Children & Young Peoples Partnership - Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Cymryd Rhan » Fforwm Ieuenctid Powys

Fforwm Ieuenctid Powys


Daw Aelodau Fforwm Ieuenctid Powys o bob rhan o'r sir. Mae pawb yn cynrychioli grwp neu sefydliad - er enghraifft cyngor ysgol, coleg, fforwm ieuenctid cymuned leol, gofalwyr ifanc a mudiadau gwirfoddol ym Mhowys.

Bydd y fforwm yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn am benwythnos preswyl. Bydd aelodau'r fforwm yn gweithio'n galed ar faterion, polisiau a deddfwriaeth lleol a chenedlaethol, ond bydd yno hefyd elfen o hwyl bob amser hefyd.

Rwy'n Gynghorydd Sir!
Gwobr yr Uchel Siryf

Adroddiadau

PAVO_Grants_Panel_Report_cy.pdf

244 K

Darllenwch adroddiad y fforwm Ieuenctid o gwrs preswyl mis Gorffennaf 2012. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwaith sy'n ymwneud â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Eich Iechyd Eich Hawliau, hyfforddiant Bod yn Ystyriol, Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid, yr Arolwg Gwasanaeth Ieuenctid a llawer iawn mwy ......

RESIDENTIAL_REPORT_July_2012_cy.pdf

2.0 M

Young_Inspectors_Training_report_April_2012_cy.pdf

3.6 M

Darllenwch adroddiad y fforwm Ieuenctid o gwrs preswyl mis Ebrill 2012. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwaith sy'n ymwneud â Diogelwch ar y Ffyrdd, y Ddraig Ffynci, Facebook, Cynlluniau Gweithredu Cyfranogiad, newyddion ac adborth o grwpiau, materion yn ymwneud â'r drafodaeth dan sylw a llawer iawn mwy ......

RESIDENTIAL_REPORT_April_2012_cy.pdf

458 K

Adroddiadau preswyl

Dyma orolwg o rywfaint o waith Fforwm Ieuenctid Powys dros y blynyddoedd diwethaf:

Cyflawniadau

•       Derbyniodd y Fforwm Gwobr yr Uchel Siryf am Deilyngdod yn y Gymuned.

•       Cwblhaodd yr Aelodau yr Hyfforddiant Arolygwyr Ieuenctid Safonau 
         Cyfranogi Cenedlaethol. 

•       Cymerwyd rhan yn y weithgaredd 'I’m a County Councillor' gydag
         aelodau o'r Cyngor.

•       Datblygwyd Pecyn Hyfforddi ar gyfer Cynghorwyr Sir i fynd mewn
         i
 ysgolion. 

•       Etholwyd pedwar cynrychiolydd i Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru - y
         Ddraig Ffynci.  Etholwyd dau o'r bobl ifanc hyn i'r pwyllgor rheoli.

•       Cwblhawyd gwobr Agored ar sut i Fod yn Gynrychiolydd Effeithiol

•       Wedi helpu i ysgrifennu'r Strategaeth Gyfranogi 2011 - 2014

 

Safonau Cyfranogi Cenedlaethol

Lansiad Safonau Cyfranogi

•       Wedi cynnal peilot o'r hyfforddiant Arolygwyr Ieuenctid ar gyfer Cynulliad Cymru.  Mewnbwn i'r rhaglen hyfforddi derfynol sydd wedi cael ei lansio yng Nghymru (Mai 2010)

•       Arolygwyr Ieuenctid cyntaf i gael eu hyfforddi

•       Cyflwynwyd gweithdai ar lansiad Nod Barcud Safonau Cyfranogi.

 

Ymgynghori

·         Cynllun a chynnwys gwefan PPPI

•         Cymry Ifanc 

•         Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

•         Llais y Dysgwr 14-19

•         Strategaeth Cerddoriaeth Powys

•         Ymgynghoriad ar Foderneiddio Ysgolion

•         Powys Yn Un

•         Ymgynghoriad ar ddeunydd marchnata a chynllun logo Paneli Atebion
           Adnoddau Lleol

•         Ymgynghoriad ar y Gyllideb

•         Ymgynghoriad ar Strategaeth Gyfranogi Awdurdod Heddlu Dyfed Powys 

•         Defnyddwyr Cludiant Cyhoeddus Cymru Gyfan

•         Rhoi cyngor i weithwyr yr Urdd ar sefydlu fforymau

 

Mae aelodau hefyd wedi.....

Spotlight 2011

•         Bod  yn rhan o baneli cyfweld

•         Cwrdd ag aelodau'r PPPI ac wedi eu diweddaru

•         Dod i adnabod a thrafod materion gyda Chynghorwyr Sir 

•         Cwrdd ag Arolygwyr Estyn

•         Ail-ddylunio'r ffurflen Protocol Cyfranogi

•         Pedwar aelod wedi cymryd rhan mewn trafodaeth yn Nhy'r Cyffredin

•         Mynychwyd y Confensiwn Cyngor Ieuenctid Prydeinig yng Nghaerdydd

•         Cynhaliwyd Trafodaeth Dan Sylw llwyddiannus i godi materion sy'n
           achosi pryder i bobl ifanc ym Mhowys

I gael rhagor o wybodaeth am Fforwm Ieuenctid Powys anfonwch e-bost at youth.participation@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 82 6058

 

Fideo 'Just a Minute' gyda Fforwm Ieuenctid Powys

(copy 1)

Arolwg ar Gynghorau Ysgol

Mae Fforwm Ieuenctid Powys yn cynnal Dadl Dan Sylw ar gynghorau ysgol ac maen nhw am gael eich help chi i gasglu gwybodaeth am gynghorau ysgol ledled Powys.

I roi eich barn llenwch ein harolwg ar-lein.  Mae un holiadur ar gyfer aelodau o'r cyngor ysgol ac un arall ar gyfer disgyblion eraill.

Mae'r ddolen i'r arolwg staff wedi cael ei hanfon i ysgolion unigol, ond os ydych yn aelod o staff a hoffech chi gael y ddolen i'r holiadur ar gyfer staff ysgol anfonwch e-bost at john.morgan2@powys.gov.uk

Bydd yr arolygon yn cau ar 17 Ebrill.