A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cynhalwyr Ifanc

Llun o gynhaliwr ifanc
Pobl y gallech fod yn eu hadnabod:

Therapyddion Galwedigaethol:

Gallant fod yn ymweld â'r sawl rydych yn gofalu amdanynt yn eu cartref i'w galluogi i fod mor annibynnol ag sy'n bosibl. Mae eu hangen gan y gall y rhai sy'n derbyn gofal ddod yn ddibynnol ar ofal, ac anghofio sut i ymolchi a choginio eu hunain ac ati.

Gweithiwr Cymorth i Deulu:

Dyma rywun fydd yn gweithio gyda theulu pan fyddant yn cael amser anodd. Gallant weithio â chynhaliwr ifanc trwy unrhyw anhawster sydd ganddynt neu gyda'r teulu cyfan er mwyn rhoi cefnogaeth.

Nyrs Seiciatryddol Gymunedol:

Maent wedi'u lleoli o fewn y Tim Iechyd Meddwl Cymunedol, sy'n debyg i syrjeri meddyg, ond bod gan y sawl sy'n derbyn gofal broblemau iechyd meddwl yn hytrach nag anhawster corfforol. Efallai eu bod yn dioddef o iselder neu Sgitsoffrenia. Gallant hefyd ymweld â chartrefi.

Gofal yn y Cartref:

Gall gofal yn y cartref helpu mewn ffyrdd ymarferol. E.e. ymolchi a gwisgo. Serch hynny, os oes gan rywun broblem iechyd meddwl, gall y cynorthwy-ydd gofal yn y cartref fod yn glust i wrando.

Gweithiwr Cymdeithasol:

Bydd gweithwyr cymdeithasol yn eich helpu chi a'ch teulu i weld pa gymorth a gwasanaethau rydych eu hangen. Gall hyn gynnwys budd-daliadau gofal yn y cartref a seibiant o'r cartref. Byddant hefyd yno i wrando ar unrhyw bryderon sydd gennych.

Nyrs Ardal:

Mae'r nyrs ardal yn cynnwys help a chyngor ymarferol ar ofalu. Gall ymweld â'ch ffrind/perthynas yn y cartref. Gall helpu mewn meysydd fel ymolchi, rhoi tabledi a newid dresin.

Bwlio

Caiff nifer o Gynhalwyr Ifanc eu bwlio yn yr ysgol oherwydd eu rôl yn gofalu. Lluniwyd adroddiad ar gynhalwyr ifanc a bwlio. Mae'n amcangyfrif fod 50,000 o gynhalwyr 18 oed neu iau yn y DG, sy'n helpu i edrych ar ôl ffrind neu berthynas.

 

Dyma rai ffeithiau am fwlio...
  • Mae 71% o gynhalwyr ifanc wedi cael eu bwlio

  • Galwyd 79% yn enwau

  • Arhosodd 20% o'r ysgol oherwydd y bwlio 

  • Ni throdd 33% at eu hathrawon i gael help

Dywedodd rhai cynhalwyr ifanc iddynt gael eu bwlio mewn nifer o wahanol ffyrdd, yn cynnwys cael eu taro a chael pobl yn eu galw'n enwau. Dywedodd rhai iddynt newid ysgol gan fod yr holl herio wedi mynd yn ormod.

Pobl llwfr yw'r bwlis, a dylech ddal eich tir. Gall peidio dweud wrth rywun wneud pethau'n waeth, ac ni fydd yn dod i ben. Os caiff athrawon, rhieni neu weithwyr cymorth wybod beth sy'n digwydd, gallant wneud rhywbeth i wneud yn siwr eich bod yn iawn.


Childline   0800 1111 - Mae'r rhif hwn am ddim, ac ni fydd i'w weld ar fil ffôn.


Mae gan Childline wefan hefyd, yn:  www.childline.org.uk


Llinell Fwlio Childline   0800 449944 (4pm-9pm)


Ymgyrch yn Erbyn Bwlio   0171 378 1446

Neu ffoniwch y rhifau yn y golofn ar y dde i gael cymorth yn lleol.

Ydych chi'n gynhaliwr ifanc heb unrhyw gymorth?

Ydych chi'n gofalu am rywun sydd â phroblem iechyd meddwl?

Cysylltwch â'r: 

Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd
Dydd Llun - dydd Gwener
9am - 5pm
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:
01686 626 749
0781 298 4929 (Ffôn symudol)

Cynhalwyr Ifanc Powys

Os ydych yn gofalu am ffrind / perthynas yn y cartref, yna rydych yn gynhaliwr ifanc ac efallai y gallwn eich helpu chi.

Cysylltwch â:

Sally
Sir Drefaldwyn
07976 835 989

Jane Fletcher
Sir Frycheiniog
07813 777 484

Celia Milne
Sir Faesyfed
07976 553 974

 

Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli???

Allwch chi gynnig ychydig oriau yr wythnos?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:


Biwro Gwirfoddoli Gogledd Sir Drefaldwyn
01938 554 484

Biwro Gwirfoddoli De Sir Drefaldwyn
01686 629 487

RSS