A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Canfod sut a pham mae Powys yn Ymgynghori

Beth yw Ymgynghori?

Mae barn pobl ifanc yn bwysig i ni.
Mae barn pobl ifanc yn bwysig i ni.

Gellir diffinio ymgynghori fel:

- ceisio gwybodaeth neu farn neu gyngor gan rhywun

- ceisio caniatâd neu gymeradwyaeth gan rywun ar gyfer gweithred arfaethedig.

(ffynhonnell - Oxford English Dictionary)

Fel Cyngor rydym yn ymgynghori â chi am y ddau reswm hyn.  Yn gyntaf, rydym am i chi fod yn hapus gyda'n gwasanaethau ni, ac yn ail rydym am gael eich sylwadau a'ch barn chi am unrhyw newidiadau neu gynlluniau newydd er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn ateb eich anghenion chi.

Mae Powys yn sir wledig iawn ac mae cyflwyno gwasanaethau sy'n ateb anghenion ein trigolion i ni yn fusnes anodd.  Mae'n hanfodol ein bod yn ymgynghori â chi ar ein cynlluniau ni os ydym i gael pethau'n iawn.  Hefyd mae gwrando ar eich sylwadau chi a gwrando ar eich syniadau a'ch pryderon chi yn gallu ein helpu ni i wella ein gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i chi fod yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau, ac felly mae ymgynghori yn waith hanfodol i Bowys a Chynghorau eraill.

 

Sut mae Powys yn Ymgynghori?

Tabl
Mae cwsmeriaid yn bwysig - rhowch eich barn i'n helpu i wella ein gwasanaethau

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau ymgynghori, megis holiadur drwy'r post, grwpiau ffocws, cyfarfodydd anffurfiol, arddangosfeydd, cynadleddau, arolygon ffôn a chyfweliadau wyneb yn wyneb i dderbyn eich safbwyntiau.

Rydych hefyd yn ein helpu i wella gwasanaethau pan fyddwch yn cysylltu â ni  gyda sylwadau, cwynion neu geisiadau am wasanaeth. Gallwch wneud hyn nawr ar-lein - Cliciwch yma.

Fel preswylydd a defnyddiwr gwasanaeth, rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn teimlo y gallwch roi eich barn i ni ac y gallwn ymgynghori â chi yn rheolaidd.  Rydym am i chi gael dweud eich dweud!  

Rydym hefyd wedi sefydlu Panel y Dinasyddion, sef grwp o tua 1000 o wirfoddolwyr, yn dod o bob math o gefndir led led Powys. Rydym yn gofyn i Aelodau'r Panel yn rheolaidd am eu safbwyntiau ar yr ystod cyfan o wasanaethau.

Cliciwch yma i wybod rhagor am y Panel Dinasyddion, neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod.

RSS