeth - dylai camau gweithredu arfaethedig gyd-fynd â'r canlyniadau dymunol.
  • Digon o ymgynghori a derbyn cyngor proffesiynol gan swyddogion.
  • Parch i hawliau dynol.
  • Rhagdybiaeth o blaid bod yn agored.
  • Cael nodau a chanlyniadau dymunol clir.
  • Esboniad o'r rhesymau dros wneud penderfyniad.
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Rhaid i holl benderfyniadau'r Cyngor gael eu gwneud yn unol ag egwyddorion:

Bod yn Agored:

Bod yn agored am y penderfyniadau a chamau gweithredu y mae'r Cyngor yn eu cymryd.

Ymatebol:

Gwrando ar bob rhan o'r gymuned a chanfod cydbwysedd a fydd yn cwrdd ag anghenion lleol orau.

Cynrychiolaeth:

Y Cyngor yn gweithredu er budd y gymuned gyfan y mae'n ei gwasanaethu.

Stiwardiaeth:

Sicrhau fod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau'n ddoeth ac yn gyfreithlon, ac er budd y gymuned y mae'n ei gwasanaethu.

Gonestrwydd:

Galluogi'r Cynghorwyr a gweithwyr y Cyngor i weithredu yn unol â'r safonau moesegol uchaf.

Cydraddoldeb:

Sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad i wasanaethau'r Cyngor a chydraddoldeb wrth gyflwyno gwasanaethau i gymunedau Powys.

To top

RSS