A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ymgynghoriadau Presennol

Cynigion Ysgol Uwchradd John Beddoes

Ysgol Uwchradd John Beddoes

Mae'r cyngor yn ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Uwchradd John Beddoes yn Llanandras ac i ehangu Ysgol Uwchradd Y Drenewydd.  Y cynnig yw y bydd Ysgol Y Drenewydd yn ysgol dau safle, gan gadw addysg 11 - 16 oed ar y campws yn Llanandras.

Hoffwn glywed eich barn ar y cynlluniau sydd ar gael yn y fan yma.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw 2 Mehefin, 2013.

Cynigion ar Addysg 16 - 19

Mae Cyngor Sir Powys, Coleg Powys ac ysgolion yn sefydlu partneriaeth newydd a fydd yn taro golwg ar sut y mae addysg 16 - 19 oed ym Mhowys yn cael ei gynllunio a'i gyflwyno.  I wybod mwy ac i gael y cyfle i ddweud eich dweud ar y cynigion, cliciwch yma.   Bydd y cyfnod ymgynghori'n cau am 5pm ar 14 Mehefin 2013.

Ymgynghori ar Strategaeth Leol Rheoli'r Perygl o Lifogydd Lleol

Cyfle i ddweud eich dweud ar sut rydym yn rheoli'r perygl cynyddol o lifogydd ym Mhowys. 
Mynnwch olwg ar y strategaeth ddrafft, y dogfennau atodol ac yna llenwch yr arolwg yn y fan yma. 

 

Ymgynghoriadau gan sefydliadau eraill

Cynigion ar ffermydd gwynt ym Mhowys

Dan Ddeddf Cynllunio 2008, mae unrhyw ddatblygwr sy'n cynnig adeiladu rhywbeth fydd yn cael effaith sylweddol ar seilwaith, economi a thirwedd y Sir yn gorfod ymgynghori â thrigolion lleol fel rhan o'r broses.  Wedi hynny, bydd mwyafrif y cynigion hyn yn gorfod cael eu hystyried gan y Comisiwn Cynllunio Seilwaith.  Corff annibynnol yw'r Comisiwn sy'n archwilio ceisiadau i bethau megis gorsafoedd pwer, ffermydd gwynt, meysydd awyr, gwaith trin carthffosiaeth ayb .....

Pwrpas ein tudalennau gwe 'Dweud eich Dweud' yw rhoi cyfle i chi gyflwyno sylwadau ar bynciau y mae'r Cyngor yn ymgynghori arnynt, ond roeddwn yn meddwl y byddai'n briodol i ni ychwanegu unrhyw wefannau ffermydd gwynt fel bod modd i chi daro golwg dros unrhyw gynigion sydd gan ddatblygwyr ac i gyflwyno sylwadau fel y mynnwch.  Cyn cyflwyno eu cais, mae'n rhaid i ddatblygwyr lunio Datganiad Ymgynghori Cymunedol sy'n nodi manylion eu cynlluniau ymgynghori.  Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i gyflwyno sylwadau ar y rhain ac i roi adborth adeiladol.  Bydd y Comisiwn yn ystyried hyn a phryderon eraill sydd gan y cyhoedd wrth ymdrin â phob cais.

Dyma restr o wefannau all fod o ddiddordeb i chi fel trigolion lleol.

Nant-y-moch

Y Grid Cenedlaethol  

SP Manweb

Mynydd-y-Gwynt

Coedwig Dyfnant

 

 

Arolwg Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys yn awyddus i gael eich barn ar Drosedd ac Anrhefn yn eich cymdogaeth.

Os ydych yn byw neu'n gweithio ym Mhowys, llenwch yr arolwg a chael dweud eich dweud am droseddau. 

Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru - Cyfle i gael dweud eich dweud

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu amryw o bolisïau a chynlluniau, ac mae'r ddolen hon yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am eu hymgynghoriadau.

 

Rhowch eich barn i ni
RSS