A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Prydau Ysgol a Llaeth

Gwefan Prydau Ysgol Newydd

Nod y Gwasanaeth Prydau Ysgol yw annog bwyta'n iachach: defnyddir bwydlenni a ddewisir gyda'r nod hwn mewn cof a chaiff ychwanegion sydd ag enw am fod yn niweidiol eu hosgoi.

Mewn ysgolion cynradd, mae amrywiaeth o ddewisiadau prydau bwyd ar gael gan gynnwys prydau traddodiadol, salad (anfonir bwydlenni sampl i rieni/cynhalwyr o bryd i'w gilydd).

Gall rhieni/cynhalwyr fynd ar y wefan prydau ysgol yn http://schoolmeals.powys.gov.uk i weld beth sydd ar y fwydlen ysgol, dewis rysait, cael canllawiau ar faeth a gweld dolenni i gemau ar fwyd a bwyta'n iach.

Mae adrannau ar gyfer disgyblion cynradd, myfyrwyr uwchradd a rhieni/cynhalwyr.

 

Llaeth i Blant dan 5 oed

Mae hawl gan blentyn sydd mewn gofal dydd cofrestredig am fwy na 2 awr y dydd i dderbyn ⅓ peint o laeth cyflawn yn rhad ac am ddim. Mae ysgolion sy'n darparu lleoedd i blant 3 oed wedi'u cynnwys o fewn y ddarpariaeth hon.

 

Llaeth i Ddisgyblion Cyfnod Sylfaen / Cyfnod Allweddol 1

Darperir ⅓ peint o laeth cyflawn i bob disgybl 5 - 7 oed yn ystod amser egwyl yn rhad ac am ddim.

Cyswllt Gwasanaeth

Tîm Cynhwysiant Disgyblion

Cyfeiriad E-bost: pupil.inclusion@powys.gov.uk

Teleffon: 01597 826715

Cyfeiriad:
Tîm Cynhwysiant Disgyblion
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Dolenni Defnyddiol:

Prydau Ysgol am Ddim

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol, llenwch y ffurflen a bydd aelod o staff yn cysylltu â chi.


Drwy yrru'r ffurflen hon 'rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen ac yn derbyn y datganiad preifatrwydd isod

Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-

  1. Defnyddir yr wybodaeth am y rheswm a gytunwyd ac edrychir ar ei hôl yn ddiogel
  2. Cedwir yr wybodaeth am gyhyd ag sy’n angenrheidiol yn unig neu i gydymffurfio â gofynion statudol ac yna bydd yn cael ei dinistrio yn ddiogel.
  3. Os oes angen rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau eraill bydd yr adran neu’r gwasanaeth dan sylw yn gofyn am ganiatâd penodol (wedi ei arwyddo) cyn gynted â phosibl oni bai ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y ddeddf ddatgelu’r wybodaeth.

Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.

RSS