A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Partneriaeth gyda'r Gymuned

Strategaeth Gymunedol

Rhoddodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 y cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol, megis Cyngor Sir Powys, i lunio Strategaeth Gymunedol ar gyfer eu hardal. Tra bo'r Cyngor Sir yn arwain y broses hon, mae pob asiantaeth gyhoeddus yn gysylltiedig, ac mae'r strategaeth yn ystyried pob agwedd ar fywyd yn y sir.

Nod y Strategaeth yw sicrhau fod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed, tra hefyd yn gwneud yn siwr fod gwasanaethau lleol, sy'n cael eu darparu gan bwy bynnag, yn cael eu cydlynu'n well. Mae'r broses yn un sy'n ceisio galluogi'r gymuned ac yn rhoi cyfle iddi ddylanwadu ar weledigaeth tymor hir i Bowys, ynghyd â'r ffordd mae adnoddau cyhoeddus yn cael eu dyrannu i gymunedau dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, fel sy'n cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Gwella Corfforaethol y Cyngor. 

Panel y Dinasyddion

Mae Panel y Dinasyddion Cyngor Sir Powys yn cynnwys tua 1,000 o bobl sy'n byw yn y sir ac yn hapus i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau'n rheolaidd ar waith y Cyngor.

Mae bod yn aelod o'r panel yn golygu y gellid gofyn i chi am eich sylwadau ar amrywiaeth o bynciau. Mae pynciau diweddar wedi cynnwys cyfathrebu, cydraddoldeb hiliol ynghyd â Chynllun Gwella Corfforaethol y Cyngor. Bydd ymgynghoriadau sydd i ddod yn cynnwys pa ddarpariaeth gelfyddydol sydd ei hangen ynghyd â gwaith glanhau strydoedd. Byddem fel arfer yn gobeithio eich cynnwys mewn pedwar prosiect ymgynghori'r flwyddyn a byddai'r rhan fwyaf o'r rhain yn cynnwys llenwi holiadur a anfonir naill ai ar e-bost neu drwy'r post.

Mae'r rheini sy'n gwasanaethu ar y panel yn gwneud hynny'n wirfoddol er bod eu treuliau'n cael eu talu pan fyddant yn teithio i grwp ffocws neu gyfarfod arall.

Mae'r Panel yn ceisio bod mor gynrychiadol ag sy'n bosibl o boblogaeth Powys. Fodd bynnag, rydym dal angen rhagor o bobl dan 30 oed ac rydym hefyd angen rhagor o siaradwyr Cymraeg.

To top

RSS